Jim Griffiths (Welsh Version)

A biography of Jim Griffiths, a prolific welsh politician..........

Cyflwyniad ("Introduction", English version further down):

Cyfrannodd James Griffiths yn hael i fywyd Cymru. Bu'n is-Iywydd ac yn llywydd llwyddiannus

Ffederasiwn Glowyr De Cymru mewn cyfnod enbyd 0 galed yn hanes y 'Ffed' a de Cymru'n

gyffredinol, mewn gwirionedd. Yna, bu'n Aelod Seneddol Llafur etholaeth Llanelli (1935-70) ac 0

fewn pum mlynedd o'i ethol fe'i dyrchafwyd i fod yn ysgrifennydd y Blaid Seneddol Gymreig ac efo

a Henry Morris-Jones fu'n cynnal y trafodaethau anodd gydag Adran yr Arglwydd Ganghellor a

arweiniodd at basio DeddfLlysoedd Cymru 1942 yn deddfu bod hawl gan y Cymro i ddefuyddio'r

Gymraeg yn y llysoedd barn yng Nghymru. Roedd yn ddirwestwr 0 argyhoeddiad a bu'n flaenllaw yn

y mudiad dirwest yng Nghymru ac yn Lloegr ac yn yr ymgyrchoedd dros gadw'r tafarndai ar gau ar y

SuI. Yn ddiddorol iawn, er bod y mudiad dirwest erbyn yr ymgyrch olafwedi colli'r gafael fu ganddo

ar feddwl y wlad, fe ddaliodd James Griffiths i roi o'i amser a'i egni i'w gefnogi.

Y n ddi-gwestiwn ei brif gyfraniad i Gymru oedd ei frwydr galed a llwyddiannus, 0 ddiwedd y

pum degau ymlaen, i argyhoeddi'r Blaid Lafur i fabwysiadu datganoli fel rhan hanfodol o'i pholisi i

gwrdd a'r 'cwestiwn cyfansoddiadol' oedd wedi codi yng Nghymru. Nid gormod yw dweud ei bod yn

amhosib gorbwysleisio'r cyfraniad hwnnw gan mai dyna a arweiniodd at sefydlu Ysgrifenyddiaeth

Cymru ym 1964 (ac yntau oedd y cyntaf i'w benodi i'r swydd) ac, wedi hynny, at Gynulliad

Cenedlaethol Cymru ym 1998. Yn wir, heb y cyfraniad hwn, ni fuasai Cymru'r hyn ydyw heddiw.

Roedd penodi James Griffiths i fod yn Ysgrifennydd cyntafCymru, ac yntau eisoes wedi byw

bywyd llawn, yn rhagluniaethol oherwydd roedd ganddo adnoddau eithriadol werthfawr ar gyfer y

swydd: pe na bai ond am y parch mawr oedd gan aelodau cyffredin y Blaid Lafur a'r Undebau tuag

ato; y profiad 0 sefydlu'r Weinyddiaeth Yswiriant Gwladol (1945-50); ei brofiad fel Ysgrifennydd y

Trefedigaethau (er ei fod wedi tynnu cenedlaetholwyr Cymreig yn ei ben wrth dderbyn y swydd) ac

fel aelod o'r Cabinet (1950-51); ei allu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg, a chanddo gariad at Gymru a'r

Gymraeg a ddaeth iddo'n etifeddiaeth oddi wrth gape I Gellimanwydd (Rhydaman), magwrfa nodedig

cymaint 0 bregethwyr a gweinidogion Ymneilltuol y cyfnod, ac aelwyd ei rieni yn y Betws. Gwelir ei

fod yn wr a allai bontio rhwng de a gogledd Cymru.

Rhoddodd James Griffiths bwys mawr ar deyrngarwch yr aelodau j'r Blaid Lafur a'r Undebau

Llafur (ac yn wir i'r holl fudiadau a chyfeillion y bu ganddynt ran yn ei fywyd). Iddo ef, roedd

teyrngarwch yn rhinwedd anhepgor: Ond y mae'n deg dweud, hefyd, iddo ef ei hun ar drothwy'r Ail

Ryfel Byd benderfynu cefnu ar yr heddychiaeth y bu'n ei choleddu ag argyhoeddiad am dros chwarter

canrifhyd at hynny. Felllawer 0 ddynion ifanc a deallusion y tri degau, newidiodd ei feddwl a

chefnogodd fynd i ryfel i orchfygu bygythiad cynyddol y Natsiaid a'r Ffasgwyr i werthoedd gwledydd

gwar. Ond yr oedd ei newid meddwl a'i gefnogaeth se log i'r Ail Ryfel Byd yn destun beirniadaeth

lem ar y pryd gan leiafrifbychan o'i gyd-Gymry.

Yn ei henaint, hoffai sgwrsio am yr arweinwyr newydd yn y cyn-drefedigaethau Prydeinig

oedd wedi arwain eu gwledydd tuag at annibyniaeth. A hoffai son hefyd am hen gymeriadau difyr y

Betws neu am y Ffed, neu'r Ty'r Cyffredin. Nid wy'n cofio ei glywed erioed yn siarad yn wael am ei

wrthwynebwyr (ac eithrio'r un gwr hwnnw y soniais amdano yn Cynhaeaf Hanner Canrif). Mae un

peth arall i'w ddweud am ei sgyrsiau. Er nad oedd, fel ei frawd Amanwy, yn fardd, gallai adrodd

degau 0 linellau 0 farddoniaeth Gymraeg a Saesneg oddi ar ei gof.

Cefais y fraint 0 ddod i'w adnabod yn dda ac i fod yn agos ato ac i gydweithio ag efyn ystod

dau ddegawd olaf ei fywyd - degawdau pur ddramatig yn hanes Cymru. Treuliais benwythnos gydag

ef a Mrs Griffiths yn eu cartrefyn Llundain. Medraf dystio'n sicr a chyda diolch am ei gefnogaeth a'i

gyngor i'r sawl yn rhengoedd Llafur a oeddyn dymuno cael ei help er lies Cymru.

Fel pawb ohonom, nid oedd James Griffiths heb ei ffaeleddau. Ym marn datganolwyr, bu'n

dawedog yn rhy hir cyn dangos ei ochr, ond nid yw'r rhesymau am yr oedi, os bu oedi 0 gwbl, eto'n

glir. Ac efallai fod ganddo rai obsesiynau: ai obsesiwn ar ei ran oedd mynnu llunio'r polisi 0 blannu

tref newydd yng nghanolbarth Cymru, efallai? Mae hwn yn gwestiwn sy'n anodd ei ateb, a chofiwn

fod arweinwyr heddiw yn galw fwyfwy am gryfhau seiliau economaidd Cymru wledig i gadw'r

Gymraeg yn fyw.

Dyna fraslun anghyflawn iawn 0 hanes bywyd lames Griffiths, a syniad am rai o'r problemau

dyrys y daeth wyneb yn wyneb a nhw. Eisoes cawsom draethawd meistraidd ar y dylanwadau cynnar

a fu'n Ilunio'i argyhoeddiadau gwleidyddol gan yr Athro Beverley Smith - dylanwadau nad oedd rhai

o'r adolygwyr yn Lloegr yn gynefin a nhw. Ceir yr astudiaeth honno yn y gyfrol James Griffiths - and his times, a gyhoeddwyd gan Blaid Lafur Cymru ym 1978. Erys y traethawd hwn yn awdurdodol wrth

reswm.

Bellach, ac yn agos i ddeugain mlynedd wedi mynd heibio er pan fu farw lames Griffiths,

dyma gofiant sylweddol iddo gan y Parchedig D. Ben Rees y mae angen amdano. Mae hwn yn gofiant

disgybl edmygus i'w athro. Fy mraint a'm hanrhydedd yw cyflwyno'r gwaith i sylw'r cyhoedd, ac yn

arbennig i bawb sy'n ymddiddori yn hanes Cymru fodern. Y mae gwreiddiau'r awdur yn ddwfn yn

nhir Ymneilltuaeth de-orllewin Cymru, yr Ymneilltuaeth honno a fu'n ddylanwad mor amlwg ar

fywyd James Griffiths. Mae'r gyfrol yn ffrwyth blynyddoedd a waith er nad yw dweud hynny yn rhoi

syniad a'r gweithgarwch egniol ar ran yr awdur: teithio a'i gartref i gasglu gwybodaeth yn y L1yfrgell

Genedlaethol, yn Archifau Cyngor Sir Gaerfyrddin, yn Llyfrgell Undeb y Glowyr ym Mhrifysgol

Abertawe, yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew, ger L1undain, ac yn Archifau'r Blaid Lafur ym

Manceinion. Bu hefyd yn cloddio yn lIenyddiaeth a chofnodion pwyllgorau'r Blaid Lafur a

Chymdeithas y Ffabiaid ac yn gohebu a sgwrsio ag ysgolheigion, cyfeillion a pherthnasau

cydweithwyr lames Griffiths. Felly, mae'r wybodaeth a geir a fewn y gyfrol hon yn syfrdanol a eang

am ddigwyddiadau, cyflawniadau a chymeriadau. Rwyf innau'n ddiolchgar am y cyfle a gefais i

ddarllen y cofiant yn ei ffurf gynnar, i godi nifer a gwestiynau a ystyriwn yn berthnasol ac i awgrymu

rhai ffynonellau newydd a wybodaeth. Mae maint ein dyled yn enfawr i'r Parchedig Ben Rees am ei

lafur a'i ddycnwch a'i egni creadigol yn darparu'r ffenestr hen ar fywyd James Griffiths.

Cymeradwyafy cofiant hwn a'i eiddo yn galonnog iawn. Mae'n gyfraniad pwysig i'n

dealltwriaeth a sut y tyfodd lames Griffiths i fod y mwyaf dylanwadol a ddigon a'r arweinwyr a

frwydrodd 0 fewn y Blaid Lafur dros ddatganoli lIywodraeth Cymru i Gynulliad Etholedig i Gymru.

Gwilym Prys Davies

Reviews:

By J. Graham Jones:

Wele gyfrol sylweddol dros ben mewn mwy nag un ystyr, astudiaeth safonol a fydd yn sicr yn apelio'n fawr at bawb sydd yn ymddiddori yn hanes gwleidyddol ein gwlad. Bydd yn sicr o dderbyn croeso cynnes.

Roedd y Gwir Anrhydeddus James Griffiths yn un o'r ffigyrau amlycaf o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru o'r 1930au hyd at ei farwolaeth ym 1975. Gwasanaethodd fel yr AS dros etholaeth Llanelli o 1936 hyd at ei ymddeoliad ym 1970. O fewn gwleidyddiaeth Prydain Fawr yn ogystal roedd ei gyfraniad o bwys aruthrol mewn nifer o swyddogaethau gwahanol. Yn fwyaf arbennig fel y Gweinidog dros Yswiriant Cenedlaethol dan Attlee, 1950-51, yna fel Gweinidog y Trefedigaethau, 1950-51, swydd a welodd ei ddyrchafiad i gabinet y Blaid Lafur, ac yn olaf fel yr Ysgrifennydd cyntaf dros Gymru o dan Harold Wilson, 1964-66. 'Does fawr o syndod i bobl falch gorllewin Cymru, a oedd yn ei edmygu'n fawr iawn, ei gyfarch yn gynnar iawn yn ei yrfa fel 'ein Jim ni', un a oedd yn siŵr o fynd ymhell yn ei yrfa.

Tan yn ddiweddar doedd neb wedi mentro ar y dasg o lunio cofiant academaidd llawn i'r ffigwr hollbwysig hwn, cyfraniad a oedd ei ddirfawr angen. Roedd Jim Griffiths ei hun wedi llunio cyfrol o atgofion difyr sef Pages from Memory, gwaith a gyhoeddwyd gan gwmni Dent ym 1969, ond roedd yr awdur yn hynod o ofalus, yn wylaidd ac yn gyndyn i ddatgelu llawer iawn o wybodaeth. Yna, yn 2014, cyhoeddodd yr awdur presennol (a fu'n astudio Griffiths yn arbennig o ddifrif ers o leiaf 2009) gyfrol o gofiant yn yr iaith Gymraeg sef Cofiant James Griffiths: Arwr Glew y Werin (Gwasg y Lolfa), astudiaeth a oedd yn gyfraniad aruthrol bwysig, a rhoddwyd croeso cynnes i'r gwaith. Mae'r Dr Rees yn edmygu ei wrthrych yn fawr iawn, ond nid yw'n ei eilyn-addoli. Drwy gydol ei gofiant mabwysiadodd agwedd ddi flewyn ar dafod at ei waith.

Addasiad i'r Saesneg o gyfrol 2014 a gynigir inni yma. Mae ganddi nifer fawr iawn o gryfderau pendant. Trawiadol yw'r rhan bwysig a chwaraeodd yr awdur ei hun o fewn gwleidyddiaeth Llafur byth ers ei ddyddiau ysgol yn y 1940au ymlaen, ymrwymiad a ddylanwadodd yn fawr ar ei ymchwil bersonol a'i ysgrifennu. Yn ail, bu mewn cysylltiad personol gyda Jim Griffiths, o leiaf ar adegau, o etholiad cyffredinol 1959 ymlaen. Yr adeg honno fe fentrodd Griffiths i Sir Aberteifi i annerch cyfarfodydd cyhoeddus ar ran yr ymgeisydd Llafur ar y pryd sef Loti Rhys Hughes.

Yn drydydd, amlwg iawn yw adnabyddiaeth yr awdur o'r archif sylweddol o bapurau James Griffiths ei hun sydd yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol. Bu'r awdur hefyd yn twrio o fewn nifer o archifau eraill sydd yn y Llyfrgell ac mewn archifai eraill, ac mae'n amlwg iddo ddarllen yn rhyfeddol o eang ar hanes y Blaid Lafur yng Nghymru'n arbennig ac o fewn Prydain Fawr yn fwy cyffredinol – ar gyfer yr astudiaeth hon ac amryw eraill. Hefyd roedd modd iddo gyfweld nifer o gyfeillion mynwesol Jim Griffiths, pobl fel y diweddar Gwilym Prys Davies, un a oedd Rees a Griffiths ill dau yn ei barchu'n fawr iawn dros ben.

Y canlyniad yw cofiant cytbwys, hynod o deg a darllenadwy, gwaith arloesol sydd yn bleser pur ei ddarllen o glawr i glawr. Yr hyn sydd yn creu argraff anghyffredin o bwerus arnom yw dealltwriaeth Dr Rees o'r hanes lleol cymhleth a'r cysylltiadau teuluol sydd yn goleuo blynyddoedd cynnar Jim Griffiths a'i fagwraeth o fewn Cwm Amman, ardal a oedd yn fwrlwm o fywyd diwylliannol a llenyddol a gweithgareddau anghydffurfiol. Ac un o'i frodyr oedd y bardd Cymraeg tra adnabyddus Amanwy (David Rees Griffiths), un sydd yn dod i'r amlwg yn y stori hon o bryd i'w gilydd.

Yr ardal hon oedd canolbwynt y diwydiant glo carreg, ac yma daeth gwleidyddiaeth Llafur i'r brig yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Ac, fel y dangosir yma, Jim Griffiths oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu cangen o'r Blaid Lafur Annibynnol yma yn Rhydaman. Roedd Griffiths a'i gyfeillion adain dde yn benderfynol o wrthod y Rhyddfrydiaeth ddofn a ffurfiodd asgwrn cefn daliadau gwleidyddiaeth eu rhieni, unigolion a oedd yn addoli ffigyrau fel W. E. Gladstone, T. E. Ellis ac, ychydig yn ddiweddarach, David Lloyd George. Roedd gwleidyddion Llafur fel Jim Griffiths a Nye Bevan yn hoffi honni iddynt ar ôl 1945 ymestyn tasgau angenrheidiol a oedd Lloyd George yntau wedi gosod seiliau cadarn ar eu cyfer cyn blynyddoedd y Rhyfel Mawr.

Mae'r Dr Rees wedi llwyddo drwy gydol yr astudiaeth i greu cydbwysedd arbennig rhwng y sylw a roddir i gampau gwleidyddol niferus Jim Griffiths a'i fywyd personol a theuluol yn Llanelli ac o fewn dinas Llundain, ac yn rhoi sylw teg i'w gyfraniad yn San Steffan a'i rôl o fewn Cymru fach lle ymladdai'n ddygn dros gonsesiynau graddol i'r ymdeimlad o genedligrwydd a oedd ar dwf drwy gydol ei yrfa.

Yn ein hoes ninnau mae nifer o gefnogwyr datganoli yn ystyried Griffiths fel un o dadau'r mudiad a arweiniodd at sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol Cymreig o fewn Bae Caerdydd ym 1999. Diolch i'r Dr Rees, bydd y ddau gofiant hyn yn sicrhau na fydd campau a chyfraniad Jim Griffiths byth yn cael eu hanghofio gan genhedlaeth iau o ddarllenwyr sydd o reidrwydd llawer iawn llai cyfarwydd gyda'r digwyddiadau a olrheinir mor gelfydd yma gan yr awdur.

Nid y lleiaf o ragoriaethau niferus yr astudiaeth wych hon yw'r casgliad o ffotograffau a darluniau a ddewiswyd gan yr awdur. Gwasg Gomer, Llandysul oedd yn gyfrifol am argraffu'r gyfrol, a gwnaethpwyd hyn i'r safonau uchaf posibl. Yn ogystal ceir mynegai reit fanwl. Mae'r Dr Rees a Chyhoeddiadau Modern Cymreig wedi cynhyrchu cyfrol sydd yn hollol deilwng o Jim Griffiths.