Y Parchedig H. D. Hughes (1885-1947), Caergybi1, a’i fab, yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos (1916-2001)

This is the account of the close relationship between father and son in religion, interests, concerns but not in political parties. H D Hughes was a fervent member of the Liberal Party as most Welsh Non-conformists were and so was his son as a student in the University in Aberystwyth. However, when he came back to his home town of Holyhead in 1936 after graduating and witnessed the unemployment in the port he switched sides; like another Liberal did in Liverpool namely Michael Foot of Plymouth who became in 1980 leader of the Labour Party. His father was not pleased that his son stood against the daughter of the famous Welsh politician David Lloyd George. Both Lloyd George and his loyal friend Reverend H D Hughes had died before Cledwyn Hughes gained Anglesey for Labour from hands of Megan Arfon Lloyd George in the General Electioin of 1951 and kept the seat till 1979 when he went to the house of Lords.

Summary:

This article looks at the relationship between a distinguished Welsh Presbyterian Minister in Holyhead, Reverend Henry David Hughes (1885-1947) and his influential son, the Labour politician, Lord Cledwyn of Penrhos (1916-2001) and MP for Anglesey 1951-1979.

His father was heavily involved as a popular preacher, devoted pastor to his congregation at Disgwylfa Chapel, London Road, Holyhead from 1915-1947, and an influential Liberal in Anglesey as one of the foremost supporters of sitting MP, Megan Arfon Lloyd George. His son Cledwyn Hughes was nurtured in Liberalism as well as in Presbyterianism, but after graduating from the University College of Wales, Aberystwyth, in 1937 he changed his political allegiance and became a member of the Labour Party in 1938. To complicate matters he accepted the nomination to stand as a Labour candidate in the General Election of 1945 against his father’s favourite politician. The reasons for his political conversion is analysed and his father’s disappointment is evidently underlined. During the 1945 Election he kept out of his usual campaigning. His son describes him as one who stayed in the Manse and in the activities of the chapel during the campaign but behaving as ‘a lion in a cage’.

But Cledwyn Hughes never forgot his father’s gifts, his diplomacy, his command of the Welsh language, his compassion for the unemployed and poor. His leadership in Holyhead during the hungry thirties was exceptional. Cledwyn Hughes followed in his father’s footsteps as a notable lay preacher, an elder for 50 years who regarded the colleagues of his father as men of God. They were regarded at all times with the utmost respect. Cledwyn Hughes had a difficult task in winning the Anglesey constituency, he did so at the third attempt in 1951. 1946 and 1947 were difficult years for him as he lost his mother and father and his grandmother within 9 months. But in that period he met a fellow Presbyterian, from Holyhead , Jean Beatrice Hughes, and they were married in 1949. They became an impressive partnership and she was of immense help to him in his political life from 1951 to 2001 and as an elder in his father’s chapel for the same period. They were blessed with a daughter and a son., and his nephews were the Presbyterian ministers Rev Tudor Owen, Birmingham and his brother Rev.D.H. Owen,Cardiff.. In 1979 he was made Lord Cledwyn of Penrhos and from 1982 to 1992 led the opposition in the House of Lords where he endeared himself to his colleagues of every party.

The author intends to produce two biographies, one in Welsh, the other in English of Lord Cledwyn of Penrhos in 2017 and 2018. On the centenary of Cledwyn Hughes ‘s birth ( September 2016) he delievered in Welsh a lecture at the Sir Kyffin William’s lecture room at Oriel Mon in Llangefni before a capacity audience , under the auspices of Anglesey County Council. The Mayor of Anglesey Concillor Bob Parry presided and the vote of thanks was given by Councillor Vaughan Hughes He was asked by the National Library of Wales, Aberystwyth in October 2016 to deliver a lecture on the Centenary of Lord Cledwyn of Penrhos under the chairmanshire of Pedr ap Llwyd In Februrary 18 2017 he delivered at Llandrindod on Cledwyn Hughes and Liberalism to the Lloyd George Society weekend . School. Dr Rees has also delieverd lectures on Lord Cledwyn in 2017 at Liverpool as well as Denbigh.

Full Lecture:

Cydnabu yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos mae’r dylanwad pennaf arno fel dyn, gwleidydd a chrefyddwr oedd ei dad, y Parchedig Henry David Hughes (1885-1947). Y mae portread y Parchedig Emlyn Richards ohono yn y gyfrol Pregethwrs Môn (Caernarfon, 2003) yn gwbl gyfareddol.

Dau beth amlwg i’w gydnabod yn hanes teulu H. D. Hughes oedd eu cyfraniad arloesol i fyd y chwareli yn ardal Dinorwig ac fel selogion achosion y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn Arfon. Cododd John Hughes, hen daid H. D. Hughes, gapel ym mhentref Dinorwig. Sefydlodd mynwent yn Neiniolen.2 Mab i’r gŵr grymus hwn oedd Henry Hughes, Fron Dirion, Dinorwig, a ganwyd iddo ef a’i wraig, saith o blant. Y mab hynaf oedd David Hughes a anwyd yn 1864, ef oedd tad H. D. Hughes. Symudodd y teulu gwerinol a gweithgar yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif i Bontrhythallt, lle bu dwy o’r merched, Anne yn cadw siop Eryri a’i chwaer ieuengaf, yn fam i ddau a ddaeth yn Weinidogion yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, y Parchedigion. Tudor Owen a Dafydd Henry Owen.3

Yn ddeuddeg oed aeth H. D. Hughes gyda’i dad David Hughes, Fron Heulog, i ddysgu’r grefft o fod yn chwarelwr a chael ei drwytho yn niwylliant y chwarel a’r gwleidyddiaeth wrth sefydliadol. Yno y bu am naw mlynedd a lluniodd y Parchedig H. D. Hughes gyfrol bwysig Y Chwarel a’i Phobl, cyfrol a gafodd ganmoliaeth y nofelwraig Kate Roberts a’r beirniad llenyddol, Syr Thomas Parry. Golygodd ei ail fab David Lloyd Hughes (1922-1995) y gyfrol, a chafwyd cyflwyniad cynnes gan y mab hynaf, Cledwyn a’i cyflwynodd fel un a glywodd yr alwad i ‘gysegru ei hun i fugail gofalon bugail’.4 Felly yn 1907 gadawodd Henry D. Hughes y chwarel am fyd llawer mwy deniadol na byd y creigiau. Perthynai’r adeg honno i’r hyn a elwid yn ‘Sanhedrin Pontrhythallt’ sef grŵp anffurfiol o fechgyn ieuainc fel yntau yn ystyried y Weinidogaeth5 fel llwybr bywyd. Roedd ei daid wedi sefydlu achos ym Mhontrhythallt y flwyddyn honno ac ef oedd y bachgen cyntaf i wynebu’r alwedigaeth o’r ddiadell ifanc. Gan nad oedd ganddo gefndir addysgol, ymunodd am hyfforddiant yn Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, yna i Ysgol Ragbaratoawl Bala, ac yna i’r Coleg Diwinyddol yn yr un dref. Daliodd H. D. Hughes yn gadarn ei gred yn ei arwr D. Lloyd George, syniadaeth Cymru Fydd, er bod y Mudiad Llafur trwy sosialwyr Cymreigaidd fel David Thomas a’r Parchedig Silyn Roberts yn denu llawer o’i gyfoedion i wrando ar Keir Hardie a sêr eraill y Blaid Lafur Annibynnol yn Arfon.6

Ordeiniwyd y cyn-chwarelwr yn weinidog yn 1913 a derbyniodd alwad i ddau gapel yn ardal Conwy, y Tabernacl a’r Gyffin. Byr fu ei arhosiad yno, ond dyma’r adeg y priododd â merch o’i gynefin, Emily Davies (1884-1946). Ar 9 Awst 1906 priododd Emily gyda John M. Davies yng nghapel y Rhos a ganwyd mab iddynt, Emlyn, yn Siop Eryri, ar 22 Mai 1907. Blwyddyn yn ddiweddarach bu farw’r tad yn 27 oed gan adael gweddw ifanc 24 oed a mab bychan deuddeg mis oed i’w fagu. Ond o fewn wyth blynedd unwyd hi mewn briodas gyda’r gweinidog H. D. Hughes.7 Yn 1914 derbyniodd ef alwad i gapel Disgwylfa, Caergybi. Symudodd gweinidog Disgwylfa, John Evans, i Llanddona a llwyddodd y Pwyllgor Bugeiliol a chael olynydd iddo mewn ychydig wythnosau. Symudodd H. D. Hughes, ei briod Emily, ac Emlyn i 13 Teras Plas Hyfryd, Caergybi a phan anwyd Cledwyn ar 14 Medi 1916 roedd ganddo hanner brawd i’w warchod.

Yr oedd Cledwyn Hughes wedi ei eni i gartref unigryw yn hanes Cymru yr ugeinfed ganrif, sef Y Mans. Y mae meibion a merched y Mans wedi cyfoethogi bywyd Cymru yn helaeth ym mhob cylch, a deil hynny o hyd yn wir. Mewn deugain mlynedd arall bydd y stori yn dra gwahanol yn ôl tueddiadau heddiw. Sonia Cledwyn Hughes ei fod yn cofio pymtheg gweinidog ordeiniedig llawn-amser yn nhref Caergybi yn yr enwadau Ymneilltuol, gyda dau offeiriad a dau giwrat.8 Yr oedd ei enwad ef yn meddu ar bum capel, sef Armenia, Disgwylfa, Hyfrydle, Ebeneser (Kingsland) a Chapel Saesneg Stryd Newry. Ceid gweinidogion grymus ym mhob un o’r capeli. Disgrifiodd y mab ei dad fel dyn byr, chwim ei feddwl, penderfynol ac yn bregethwr o’i gorun i’w sawdl.

Yr oedd y Parchedig H. D. Hughes yn perthyn i genhedlaeth o weinidogion oedd yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth y Blaid Ryddfrydol. Y prif faterion oedd datgysylltiad yr Eglwys Wladol yng Nghymru, addysg dilyffethair, dirwest ac argyhoeddiadau yn ymwneud â brawdgarwch Cristnogol. Ceid cydymdeimlad â rhai oedd yn dioddef gormes ar gyfandir Ewrop neu ar unrhyw gyfandir arall ond yng nghysgod Lloyd George, gwleidyddiaeth gwrth ryfel yn erbyn y sefydliad Torïaidd ydoedd yn ei hanfod, boed hynny ar lefel landlordiaeth neu yn idiom gwrth-Gymreigrwydd.

Cafodd H. D. Hughes rai blynyddoedd yn Henaduriaeth Môn i weld dau o’r cewri Rhyddfrydol, y Parchedig Dr John Williams, Brynsiencyn a’r Parchedig Thomas Charles Williams, Porthaethwy, ffrindiau mynwesol Lloyd George, adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. yn mynegi safbwynt y Blaid Ryddfrydol ar gwestiynau mawr y dydd. Cofia Cledwyn Hughes yn glir 1 Tachwedd 1921 pan ruthrodd ei dad i’r tŷ i ddweud wrth ei briod:

‘Mae Dr John Williams, Brynsiencyn wedi marw’.

Pump oed oedd y mab ond yr oedd y newydd yn syfrdanol i’w rieni gan fod Dr John Williams yn gyfuniad perffaith o’r gweinidog gwleidyddol a’r pregethwr huawdl.9 Ni feiddiai neb anghytuno â John Williams yn Henaduriaeth Môn.

Ar 29 Medi 1927 bu farw olynydd Dr John Williams fel gweinidog gwleidyddol, sef Dr Thomas Charles Williams (1868-1927).10 Yr oedd ef yn raddedig o Goleg Iesu, Rhydychen ac yn alluocach na John Williams a H. D. Hughes. Meddai ar holl hanfodion pregethwr o’r radd flaenaf, parabl fel pwll y mor a phob gair yn ei le, ysgolheictod eang, llais cyfareddol a chred yn egwyddorion Rhyddfrydiaeth a Chalfiniaeth gymedrol..

Gwisgodd H. D. Hughes fantell y ddau gawr o 1927 ymlaen o fewn y Blaid Rhyddfrydol ym Môn. Yr oedd drws y Mans bob amser yn agored i sêr y pulpud yn arbennig os oeddynt yn crwydro hefyd adeg Etholiadau i gefnogi ymgeiswyr Rhyddfrydol. Dyna pam y derbyniai Philip Jones, Porthcawl a M. P. Morgan, Blaenannerch gymaint o groeso. Galwai David Lloyd George yn y dau a’r tri degau i’r Mans a elwid yn Fron Deg, pob tro y deuai i Gaergybi, a bu hynny’n hynod o wir ar ôl i’w ferch Megan ddod yn Aelod Seneddol y sir.

Ysigwyd John Williams, Thomas Charles Williams a H. D. Hughes a llu eraill gan ddaeargryn gwleidyddol Etholiad 1918 pan gipiodd Syr Owen Thomas, brodor o Gemaes y sedd i Lafur o drwch blewyn.11 Cafodd fwyafrif o 140 dros Elis Jones Griffiths, bargyfreithiwr, aelod o’r Hen Gorff, a ymgorfforai Rhyddfrydiaeth Ymneilltuol. Cipiodd y milwr enwog, ffrind mawr John Williams, sedd a fu’n eiddo i Rhyddfrydwyr er etholiad 1868. Yr oedd H. D. Hughes a’i gydweithwyr capelyddol wedi eu parlysu gan fuddugoliaeth nodedig yr Annibynnwr a’r athro Ysgol Sul , y Brigadydd Syr Owen Thomas ar faes y gwaed. Siglwyd y drefn Rhyddfrydol i’w seiliau.. Yr oedd Môn yn barod i bleidleisio i’r dyn yn gyntaf ac yn bennaf gan anghofio’r Blaid y safai drosto. Ond enillodd y Blaid Rhyddfrydol Môn yn ôl wedi dyddiau Syr Owen Thomas. Bu farw a chynhaliwyd ar 7 Ebrill 1923, Isetholiad hynod o bwysig. Enillodd Syr Robert J. Thomas gyda mwyafrif da o 4,746, y sedd yn ol a hynny yn lliwiau’r Blaid Ryddfrydol.

Yr oedd Syr Robert J. Thomas yn ŵr cyfoethog gan iddo wneud ei ffortiwn ym myd insiwrans a diwydiant llongau yn Lerpwl.12 Yn wir yn 1925 cynigodd Syr Robert J. Thomas, Carreglwyd (aelod blaenllaw yng nghapel H. D. Hughes), rodd o dir yn Walthew Avenue, Caergybi i adeiladu mans i’w weinidog a’i gyfaill yn y gwersyll Rhyddfrydol. Ar ôl trafodaeth daethpwyd i’r casgliad nad oedd y safle yn ddigon cyfleus a gwerthodd yr Aelod Seneddol y tir am £100 a throsglwyddo’r arian i gyllid Disgwylfa. Ar ôl hyn adeiladwyd Mans a ddisgrifiwyd ‘fel plasdy bychan hardd a chyfleus’ o’r enw Fron Deg. Dywed y cofnod:

‘Cymerwyd prydles ar yr eiddo a gynhwysai, heblaw tŷ, tua thair acr o dir, am rent blynyddol o £60. Gosodir y tir ar delerau manteisiol. Diamau nad oes harddach tŷ gweinidog ym Môn’.13

Cafodd H. D. Hughes a’i deulu blasdy bychan hardd i fyw ynddo a Chledwyn ar ddechrau yn Ysgol Ramadeg Caergybi. Ni chafwyd ganddo unrhyw atgofion o’i ddyddiau ysgol, yn Ysgol Gynradd Cybi na’r Ysgol Uwchradd. Y Capel fel y tystia oedd yr academi a’i mowldiodd. Dyna’r sefydliad cwbl ddylanwadol yn ei hanes fel plentyn, llanc ac oedolyn. Disgwylid ef yn blentyn i eistedd yn sedd y teulu i wrando ar ei dad ac eraill yn pregethu, bore a hwyr Sul cynta’r mis, a mynychu Ysgol Sul yn y prynhawn. Yn ychwanegol i hyn, roedd cyfarfodydd y plant ar noson waith ac yn y rhain rhaid oedd sefyll arholiadau ysgrifenedig, ac yn fwy na dim, rhoddwyd pwyslais ar bwysigrwydd parchu rhieni, peidio torri’r gyfraith a pheidio yfed diod meddwol. I’r Parchedig W. E. Williams, Gilead, Môn un amcan sydd i hyn oll, ‘sef gwella’r plant mewn maes a chrefydd’.14

Pan brotestiai y mab hynaf am y rhaglen drom hon dywedai ei dad wrtho:

‘Cledwyn, os na ei di, sut fedrai ddisgwyl plant eraill i fynd i’r cyfarfodydd’.

Disgwylid i’r mab sefyll yr arholiadau ysgrythurol bob blwyddyn, a dysgu adnodau lu ar ei gof ar gyfer y Seiat ar noson waith. Ar hyd ei oes, cafodd hynny ddylanwad mawr arno.15 Adnabu ei Feibl yn drwyadl, a hynny yn y Gymraeg ac nid yn Saesneg. Edrychai ymlaen i’r Cyfarfodydd Pregethu yng nghapel Caergybi. Dywedodd wrthyf lawer tro y byddai’n barod i gerdded ffordd bell, o leiaf o Gaergybi i Walchmai er mwyn clywed pregethu tebyg i bregethu Dr Thomas Williams, Armenia neu Philip Jones, neu Llewelyn Lloyd. Cofiai’r Parchedig D. Hughes Jones, y Rhyl, glywed Llewelyn Lloyd a H. D. Hughes yng nghapel Triniti, Llanelli pan oedd ef yn mynychu’r Ysgol Uwchradd a chofiai ar hyd ei oes ei destun a neges ganolog pregethau gweinidog Disgwylfa. Dywed D. Hughes Jones wrth ei fab:

‘Mae dros hanner canrif ers hynny ond dyna brawf o allu pregethwr i gyfathrebu’.16

O ddiwedd mis Medi i ddiwedd mis Tachwedd bob blwyddyn deuai pregethwr y cyrddau mawr o bell i Gaergybi a galw yn y Fron Deg, pregethwyr o safon Robert Beynon, Abercraf, D. S. Owen ac Eliseus Howells, y ddau o Lundain. Hon oedd oes aur pregethu. Yr oedd Cledwyn Hughes yn ddigon hen i gofio dyfodiad y Gymanfa Cyffredinol i Gaergybi yn 1924 a chal clywed dau o farwniaid y pulpud, William Eliezer Prydderch oedd y cyntaf, ‘gwerinol ei ymadrodd a nerthol ei ddawn â’i ddull agos a bywiog’.17 Yr ail oedd yr heddychwr mawr John Puleston Jones, Pwllheli.18 Dywedodd y Parchedig E. P. Roberts, Penmynydd (a fagodd wleidydd pwysig arall yn ei ail fab, Syr Wyn Roberts):

Prudd oedd edrych arno mewn gwendid a llesgedd mawr ar y stage y prynhawn cyntaf, ond pregethodd o dan eneiniad amlwg ar Gal. V. 11:11. Yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y Groes’.19

Dilynwyd Puleston yn yr oedfa hon gan Philip Jones, un o ffefrynnau Methodistiaid Môn a Lerpwl, ‘a’r olaf o farwniaid pulpud Methodistiaid yn y de’.20 Gofynnodd Cledwyn Hughes y cwestiwn ‘Pwy oedd ei arwyr fel plentyn a llanc?’ Yr ateb y byddai yn ei roi bob amser i’r newyddiadurwyr: ‘pregethwyr fel ei dad, Jiwbili Young, D. Tecwyn Evans, Elfed a llu o rai eraill ‘. Dyma ei eiriau:

‘Dyma’r arwyr. Peidied neb diystyru’r rhain. Gŵyr mawr yn Israel oedd y rhain. Ac mi roedden ni’n dysgu Cymraeg a phethau mwy na’r Gymraeg wrth wrando arnynt.’21

A bu tynfa’r Weinidogaeth yn rhan o’i fywyd cynnar yntau. Yr oedd selogion Disgwylfa yn disgwyl iddo ef a’i frawd ddilyn llwybrau eu tad. A daeth y ddau yn bregethwyr lleyg o’r radd flaenaf yn ôl y rhai a fu’n gwrando arnynt yng nghapeli Caergybi. Ond dewis llwybr cyfreithiwr a’r gwleidydd a wnaeth Cledwyn Hughes. Mae deunydd nofel yn yr hyn a ddigwyddodd yn y tri a’r pedwar degau i Cledwyn Hughes. Stori gyffrous mab y Mans oedd wedi drachtio yn helaeth athroniaeth Cymru Fydd a Senedd i Gymru a goleddai ei dad a’i daid ac yn gadael y Blaid Ryddfrydol am y Blaid Lafur, ac yn meiddio herio merch y dewin Cymreig, Lloyd George. Gwrthryfela yn enbyd yn erbyn traddodiad ei deulu a hynny ar ôl gwneud ei farc fel seren llachar Rhyddfrydiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, lle y daeth i adnabod Rhyddfrydwyr tebyg iddo ef ei hun fel Goronwy Daniel ac athro ei Adran, Tom A. Levi, mab i Weinidog enwog, y Parchedig Thomas Levi.22 Atgyfododd Cledwyn Hughes y Clwb Rhyddfrydol a ysgwyddodd y swydd o Ysgrifennydd y Gangen i ddechrau, ac yn ei flwyddyn olaf, ef oedd y Llywydd. Yr oedd ef a’i gyfaill o Fôn, Peredur Hughes , un arall o blant y Mans, yn esiampl godidog i ryw chwech deg o fyfyrwyr eraill \a goleddai Rhyddfrydiaeth yn y Coleg ger y Lli.23 Dychwelodd gyda gradd Ll.B. i weithio i Ryddfrydwr arall, sef R. T. Evans, cyfreithiwr o Gaergybi, a ffrind cywir i Ellis Jones Griffith pan oedd yn Aelod Seneddol yr Ynys. Ond yr oedd y gŵr ifanc, un ar hugain oed, yn anniddig yn wleidyddol. Gwelodd fawredd arweinwyr y Blaid Genedlaethol ac aberth y tri arwr ym Mhenyberth, Saunders Lewis, D. J. Williams a’r Parchedig Lewis Valentine. Lluniodd ddau lythyr i Swyddfa y Blaid Genedlaethol yng Nghaernarfon, un i ofyn am dri bathodyn, ac ar 23 Awst 1937 i ofyn am bedwar tocyn i groesawu’r arwyr i’r Pafiliwn yng Nghaernarfon gan awgrymu wrth y Trefnydd, J. E. Jones mai iachawdwriaeth i Gaergybi ‘fuasai sefydlu cangen yn y dref’.24 Roedd y Blaid Genedlaethol yn llusgo byw ym Môn y dyddiau hynny a gweinidogion yr enwad (er enghraifft, John Pierce yn Llangefni a D. Cwyfan Hughes yn Amlwch) oedd ar flaen y gad.25 Byddai’n cydnabod mae’n debyg mai breuddwydiwr ydoedd y diwrnod hwnnw wrth sôn am sefydlu canghennau i’r cenedlaetholwyr a’i draed heb fod yn solet ar y ddaear. A gan i J.E.Jones y trefnydd ymateb yn rhy frwdfrydig gwelodd y cyfreithiwr ifanc ei gamgymeriad mewn pryd.

Ac fe’i argyhoeddwyd ef yn fuan iawn i gefnogi Llafur a hynny am hanner dwsin o resymau. Yn gyntaf traddodiad Llafurol Caergybi. Mor bell yn ôl a Medi 1913 sefydlwyd Cyngor Masnach a Llafur Caergybi i gynrychioli chwech undeb gyda 2,500 o weithwyr. Unwyd y docwyr, y morwyr, gŵyr y rheilffordd London Road, dynion tân, gweithwyr Swyddfa’r Post, crefftwyr ym myd adeiladu a llafurwyr cyffredin. Bonws oedd cael gŵr fel Cyril O. Jones, cyn-ysgrifennydd Cymdeithas Ryddfrydol Môn i gefnogi’r Mudiad llafur yng Nghaergybi.26 Erbyn diwedd y dauddegau yr oedd gair ac arweiniad y Parchedig H. D. Hughes yn golygu cymaint fel y deallodd Megan Lloyd George yn etholiad 1929. Fel y dywedodd gŵr craff: ‘Os ydi H. D. o’i phlaid, mae hynny yn sicrhau Caergybi i Megan’.27 All neb fod yn Aelod Seneddol Môn heb gefnogaeth Caergybi. Dyna oedd y gwir yn 1929 pan enillodd Megan, a Cledwyn Hughes yn 1951 a Keith Best yn 1979 ac Ieuan Wyn Jones yn 1987 ac Albert Owen yn 2001. Yn ail yr oedd gan y Mudiad llafur bresenoldeb ar yr Ynys ac amryw o weinidogion wedi bod yn rhan o’r dystiolaeth. Ysgrifennodd y Parchedig Keinion Thomas, Pentraeth (Annibynnwr o argyhoeddiad) ysgrifau niferus i’r papur wythnosol y Wyntyll, yn coleddu ideoleg sosialaeth.28

Arloesydd arall o blith y gweinidogion oedd y Parchedig John Morris, Llannerch-y-medd a ddaeth am gyfnod yn gynrychiolydd Undeb y Gweision Ffermydd. Sosialydd digyfaddawd oedd W. J. Jones (Brynfab), perchennog siop ym Mrynsiencyn, arweinydd yn ei gapel, a gyfrannai erthyglau cyson i’r papur wythnosol Cloriannydd, ar ei gred wleidyddol.29

Yr oedd Brynfab o blaid gwladoli’r tir, diwydiannau a thrafnidiaeth cyhoeddus Ni fu ei lafur yn ofer, a sefydlwyd cangen o’r Blaid Lafur ym Mrynsiencyn, yn Aberffraw, Gwalchmai, Llangefni, Llanfachreth a’r Fali. Gtrwy ei weithgarwch ef. Arweinydd nodedig arall oedd William Edwards, Holgwyn, amaethwr ffrind mawr i Syr John Morris-Jones , ac un a fu yn cenhadu dros Llafur am flynyddoedd, ac yn pwyso yn daer ar Cledwyn Hughes i ddiosg oddi amdano fantell Rhyddfrydiaeth a gwisgo lliwiau coch Llafur.30

Yn drydydd cofiai Cledwyn Hughes yn ei gyfnod yn Aberystwyth fel myfyriwr eiriau Syr R. J. Thomas wrtho un bore Sul yn y tri degau cynnar a’r ddau ohonynt yn cerdded gyda’i gilydd o gapel Disgwylfa. Trodd Syr R. J. Thomas, y cyn Aelod Seneddol erbyn hynny, a dweud wrtho, gyda difrifwch:

‘Cledwyn, the future belongs to Labour’.31

Yn bedwerydd, cofiai ei dad y Parchedig H. D. Hughes yn y tri degau yn sefydlu gegin gawl ar gyfer y di-waith a thlodion cymdogaeth London Road, yn ysgoldy Capel Disgwylfa. Gwelodd y stiwdent a’i lygaid ei hun, blant heb esgidiau ar strydoedd Caergybi, fel y gwelodd y Rhyddfrydwr ifanc Michael Foot yr un tlodi ar strydoedd Lerpwl. Dyma un o ffactorau cryfaf greda i iddo adael Plaid ei dad a’r teulu am y Blaid Lafur. Ceid yn 1937-38 diweithdra anhygoel yng Nghaergybi, sef bron i 51 y cant o weithwyr yswiriedig yn ddi-waith.32 Dyna oedd y ffigwr uchaf trwy Gymru gyfan, mwy nag yn Nhrealaw, Brynmawr, Rhosllannerchrugog neu Merthyr Tydfil.

Yn bumed yng nghysgod ei dad daeth i adnabod nifer o bobl amlwg y Blaid Lafur a’r Undebau Llafur oedd weedi ei hethol yn flaenoriaid yng nghapeli Methodistiaid Calfinaidd tref Caergybi. Un o’r rhai mwyaf amlwg o’r Llafurwyr capelyddol oedd Henry Jones, cynghorwr sir, Undebwr Llafur, ac ef oedd ymgeisydd y Blaid Lafur ym Môn yn Etholiad Cyffredinol 1935. Yr oedd Henry Jones yn Drysorydd, Athro Ysgol Sul a blaenor yng nghapel Armenia, y capel y perthynai Jean Beatrice Hughes a’i theulu iddo, a merch a ddaeth yn bwysig iawn yng ngyrfa y gwleidydd..33 Bwydodd Henry Jones ef y cyfreithiwr ifanc, gyda llenyddiaeth Sosialaeth, cyfrolau clawr oren y Left Book Club, cyfrolau un o ŵyr mawr Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, R. H. Tawney, a’r wythnosolyn Glasgow Forward a olygid gan fab arall y Mans Cymreig, Emrys Hughes (mab yng nghyfraith Keir Hardie), ac un a fu’n Aelod Seneddol yng nghyfnod cynnar Cledwyn Hughes. Gallai llafurwyr capeli Caergybi eilio geiriau Huw T. Edwards (‘Prif Weinidog answyddogol Cymru’) fel y’i gelwid pan ddywedodd:

‘Tra phery fy synnwyr mi gredaf yn Nhadolaeth Duw ac ym mrawdoliaeth dyn’.34

Ac yn olaf rhaid cofio ei uchelgais naturiol i gynrychioli ei dref a’i sir enedigol fel Anghydffurfiwr Cymreig o ran ei ddaliadau yn Senedd Prydain. Clywodd yn gyson ei dad yn pregethu ar gyfrifoldebau y Cristion i wasanaethu ac i ymgnawdoli gwerthoedd y Ffydd yn y bywyd cyhoeddus. Nidd oedd awydd o gwbl ganddo i wasanaethu mewn sir arall nag etholaeth arall , yr oedd am gyflawni hyn ym Môn.ei sir enedigol. Dechreuodd ar y gamp yn 1938 pan ymunodd yn swyddogol â’r Blaid Lafur. Daeth yr Ail Ryfel Byd ar draws ei gynlluniau. Ymunodd â’r Llu Awyr 35. Ehangwyd ei ddewis felly i sefyll ym Môn fel ymgeisydd ifanc ac i wynebu ar Megan Arfon Lloyd George.

Daeth Etholiad Cyffredinol 1945, ac ym mhosteri ei ymgyrch gwelir ef yn iwnifform y Llu Awyr. Cynhaliwyd 60 o gyfarfodydd cyhoeddus, 55 ohonynt trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond er i Llafur ysgubo’r wlad, ym Môn yr oedd gafael Megan Lloyd George yn solet am fod ganddi asiant profiadol a mwy o weithwyr i gnocio drysau a chario etholwyr i orsaf y pleidleisio. Cadwodd ei dad yn gyfan gwbl allan o’r Etholiad, dim ond yn cyflawni dyletswyddau ei swydd. Yng ngeiriau’r mab, ‘bu’n swatio yn y Mans fel llew mewn caets’.36

Yr oedd H…D.Hughes yn ddigon balch fod Megan wedi cadw’r sedd yn weddol gyfforddus. Ail afaelodd y mab yn ei waith fel cyfreithiwr yn llysoedd yr Ynys. Manteisiodd ar gyfle yn 1946 i sefyll dros Ward Kingsland, Caergybi ar y Cyngor Sir, yr ieuengaf o’r cynghorwyr, a dod yn Glerc rhan-amser Cyngor Trefol Caergybi. Bu 1946 a 1947 yn flynyddoedd trist dros ben iddo ef a’i frodyr. Collodd yn yr angau ei fam ar ddiwedd y flwyddyn ac yna ar Sulgwyn, 29 Mai, 1947, bu farw ei dad, H. D. Hughes, yn sydyn yn 61 mlwydd oed, ag yntau yn llythrennol wedi torri ei galon ar ôl ei gymar. 37 Ac ar 7 Awst bu farw ei nain, mam ei dad, Mrs Anne Hughes, Llys Eryri, Pontrhyddallt. Stormydd garw, garw. Ond daeth haul ar fryn pan y cyfarfu, wrth lywyddu yn 1947 cyfarfod o Gangen Cymru Fydd, Caergybi ar y ferch ddawnus oedd yn areithio y noson honno, Jean Beatrice Hughes.38 O’r cyfarfyddiad hwnnw fe flodeuodd bartneriaeth nodedig ac fe’i priodwyd ar 17 Mehefin 1949.39

Bu’n rhaid iddo ddal ati i ymgyrchu yn Etholiad 1950 heb lwyddiant. Ond llwyddodd yn 1951, ac o hynny ymlaen hyd ei ymddeoliad o’r Senedd yn 1979, cadwodd ei sedd yn gyfforddus gan lwyddo fel Gweinidog y Goron o 1964 i 1970, ac fel arweinydd poblogaidd a hynod o effeithiol yr Wrthblaid yn Nhŷ’r Arglwyddi o 1982 i 1992. Ond un peth sydd yn sicr, ni allodd ymddihatru, ac ni fynnai am eiliad o hudoliaeth personoliaeth a chyfraniad ei dad. i Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Pan gyhoeddwyd Cofiant byr iddo yn Gymraeg a Saesneg yn 1990, am fod Cyngor Bwrdeistrefi Môn wedi cyflwyno arian i Ganolfan Ymchwil Cymru, Coleg Prifysgol Bangor, gofalodd yr awdur Emyr Price danlinellu ddylanwad ei dad ar ei yrfa.. Ei dad oedd ei arwr ar hyd ei oes o’i blentyndod i’w henaint. Yn ei lencyndod cafodd ymuno yng nghwmni difyr llawn storïau y gweinidogion o bob enwad a ddeuai i Mans Disgwylfa. Yn sicr dywed hynny mewn nodiadau ar Bregethu ‘iddo dreulio llawer yn eu cwmni a’u clywed yn ymddiddan hyd oriau mân y bore’.40

Gŵr y cafodd Cledwyn Hughes lawer o’i gwmni fel cyfreithiwr ac Aelod Seneddol ifanc ar ol marwolaeth ei dad oedd y Parchedig R. R. Hughes (1883-1957), a fu am flynyddoedd lawer yn weinidog Ebeneser, Niwbwrch, cyn ymddeol i fyw i Gaergybi a dod yn aelod yng nghapel Disgwylfa lle gwnaed Cledwyn yn flaenior yn 1951. Pregethu oedd cnewyllyn y trafod yn ddieithriad. A’r casgliad y daeth Cledwyn iddo ar ôl gwrando am flynyddoedd ar ei dad yn y pulpud fore a nos Sul a sgwrsio cyson gyda R. R. Hughes oedd hyn:

‘Os yw pregethu wedi darfod yna mae ymneilltuaeth wedi darfod. Ar hwn y seiliwyd ein henwad ni, a waeth faint y chwiliwn ni am ddulliau newydd i ddenu pobl, waith faint o benderfyniadau baswn ni mewn Cyfarfod Misol a Sasiwn, er mor werthfawr yw’r gweithgareddau yma i gyd, y mae’r dyddiau’r enwad wedi eu rhifo’.41

Dyma anogaeth y dylem gnoi cil arno hanner can mlynedd yn ddiweddarach.

Nodiadau:

1. Gw. hefyd, Emlyn Richards, ‘Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos’, Y Goleuad, 27 Gorffennaf 2001; Emyr Price, Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos, Pen-y-groes, 1990, 1-134.

2. Emlyn Richards, Pregethwrs Môn, Caernarfon, 2003, 102.

3. Ibid., 107.

4. David Lloyd Hughes, (gol.), Y Chwarelwr a’i Phobol, gan H. D. Hughes, Llandybie, 1960.

5. Enwir T. J. Williams, T. Arthur Jones, Dr Arthur Owen (Penbedw yn ddiweddarach), a H. D. Hughes fel cnewyllyn y ‘Sanhedrin’.

6. Gweler, Cyril Parry, The Radical Tradition in Welsh Politics: a study of Liberal and Labour Politics in Gwynedd 1900-1920, Hull, 1970, 27 a 32; Angharad Tomos, Hiraeth am Yfory: David Thomas, Llandysul, 2002, 264.

7. Ymchwil bersonol ar wefan Ancestry.co.uk

8. Emlyn Richards, Pregethwrs Môn, Caernarfon, 2003, 25.

9. D. Ben Rees, Dr John Williams, Brynsiencyn a’i Ddoniau (1853-1921), Llangoed, 2009.

10. J. E. Hughes, ‘Thomas Charles Williams (1868-1927), Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, Llundain, 1953, 1010.

11. David A. Pretty, ‘Undeb Gweithwyr Môn, Anglesey Workers Union’ (dwy ran) Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn, 1988, 1999, 109 a 116

12. Emlyn Richards, Pregethwrs Môn, Caernarfon, 2003, 107.

13. Hugh Owen (gol.), Braslun o Hanes MC Môn (1880-1935), Lerpwl, 1937, 189.

14. W. E. Williams, Gilead ‘Yr Ysgol Sul’ yn Hanes MC Môn (1880-1935), ibid., 69-81. Ceir y dyfyniad ar t. 78.

15. Ibid.

16. LlGC. Papurau Arglwydd Cledwyn o Benrhos, B28. Llythyr y Parchedig D. Hughes Jones i Cledwyn Hughes (dim dyddiad). Daeth y testun o Barnwyr 5:16-17, Reuben yn aros yn y corlannau a Dan gyda’r llongau oedd y thema a gofia’r plentyn ysgol.

17. Robert Beynon, ‘William Eliezer Prytherch (1846-1931) yn Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, ibid., 762.

18. Am ddarlun o Puleston yr heddychwr, gw. Dewi Eurig Davies, Byddin y Brenin: Cymru a’i chrefydd yn y Rhyfel Mawr, Abertawe, 1988, 57, 112-13, 128, 138-140, 155, 168, 1832; Ioan W. Gruffydd, ‘John Puleston Jones 1862-1925’, yn Herio’r Byd (gol. D. Ben Rees), Lerpwl a Llanddewibrefi, 93-103.

19. E. P. Roberts, Penygarnedd, ‘Y Sasiynau’ yn Hanes MC Môn 1880-1935, ibid., 25-41. Ceir y cyfeiriad at Philip Jones a’i ddawn ar dudalennau 40-1.

20. Gomer M. Roberts, ‘Philip Jones (1855-1945)’ yn Bywgraffiadur Cymreig 1941-1980, (goln. R. T. Jenkins a E. D. Jones), Llundain, 1970, 32.

21. LlGC. Papurau Arglwydd Cledwyn o Benrhos, Ffeil E12. ‘Areithiau Cledwyn Hughes’.

22. Am yr Athro gweler Emrys O. Roberts, Thomas Arthur Levi ( 1874-1954 ), Bywgraffiadur Cymreig ar lein, ac am ei dad gw.,. y Parchedig Thomas Levi (1825-1916), Y Bywgraffiadur Cymreig, ibid., 510; J. E. Meredith, Thomas Levi, Caernarfon, 1962; Dafydd Arthur Jones, Thomas Levi, Caernarfon, 1997.

23. Emlyn Richards, ‘Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos’, Y Goleuad, 27 Gorffennaf 2001.

24. LlGC. Papurau Plaid Cymru, Rhof A 1828 yw’r llythyr a anfonodd Cledwyn Hughes ar ddydd Iau (dim dyddiad) i Mr J. E. Jones, yn archebu tri bathodyn o’r triban, yr ail lythyr o Frondeg, Caergybi ar ddydd Iau (dim dyddiad), a rhif 132 sef atebiad sydyn J. E. Jones, Swyddfa’r Blaid Genedlaethol, Caernarfon, dyddiedig Awst 24, 1937 i Cledwyn Hughes.

25. Ibid.

26. David A. Pretty, ‘Undeb Gweithwyr Môn’, ibid., 99.

27. Emlyn Richards, Pregethwrs Môn, ibid., 107.

28. David A. Pretty, ibid.

29. Y Wyntyll, 11 a 25 Gorffennaf 1918.

30. David A. Pretty, ‘Undeb Gweithwyr Môn’, 101.

31. Emlyn Richards, Pregethwrs Môn, ibid., 107.

32. LlGC. Papurau Arglwydd Cledwyn o Benrhos, D12. ‘Araith Cledwyn Hughes i Gynhadledd y Di-Waith yn ei Etholaeth, 10 Hydref 1975’. Dywedodd yn gwbl gignoeth: ‘Long term unemployment is a social and economic evil. . . Those who remember the inter war years were left with an experience which they will never forget.’

33. Emyr Price, Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos, Pen-y-groes, 1990, 13.

34. Huw T. Edwards, Tros y Tresi, Dinbych, 1956, 131.

35. Lleolwyd ef mewn gwahanol rannau o’r wlad a bu am gyfnod hir yn perthyn i’r Awyrlu yn maes awyr Llandwrog , ger Caernarfon, lle cyfleus i’w gartref. Yno yr oedd yn 1944 pan ennillodd yr ymgeisiaeth i sefyll dros y Blaid Lafur yn etholaeth Mon.

36. Sgwrs yr awdur gyda Cledwyn Hughes yn 1974.

37. J.Roberts , ‘ Minister’ s Death: appreciation ‘,Holyhead and Anglesey Mail ,.Mai 30, 1947, 8.

38. ‘Cymru Fydd’, Holyhead and Anglesey Mail, 4 Chwefror 1947.

39. David Lewis Jones, ‘Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos 1916-2001’, Y Bywgraffiadur Arlein.

40. LlGC. Papurau Arglwydd Cledwyn o Benrhos, Ffeil E12. ‘Pregethu’.

41. Ibid.