Llanddewi Brefi

The official history of a village associated with the patron saint of Wales, Saint David. This parish welcomed the Romans as well as a colony of monks who prepared important texts in the middle ages. The village also experienced the methodist revival of the 18th century with Daniel Roland as a curate. The poetry and literature and economic activities of the parish are all described in this detailed account.

1.Plas y Foelallt, Llanddewi Brefi

Dim ond olion o hen blas y Foelallt yng Nghwm Brefi a welir heddiw , ond bu iddo le hynod o bwysig yn hanes gwleidyddiaeth Ceredigion. Dywed traddodiad llafar i’r Brenin Siarl y Cyntaf a’i fyddin, yn ystod y Rhyfel Cartref yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ddyfod i fyny Cwm Brefi o’r pentref ac i’r Brenin gysgu noson yn y plas. Yn ôl yr un traddodiad galwodd Oliver Cromwell a’i fyddin hefyd a chysgodd yntau, nid am noson, ond am dair noson!

Teulu’r Williamses oedd yn byw yno yn yr ail ganrif ar bymtheg. Gwerthodd aelod o’r teulu yma, y Parchedig David John Williams, y plasty i Walter Lloyd, mab Jonathan Lloyd o Llanfair Clydogau tua dechrau’r ddeunawfed ganrif. Bu Walter Lloyd yn aelod seneddol dros sir Aberteifi o 1734 i 1741. Priododd ag Elizabeth Evans, aeres ystâd Peterwell yn Llanbedr Pont Steffan, a thrwy’r briodas daeth yn ŵr hynod o gyfoethog. Daeth y Foelallt ymhen amser yn eiddo i’w ail fab, Syr Herbert Lloyd, AS. Dywedir mai cnaf oedd Sir Herbert yn gwbl ddigydwybod a diegwyddor a dideimlad. Tra’n byw ym mhlasty’r Foelallt cymerodd ran mewn ymosodiad ciaidd ar Lewis Morris o Fôn pan oedd yn gweithio a goruchwylio mwyngloddiau’r goron yn Esgair Mwyn.

Bu Syr Herbert Lloyd briodi ddwywaith. Anne, merch sgweier plas Nanteos, William Powell, a gweddw Richard Stedman, gŵr digon gorffwyll, oedd ei ail wraig. Yn wahanol i’w gŵr hanner meddw, gwraig hawddgar, sobr a charedig ei llaw a’i hysbryd oedd Anne. Ni chymerai ef yr un diddordeb ym mywyd y teulu, ac nid rhyfedd felly i’w ail briodas fod yn ddiflas ac yn gwbl aflwyddiannus.

Ymadawodd Anne â’i chartref yn Peterwell (darllener yr hyn a ysgrifennodd Bethan Phillips mor wych am y plasty hwnnw) a mynd i fyw i gysgod Craig y Foelallt, ac o fewn golwg i Afon Brefi. Yr oedd y Foelallt yn ei siwtio i’r dim. Fe’i henwogodd ei hun trwy eu helusengarwch yng Nghwm Brefi. Fe’i henwir mewn bugeilgerdd gan y bardd swynol Edward Richards, Ystrad Meurig:

Daw Anne i dywynnu cyn nemor, cân imi,

Di weli blwy Dewi’n blodeuo

Parhaodd i fyw yn nhawelwch Plas y Foelallt tan ei marwolaeth yn 1778 yn 76 oed.

Plasty crand iawn oedd y Foelallt. Dim ond yn achlysurol yr ymwelai Herbert Lloyd â’r lle. Adeiladwyd ef yn yr ail ganrif ar bymtheg a safai ynghanol parc o tua phedwar ugain erw. Roedd yna dŷ porthor a mynedfa lydan yn arwain tuag ato o ffordd y mynydd. Roedd cymaint o ffenestri iddo ag sydd o wythnosau mewn blwyddyn. Ceid yno ystafell ginio, ystafell i’r prif ofalwr, cegin eang, tŷ pair, popty a phantri, yn ogystal ag ystordy. Yr oedd y plas yn meddu ar lyfrgell o lyfrau a llawysgrifau. Ar y llofft ceid ystafell lle y croesewid ymwelwyr o bob rhan o Ewrop a Chymru a Lloegr, tair ystafell gysgu, ystafell wisgo a thrwsio ynghyd â dwy nen-lofft fawr uwch y cyfan. Tu cefn i’r plasty ceid amryw o adeiladau lle cedwid y llaeth, yr hufen a’r menyn a’r caws. Ceid adeilad pwrpasol lle cedwid tanwydd. Yna ceid ystablau, tŷ coets a chenelau i’r cŵn hela. Roedd y lawnt a’i gerddi, a’i choed anghyffredin yn ymestyn hyd at Afon Brefi.

Ar ôl marw Anne Lloyd brynwyd y plasty gan yr hynafiaethydd Thomas Johnes o’r Hafod yng Nghwmystwyth a’i werthu wedyn i Thomas Smith. Pan fu farw George Smith (brawd Thomas Smith), gwerthwyd y Foelallt mewn arwerthiant cyhoeddus a gynhaliwyd yn neuadd tafarn y Llew Du yn Llanbedr Pont Steffan ar y trydydd ar hugain o Fedi, 1856. Perchennog Ystâd Derry Ormond, Wilmot Inglis-Jones a’i prynodd, ac yn gwbl amddifad o hanes fe’i tynnodd i lawr i’w seiliau. Cynrychiolodd Plas y Foelallt agwedd swyddogol bywyd gwleidyddol cyfnod go helaeth o fywyd Cymru. Roedd Syr Herbert Lloyd yn enghraifft wych o’r cyfoethogion a fu’n gorthrymu’r bobl gyffredin trwy’r cenedlaethau. Ar ôl ei farw yn 1769 aeth Anne ati i ystyried cyflwr truenus y tlawd. Cydymdeimlai â hwy a chyfrannai elusennau atynt. Bu fel angyles i lawer o anffodusion tyddynnod Cwm Brefi.

Gwraig arall a fu’n byw yn y plas oedd Mary Roberts a cheir plac o fewn Capel Presbyteraidd Bethesda, Llanddewi, yn ei choffau. Yn wahanol i Syr Herbert Lloyd ddangosai hi ysbryd dipyn mwy eangfrydig nag a welwyd ynddo ef. Ymfudodd hi o Landdewi i’r Unol Daleithiau yn 1736, blwyddyn ar ôl i gurad y plas, Daniel Rowland, gael ei achub gan Griffith Jones, Llanddowror ym mynwent Eglwys Dewi Sant. Hynodrwydd Mary Roberts yw ei bod hi yn fam-gu i Harriet Elizabeth Beecher Stowe, a wnaeth wyrth trwy ei chyfrol Uncle Tom’s Cabin i ryddhau’r caethweision.

Dyna ni felly yn sôn am thema bwysig sef deffro’r werin yng Nghymru a’r Amerig. Digon yw dweud i elusengarwch Anne Lloyd a syniadaeth Harriet Beecher Stowe gyd-gerdded gyda’r dyheadau crefyddol a gerddai gyda’i gilydd trwy’r wlad ac yn arbennig yn Nyffryn Teifi lle bu’r Undodioaid yn ddewr eu tystiolaeth. . Atgyfnerthwyd hyn yn ysgolion cylchynol Griffith Jones, cynnyrch y wasg Gymreig a chychwyn Ysgolion Sul Thomas Charles o’r Bala, a phregethu tanllyd achubiaeth o enau Howell Harris a’i gymrodor ac emynau Calfinaidd am y bywyd gwell o ddawn y Perganiedydd a Morgan Rhys ac Ann Griffiths. Pan ddaeth y tyddynwr yng Nghwm Brefi i fedru gwerthfawrogi’r Ysgrythurau a’r emynau yn ei iaith ei hun magodd hyder newydd fel unigolyn ar ei newydd wedd a daeth yn ymwybodol fod yn rhaid i’w fyd tymhorol wella fel ag y digwyddodd iddo yn ysbrydol. Crëwyd ynddo ymdeimlad dwfn o wrthwynebiad i’r uchelwyr snobyddlyd, difeddwl Seisnig ei naws ac anghariadus ym mhob ystyr. Nid oedd yr Anghydffurfwyr yn barod i gyfaddawdu yn aml am eu bod yn benderfynol o newid yr awyrgylch cymdeithasol yn enw cyfiawnder a brawdgarwch Cristnogol. Hon fu brwydr fawr y Cymry o genhedlaeth i genhedlaeth a deil yn frwydr yn ein hoes ni.

2.PRIFATHRO YSGOL LLANDDEWI BREFI – BEN JAMES ( - 1966)

Gŵr yn hannu o waelod Ceredigion oedd Ben James, y Prifathro a fu arnaf i a’m cyfoedion yn Ysgol Gynradd Llanddewi Brefi ym mhedwar degau yr ugeinfed ganrif. Ef a ddilynodd David Rees a ddaethai yn Brifathro ym 1901, a gwelid o’r cychwyn cyntaf un gwahaniaeth amlwg. Ei nod pennaf oedd cael cymaint ag oedd yn bosibl o blant y plwyf i’r Ysgol Sirol yn Nhregaron, a golygai hynny sefyll arholiad mynediad yr Eleven Plus. Mae’n amlwg y byddai llawer ohonom wedi methu’r arholiadau hyn oni bai am ei ymdrechion ef a’i gyd-athrawon. Nid oedd dim yn ormod gan y Prifathro, a chanolai yr athrawon eu hymdrechion ar gael pob un ohonom i sefyll yr arholiad. Byddai y rhai oedd yn methu yr arholiad yn aros yn yr ysgol hyd nes eu bod yn bedair blwydd ar ddeg oed.

Prif nod Ben James, yn arbennig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, oedd diwyllio’r plant ym mhob cangen o addysg. Yn y brif neuadd, fe osodwyd lluniau pobl amlwg, fel Syr O. M. Edwards, a gyfranodd i fywyd cenedl y Cymry. Roeddem yn derbyn hyfforddiant yn iaith a llenyddiaeth Saesneg, a’r un fath gyda’r Gymraeg, hanes, daearyddiaeth a natur a hefyd mewn crefydd a moesoldeb. Disgwyliai’r Prifathro i ni’r plant ei gyfarch y tu allan i’r ysgol gan ddweud naill ai “Pnawn da, Syr” neu “Nos da, Syr”. Gwnaethum hynd hyd nes imi fod yn ddeunaw oed; yn wir, cyn iddo ef ddweud wrthyf un noson, “’Does dim rhaid ichi fy nghyfarch yn Syr bellach”. Dylid cofio hefyd fod Ben James yn un o bileri bywyd Capel yr Eglwys Bresbyteraidd ym Methesda, fel y caf gyfeirio ymhellach. Ond roedd addysg grefyddol wedi bod ar amserlen yr ysgolion o’r cychwyn cyntaf. Nodaf yma fod prifathrawon fel David Rees a Ben James a’r rhai a’u dilynodd wedi ymateb yn llawn i’r her hon a sicrhau fod bywyd Cristnogol yn gadarn o fewn muriau yr ysgol.

Rhaid cofio fod gan lawer o’r plant a ddeuai i’r ysgol ffordd bell a garw i’w cherdded, ac nid oedd cerbydau i’w cario ym mlynyddoedd cynnar teyrnasiad Ben James. Cerddai llawer ohonynt dros dair milltir i’r ysgol a phellter tebyg i fynd adref ar derfyn dydd. Rhaid oedd bod yn ofalus na chaeai’r niwl amdanynt ar lwybrau’r ucheldir, i fyny am Bentre Rhew ac Esgair Garn. Roedd plant y mynydd-dir tuag at Soar y Mynydd, fel Bryn Ambar a Blaen Doethie yn lletya yn aml am yr wythnos gyfan mewn cartrefi yn y pentref. Bydd llawer o hyd a chanddynt frith gof am y plant hyn yn cael mynd allan o’r ysgol yn gynnar ar bnawn Gwener i gerdded y daith hir adref at eu teuluoedd.

Ni all aml un a fagwyd mewn dinasoedd amgyffred yn llwyr rwystr tywydd garw i blant ysgol fel Ysgol Llanddewi Brefi. Ceid ystormydd, eira a llifogydd a’i gwnâi’n amhosibl iddynt fynychu’r ysgol. Cafwyd lluwchfeydd mawr o eira yn Chwefror 1933 a Chwefror 1937, a chofnodir Dydd Llun, Ionawr yr 20fed, 1941 gan Ben James yn y cofnodion a gadwai fel “diwrnod eithriadol”. Gaeaf drwg, fel y cofiaf yn dda, oedd un 1947, a hynny oherwydd rhew a lluwchfeydd o eira. Dechreuodd rewi yng nghanol Ioanwr ac fe barhaodd yn Llanddewi tan ganol mis Mawrth. Fel y gellid disgwyl, ychydig o blant a lwyddai (plant y pentref, fel arfer) i gyrraedd yr ysgol ar adegau fel hyn; er enghraifft, dim ond deg a ddaeth i’r ysgol yn ystorom Ionawr 1941.

Roedd rhwystrau economaidd a theuluol yn rheswm arall am fethu’r ysgol ynghyd ag anhwylderau. Ond fe wnaethpwyd camau breision i ymlid llawer o’r afiechydon. Fel pob ysgol arall, rhoddai Ben James sylw i brif ddigwyddiadau Prydain, a gofalodd bod diwrnod o wyliau yn cael ei roddi ar achlysur priodas Dug Caint a’r Dywysoges Marian yn Nhachwedd 1934; a thrachefn ar achlysur priodas Dug Caerloyw yn Nachwedd 1935. Cafwyd diwrnod arall o wyliau ym mis Mai 1935. Bu diwrnod arall eto fyth pan y dathlodd y Brenin Siôr y Pumed a’r Frenhines Mary eu pum mlynedd ar hugain ar yr Orsedd. Ar achlysur coroni’r Brenin Siôr y Chweched a’r Frenhines Elizabeth 1937, cyflwynwyd copi o’r llyfr George VI – King and Emperor i bob plentyn, a hynny fel rhodd oddi wrth Awdurdod Addysg Sir Aberteifi. Cafodd pob plentyn gwpan hefyd.

Gadawodd personoliaeth gref Ben James argraff annileadwy ar yr ysgol. Meistrolodd y gelfydydd o ddisgyblu plant ac nid oedd ofn arno ddefnyddio’r wialen pan fyddai galw am hynny. Arhosodd yn Brifathro o 1927 hyd 1961, cyfnod o 34 mlynedd, a gwelodd lawer o fynd a dod dros y blynyddoedd hynny. Gwelwyd ei allu fel athro pan ddaeth llawer o ffoaduriaid o Lundain i Lerpwl ym 1941, a’r rheini yn ffoi rhag bomiau yr Almaenwyr. Llwyddodd i gael y plant dieithr oedd yn siarad iaith estronol i ni, blant y plwyf, i ymdoddi’n rhyfeddol o dda er gwaethaf peth trafferthion. Roedd y mwyafrif o’r plant hyn mor wahanol i ni, weriniaid Llanddewi. Daeth Ben James â nhw i mewn i gyngherddau’r ysgol, a defnyddid Ysgoldy Capel Bethesda fel lle ar gyfer dau ddosbarth. Llwyddwyd i wneud y rhan fwyaf ohonynt yn rhugl yn y Gymraeg, a daeth un o blant Anfield, Lerpwl yn ôl i fyw i’r pentref fel oedolyn.

Cydweithiai Ben James yn dda gyda’i gyd-athrawon, ac yn arbennig felly gyda Miss Enid Howells, un o ferched Tregaron. Cychwynnodd Miss Enid Howells yn yr ysgol ym Medi 1931, a bu yn ysbrydiaeth i lawer ohonom. Mae gennyf ddyled enfawr iddi. Roedd ganddi rad o Brifysgol Cymru, ac ar bod pawb yn falch iddi gael dyrchafiad, roedd hi’n siom pan yr apwyntiwyd hi yn Brifathrawes Ysgol Bronnant ym 1953 ar ôl treulio dwy flynedd ar hugain yn Ysgol Llanddewi Brefi.

Un o Dregaron hefyd oedd Mrs Madge M. Jones, a ddaeth yn athrawes yn ystod haf 1941. Roedd ei mam-yng-nghyfraith, sef Mrs Jones, Bryn Awelon, a fu am flynyddoedd lawer yn byw yn Llundain, yn wraig dduwiol a daionus. Trigai yn y tŷ hardd gyda’i mab, Dewi. Symudodd Mrs Madge Jones ar ôl un mlynedd ar hugain i Ysgol Gynradd Penuwch. Athrawes arall o Dregaron a dreuliodd dymor hir yn ystod cyfnod Ben James oedd Miss Winifred Eirlys Evans. Daeth ar staff Llanddewi ym 1953, gan ymddeol ym 1981 ar ôl cwblhau wyth mlynedd ar hugain yn yr ysgol. Aeth hithau’n ddwfn i galon pawb. Ergyd drom fu ei marw sydyn ym 1984. Athrawes arall a dreuliodd ei chyfnod o dan y prifathro Ben James oedd Miss Jane Rees o bentref Felin-Fach. Cychwynnodd ar ei gwaith ym 1986, a bu farw ym 1957; ond mae’r hyn a gyflawnodd yn ystod fy nghyfnod i yn aros yn y cof byth.

Cofiaf, pan euthum i’r ysgol gyntaf, nad oedd cinio yn cael ei baratoi, a byddwn yn cael fy mwyd yn un o gartrefi’r pentref. Ond ymhen ychydig o flynyddoedd, llwyddwyd i gael cegin a dwy wraig lleol, Mrs Mizzie Mann Davies a Mrs E. J. Richards i baratoi cinio blasus ar ein cyfer. Gosododd y ddwy yma safon uchel, ond fe wynebodd y rhai a’u dilynodd, sef Mrs Eira Davies, Mrs Anne Williams a Mrs Gloria Jones yr her.

Dioddefodd Ysgol Llanddewi yn fawr o achos di-boblogi. Pan ddaeth Ben James yn brifathro, ceid 133 o blant ar lyfrau’r ysgol. Erbyn 1933, roedd y rhif wedi disgyn i 98, ac erbyn 1947 pan oeddwn i’n ddisgybl yno, y nifer oedd 58. Ac ar ymddeoliad y prifathro ym 1961, dim ond 43 o blant oedd yno; a phan ddechreuodd y chwareuwr pêl-droed o Bontrhydfendigaid, William Lloyd ym 1979 fel prifathro, dim ond 33 o enwau oedd ar y gofrestr.

Chwareuodd Ben James ran amlwg ym mywyd y plwyf, gyda Chyngor y Plwyf, fel arweinydd cyngherddau ac eisteddfodau ac fel blaenor ym Methesda. Magodd ef a’i briod ddwy ferch dalentog. Disgleiriodd y ddwy ohonynt yn eu dyddiau cynnar. Enillodd Megan, Tŷ’r Ysgol ei gradd mewn meddygaeth yng Nghaerdydd, a phriododd â meddyg o’r Unol Daleithiau o’r enw Dr Tanner. Daeth eu mab i amlygrwydd ym myd y gofod. Bu’r ferch arall, Elizabeth yr un mor arbennig ac yng Nghaerdydd, fe fagodd hithau a’i phriod y bardd Eingl-Gymreig, Gwyneth Lewis. Colled i’r fro gyfan oedd marwolaeth Ben James, Llwyn Dewi ym 1966, a chofiaf glywed y newydd yn ystod Cymanfa Gyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd ym Mhontypridd. Bu’n drysorydd Capel Bethesda ac yn ysgrifennydd amryw o’r pwyllgorau yn ogystal a bod yn arolygwr campus ac yn athro Ysgol Sul o’r raddd flaenaf. Cyflawnodd ddiwrnod da o waith, ac y mae ei fedd i’w weld ym mynwen Talgarreg yng nghanol Ceredigion.

3.Cyfrol Anhygoel o Ddiddorol

(Gan D Ben Rees)

Adolygiad ar gampwaith Raymond ac Olwen Daniel, Llyfr Mawr Llanddewi Brefi: casgliad unigryw o luniau, barddoniaeth, straeon a hanesion plwyfolion hen bentre’r Sant (Llanddewi Brefi, 2011), argraffiad clawr meddal £25, argraffiad clawr caled £45.

Mae’n debyg mai uchafbwynt Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010 oedd y gystadleuaeth am lyfr bwrdd coffi ar y thema ‘Bro’. Cystadlodd saith ond cafwyd un ymgais oedd yn gwbl unigryw, sef y gwaith buddugol gan Raymond ac Olwen Daniel o Landdewi Brefi. Disgrifiwyd yr ymgais fel ‘gwaith aruthrol’ a chafwyd awgrym na ellid byth mo’i gyhoeddi am na fyddai unrhyw wasg yng Nghymru yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb. Ond nid oedd angen pryderu. Mentrodd Raymond ac Olwen Daniel i’w gyhoeddi ar ei liwt ei hunain a’i osod at ei gilydd yn dda gan Wasg Cambrian, Llanbadarn Fawr. Ychydig ffeithiau i ddechrau am y gwaith a fu tu ôl i gynhyrchu campwaith 2011 ym mysg llyfrau Cymraeg. Ceir trysorfa o dros 900 o ffotograffau, 300 ohonynt a dynnwyd gan Raymond ei hun.

Un o blant y pentref ydyw, a chofiaf ef yn nyddiau fy mhlentyndod. Arhosodd yn y pentref glandeg ar hyd ei oes, er iddo grwydro’r cyfandir fel ffotograffydd, a bu ei gyfraniad i newyddiaduraeth Gymraeg trwy ei luniau yn gyfraniad cwbl allweddol. Defnyddia nifer o luniau godidog John Thomas (1838-1905), Lerpwl, ond a anwyd yng Nglanrhyd, Cellan, ond a symudodd (yn wir cerddodd yr holl ffordd) i Lerpwl yn 1853. Deg mlynedd yn ddiweddarach dechreuodd drwy brynu camera a gwahodd celebrities Oes Fictoria, sef y pregethwyr, i eistedd am eu llun. Pedair blynedd yn ddiweddarach cychwynnodd ei fusnes ffotograffyddol ei hun yn 53 Heol St Anne, Lerpwl, a daeth i’w adnabod fel Cambrian Gallery, a dechrau ar waith mawr ei fywyd i grwydro Cymru, yn tynnu lluniau'r enwogion a phobl gyffredin. Ar dudalen 14 ceir llun a dynnwyd yn 1899 o Ddosbarth Ysgol Sul Capel Bethesda, naw ohonynt a’u hetiau mawr Cymreig ac anghymreig, ac fel y dywed Olwen Daniel, ‘heb yr un wên rhyngddynt’. Safai John Thomas gyda theulu Tŷ Mawr (ac o deulu Tŷ Mawr y daw Raymond ar ochr ei fam) a thynnodd yr arloeswr o blith Cymry Lerpwl bortreadau o bobl yr ardal mewn ‘stiwdio awyr agored’ yng nghefn y tŷ, ac ar dudalen 15 y gwelir y rhain yn eu dillad dydd Sul. Dywed Olwen Daniel: ‘Byddai John Thomas yn tynnu dwsinau o bortreadau mewn diwrnod pan ddelai i’r pentre’, gyda rhesi o bobl y cyffiniau yn disgwyl eu tro i fynd o flaen ei gamera pren mawr. Gwelir uchod William y Rhattal yn ei siwt frethyn, ac mae Margaret Edmund, Gwyngoed Fach, yn ei gwisg orau hefyd. Mynnodd Dan Lewis gael ei dynnu y tu allan i’w ddrws ffrynt ef ei hun yn Arwel.’

Ni roddodd Raymond yr hawl hynny i’w wyres Miss Kitty Lewis, Arwel gan y daliodd ef hi yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth y camera, ac fe’i cofnodwyd fel milgi ar ffo. Un o luniau na fedrai John Thomas, Lerpwl byth bythoedd fod wedi ei gofnodi yn ei oes ef! Ond ceir portreadau lu gan olynydd teilwng i John Thomas yn y pentref. Yn bersonol credaf fod y llun sydd ganddo o J D Jones, Brynawel (Prysg cyn hynny) yn gwbl unigryw. Gŵr diddorol oedd J D Jones a gwelir ef ar dudalen 72 yn eistedd ar y car coed yn ei ardd yn 1976 ac yntau’n 83 mlwydd oed. John Defi Prysg oedd ei enw ar lafar gwlad, yno y tyfodd i fyny ar fferm ei dad. Ac y mae Prysg ar gyrion y pentref. Aeth i Goleg Llanbedr Pont Steffan i astudio Groeg a Lladin, ond ar ôl iechyd ei dad ddirywio bu’n rhaid iddo ddod adref i lafurwaith fferm fynyddig. Cefnu ar y byd academaidd a throi ei law at fyd amaethyddiaeth nad oedd wrth ei fodd o bell ffordd. Cofiaf ef a’i ddwy chwaer, Maggie a Diana, yn dod i fyw i’r pentre’ yn 1949. Y tri yn ddi-blant a’i chwaer hynaf oedd ysgolfeistres olaf Ysgol Gynradd Soar-y-mynydd a gynhelid drws nesaf i’r capel bach gwyngalchog sy’n denu fwy o addolwyr heddiw nag yn oes Maggie a Diana Jones.

J D Jones oedd ein baledwr swyddogol, er bod llawer un arall yn meddu’r ddawn, yn arbennig Ben Davies, Tŷ Mawr, John Richards, Tanybryn a Dai Williams, y Siop. Ond anghofiaf i byth John Defi am iddo lunio cerdd i gofio fy wncwl Evan Rees, a dreuliodd dros 40 mlynedd fel morwr i bedwar ban y byd. Bu Wncwl Evan yn ddylanwad mawr ar fy ngwleidyddiaeth gan ei fod yn Sosialydd brwd ac yn addoli Aneurin Bevan. Da y dywed y bardd amdano:

Hwylio wnaeth i estron wledydd

Yn ddi-ffael heb friw na braw,

Lle’r oedd dychrynfeydd ac ingoedd

Yn byddino ar bob llaw,

Llawer gwaith cyrhaeddodd porthladd

O grafangau’r weilgi gref.

Methodd Hitler ei allu.

Rhoddi brath i’w fynwes.

Cofir am y bechgyn o’r pentref a fu yn y ddwy Ryfel Byd, pobl fel fy nhad a roddodd ddeg mlynedd o’i fywyd yn y fyddin, yr unig un o’r pentref a fu yn y ddwy Ryfel Byd. A magodd ei unig fab i fod yn heddychwr o argyhoeddiad, fel y bu yntau yn ei henoed.

Gwerthfawrogaf y gyfrol hon am fod Raymond ac Olwen Daniel wedi ail-greu’r gymdeithas werinol Gymraeg a gofiaf yn dda ym mlynyddoedd fy mebyd.. Yr oedd 96% o’r boblogaeth yn Gymry Cymraeg; heddiw 45%. Yn wir, dim ond 3 plentyn a ddaw o aelwydydd Cymraeg, allan o 33 o blant yn Ysgol Gynradd Llanddewi. Pan oeddwn i yno yr oedd dros 100 o blant, a daeth llawer mwy atom o Lerpwl a East Grinstead adeg y Rhyfel. O fewn tri mis yr oedd pob un o’r rhain yn llefaru yn Gymraeg. A gwelir lluniau rhai ohonynt yn y gyfrol, rhai a ddaeth yn ôl i fyw i’r fro yn hytrach na aros yn Lerpwl. Ond heddiw mae Prifathrawes Llanddewi a’i staff yn creu Cymry o’r plant a ddaw am addysg, a gwyn eu byd o gael byw mewn bôr mor hardd lle mae Eglwys Dewi Sant yn dal i sefyll yn dystiolaeth i draddodiad Cristnogol y Cymry dros y canrifoedd. Gwelir yn y gyfrol luniau lu o fechgyn y pentre’ a dreuliodd eu bywydau yn offeiriaid a gweinidogion y Gair led led Cymru a dros Glawdd Offa. Ceir y frawddeg hon ar y dechrau:

Gwnaed hi’n bosib cynhyrchu’r llyfr hwn drwy garedigrwydd a brwdfrydedd llawer o deuluoedd y plwy ac amryw o’u perthnasau sydd bellach wedi ymgartrefu ymhell o sŵn y Brefi ond sydd, o hyd, heb anghofio eu gwreiddiau.

Dyna’r gair allweddol, gwreiddiau. Cawn ein hatgoffa am Elsie Jones, Blaenau Ffestiniog o’i gwreiddiau yn y mynyddoedd, gan y Prifardd Dyfnallt Morgan o’i wreiddiau ef yn y fro er mai yn Nowlais y ganwyd ac a magwyd ef, o folawd Alun R Edwards, cefnogwr di-ail i lyfrau’r genedl, a’i ddyled i Ysolgdy Llanio a chymdeithas wareiddiedig. Ond yr enw sydd yn perarogli ar ddechrau a diwedd y gyfrol yw Jonathan Ceredig Davies ( 1859-1932) a hanodd o un o deuluoedd hynaf yr ardal. Cyfansoddodd a chyhoeddodd y llyfrau canlynol:

Paragonia, Adentures in the Land of Giants, 1891-2; Western Australia, 1902; Folklore of West and Mid Wales, 1911; a Life, Travels and Reminiscences, 1927..

Yn ei ragair i gyfrol 1929 dywed:

"Although I have written many bookis, this volume has been my first attempt at printing, and probably be my last attempt."

Dywedid ar ddechrau’r gyfrol, Privately printed by the author (J Ceredig Davies) at his own printing press, at his recidence Myfyrgell. For private circulation only 1927. Yna yn ei ysgrifen ei hun dywed: ‘The author is not a printer, and does not understand any printing for the public.’

Argraffodd 70 o gopïau a phrynais gopi yn 1998 am y swm o £350 o siop lyfrau Ystwyth, Aberystwyth. Bu wrthi am bum mlynedd yn argraffu 70 copi ar ei beiriant bach yn Stryd y Felin, ac erbyn heddiw yr wyf yn deall fod gwerthwyr hen lyfrau yn gofyn £600 y copi amdano.

Eglwyswr ydoedd. Ef oedd y tu ôl i godi Eglwys Anglicanaidd Gymraeg yn y Wladfa a’i galw yn Llanddewi. Bûm yn gweld yr adeilad yn ystod ymweliad â Phatagonia. Erbyn hynny ciliodd ogoniant yr eglwys bellennig, ond nid y gwron a fu yno.

Bu farw yn Llanddewi Brefi ar 28 Mawrth, 1932 ac y mae ei garreg fedd yn wahanol i unrhyw garreg allan ym mynwent gyhoeddus y plwyf. Y mae hi’ sefyll rhwng beddau fy anwyliaid, fy nhad a mam, fy modryb, fy ewythr a fy mam-gu ac erbyn hyn deallaf yn dda'r pennill sydd ar fedd y diwylliedig Ceredig:

Nôl teithio cyfandiroedd

A chroesi llydan foroedd,

I’w Ceredigion hoff ddaeth nôl

Ac yn ei chôl gorweddodd.

Yn y cyfnod rhwng 1970 a 1999 cyhoeddwyd ugeiniau o gyfrolau Cymraeg gydag enw Llanddewi Brefi a Lerpwl wrthynt o dan label Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf. Bellach daeth cyfrol arall o Landdewi Brefi ac am Landdewi Brefi fel y sonia Lyn Ebenezer yn ei ragair: ‘Bu’r holl brosesu ffotograffig a’r gwaith golygyddol, dylunio ac argraffu ar gyfer y gyfrol ar aelwyd Garnedd Wen.

Llongyfarchiadau i Raymond ac Olwen Daniel am lyfr nodedig sydd yn haeddu cefnogaeth dda. Cofier anogaeth Ceredig: ‘Heb fy llyfrau byddwn yn ddiflas oherwydd darllen yw fy mhrif bleser ar y ddaear’. Cewch bleser o weld y lluniau a darllen y sylwebaeth yn y gyfrol anhygoel o ddiddorol.

Rees family in Llanddewi