ANERCHIAD Y GWEINIDOG


Mae’r byd wedi newid yn hollol ac yr ydym mewn argyfwng na fu mo’i debyg oddi ar ffliw 1918 pan fu farw dau gan mil o bobol y Deyrnas Unedig. Collwyd eisoes 75,000 yn y corona firws a gofidiwn y golled i deuluoedd a chymunedau. Daliwn mewn enbydrwydd. Oddiar Mis Mawrth peidiodd ein cyfarfyddiad oherwydd y pandemig peryglus sydd ym mhob gwlad a chwmwd. Daeth ymwared i ni fel eglwys trwy yr hyn a elwir yn Zoom. Daeth fel petai yn ddi-rybudd a bu’r dechnoleg yn achubiaeth i leddfu hiraeth am ein gilydd a’n teuluoedd. Adeg y Nadolig bu ein teulu ar Zoom am oriau a braf oedd hynny. Roedd Harpenden a Llundain yn ein ystafell ni a sgwrsio di-ddiwedd rhyngom fel tri teulu.

Mae pwysigrwydd Zoom yn bwysig iawn eleni, ac yr ydym fel gofalaeth wedi manteisio ar y dechnoleg ddigidol i gynnal oedfaon bendithiol bob bore Sul o Hydref i ddiwedd y flwyddyn a bydd hynny yn parhau yn 2021. Roedd y cynllun o gynorthwyydd bugeiliol wedi dechrau yn dda a’r Parchedig Robert Parry a minnau yn bugeilio a chynnal y dystiolaeth. Daeth y feirws i’n cyfyngu ond goresgynnwyd y cyfan drwy gynnal oedfaon a chyfarfodydd eraill. A da clywed fod hyn yn digwydd trwy Gymru gyfan. Meddylir am bentref bychan Bronant yng nghefn gwlad Ceredigion, lle y ceir capel eang ac yno y bu y diweddar Barchedig William Jones yn gweinidogaethu cyn dyfod i Stanley Road, Bootle a Walton Park. Wrth sylwi’r defnydd yr oedd rhai o gapeli mawrion Aberystwyth yn gwneud o’r dechnoleg newydd, bu sawl aelod ym Mronant (maent yn ddi-fugail) yn dechrau gofyn a fyddai rhywbeth ar hyd yr un llinellau’n bosibl iddyn nhw. A dyma nhw yn mynd ati yn nerth yr Efengyl dragwyddol i baratoi cyfres o fyfyrdodau ysbrydol, crefyddol, wythnosol. Bellach y mae wedi para fwy na tri deg wythnos. Erbyn hyn mae nifer fach wedi mynd yn nifer llawer mwy ac yn ei wneud yn anodd sicrhau rhan yn y gwasanaeth i bob Cristion sydd am gymryd rhan yn y myfyrdodau hyn; a chofier fod pob un o’r cyfraniadau a geir dros Zoom wedi eu cyfansoddi gan y cyfranwyr eu hunain.

A dyna ddigwyddodd i ninnau yn Bethel a Bethania. Mae oedfa Zoom wedi cynyddu, a chawn yn awr aelodau o Ddosbarth Manceinion a Seion, Penbedw yn ymuno a ni o Sul i Sul. Daw eraill o Gymru, o Ogledd Sir Benfro ac o Swydd Hertford, Llundain a Chumbria. Cynyddodd y galw a chawn gwmni ffyddloniaid Achos Crist o Wolverhampton a Deganwy (rhieni y Parch Robert Parry) ac yn awr yr ydym yn llawenhau am yr hyn sydd gennym. Mae’r pesimistiaid oedd yn ofni y byddai cyfryngau Newydd yn tanseilio eu capeli, ond fel arall y bu, cryfhau ein tystiolaeth a rhoddi cyfle i bobol nad oedd yn medru dod atom, yn awr, i fod yn bresennol ym mhob oedfa.

Mae’n amser gobeithiol gan y byddwn yn 2021 yn croesawu gweinidog llawn amser i ofalu amdanom a gwnaeth y Parchedig Robert Parry le cynnes eisoes yn ein plith. Cawsom golled trwy farwolaeth yn ystod y flwyddyn ac y mae ein nifer yn fach iawn. Clywsom y bydd Mr John Lyons yn ein gadael yn 2021 a diolchwn iddo am ei holl arweiniad a’i wasanaeth. Awgrymais ei enw i S4C ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’ a bu ei gyfraniad ar y rhaglen honno yn foddion gras. Clywsom ei gyfraniad fwy nag unwaith gan ei fod mor deimladwy ac ysbrydol ei fynegiant. Byddaf yn gweld ei golli yn fawr, bu yn gefn mawr i’m gweinidogaeth, a gwn y cawn ffarwelio naill a’i dros Zoom neu yn Eglwys Crist. Diolch i’r holl swyddogion am ei gwaith graenus ac am gynnal Bethania fel eglwys fechan, gynnes sydd yn dweud yn dda am Iesu Grist.

Rhyw bryd neu'i gilydd, efallai yn 2022 y daw dyddiau gwell. I ni fel Eg lwys yn Crosdby Road South, Waterloo. Dyna’n gweddi a’n dyhead, gweld dyddiau duon, satanaidd, Cofid 19 yn gwasgaru o’n byd a ninnau yn cyfarfod gyda’n gilydd o amgylch Bwrdd yr Arglwydd, ac mewn aml I oedfa gofiadwy arall. Nid wyf yn disgwyl y bydd y sefyllfa'r un fath yn 2022 ac yr oedd hi yn 2019 a 2018. Diflannodd hynny gyda’r feirws. Rhyw ‘normal newydd’ yw’r disgwyliad. Oedfa dwywaith y mis mae’n debyg yn y Capel ac yna ein Pwyllgorau a chyfarfodydd Henaduriaeth ar Zoom. Os medrwn ni barhau ar hyd y llinellau hynny ni fydd angen pryderu ac ni fydd pellter ffordd yn broblem o gwbl. Nid ydym am golli'r gynulleidfa Zoom, mae’n rhaid ei bwydo hwy, a manteisio ar gyfleon newydd. yn ein hanes. Bu hanes Bethania ar dudalennau'r Angor bob mis fel cynt a diolch am hynny. Rwy’n hyderus y bydd y byd Newydd ar ol trechu y coronafeirws yn fyd i ymhyfrydu ynddo am mae byd Duw ydyw, byd lle mae Iesu Grist yn Geidwad a’r Ysbryd Glân yn ein cynnal o awr i awr. Bendith arnoch fy nghyfeillion yn Eglwys garedig, gyfeillgar Bethania.

Yn ddidwyll,

D. Ben Rees,

Gweinidog yr Eglwys

4 Ionawr 2021