Howell Harris (1714-1773)

BRWDFRYDEDD Y DIWYGWYR

Gan D Ben Rees

Mae Duw ar hyd y canrifoedd yn defnyddio pobl diffygiol ac o feiau mawrion i gyflawni ei waith. Nid oedd yr un o’r disgyblion y sonnir amdanynt yn y Testament Newydd yn berffaith o bell ffordd. Meddyliwch am Seimon Pedr, gwyllt ei dymer, hawdd pechu yn ei erbyn, yn barod i ddefnyddio trais yng Ngardd Gethsemane ac, eto , daeth yn un o apostolion mawr yr Eglwys Fore a hynny ar sail ei frwdfrydedd Cenedlaetholwr tanbaid oedd Seimon y Selot yn casáu yr Ymerodraeth Rufeinig â chas perffaith ac, eto, cafodd le yn ymhlith y disgyblion am ei fod yntau yn frwdfrydig. A thrwy’r canrifoedd ceir yr un ffenomenon, pobl yn cael eu dwysbigo, argyhoeddi o’i gwendidau personol ac yn y droedigaeth yn barod i fentro mewn brwdfrydedd i ddweud yn dda am Iesu Grist, os oedd hynny yn golygu hwylio o Lundain neu Lerpwl i Calcutta neu Ynysoedd y De . A bu hyn yn wir amdanom ni yng Nghymru, hyd yr ugain mlynedd diwethaf, ddywedwn i, oherwydd pe bai rhywun yn gofyn i mi beth yw diffyg pennaf eglwysi a chapeli Cristnogaeth y dyddiau hyn, byddwn yn dweud diffyg brwdfrydedd, dim tân ym moliau’r pregethwyr, dim awch a digon o argyhoeddiad i danio’n gilydd. Mae’r arweinwyr at ei gilydd, a’r aelodau yr un fath, yn barod iawn i roddi’r bai ar esgeulustod y Senedd yng Nghaerdydd a Llywodraeth San oteffan . Mae pob gweinidog yn gwybod yn dda am y diffyg amlwg y soniaf amdano, methiant i fynd ati i greu cyhoeddusrwydd i’n gweithgareddau, diffyg argyhoeddiad fod yr efengyl yn werth brwydro hyd at waed drosti ac nid bai un enwad yw hyn ond y mae i’w ganfod ym mhob sect ac enwad crefyddol Cymraeg a Saesneg ei hiaith o’r Eglwys yng Nghymru i’r Undodiaid. Yr ydwyf yn bwriadu mynd ar Sul olaf Mehefin 2016 i Gymanfa Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Ngorllewin Morgannwg, darn o wlad y bûm i ar un adeg yn dod yn gyson yr holl ffordd o Lerpwl i bregethu i Gymry Methodistaidd Calfinaidd Abertawe, Brynaman, Clydach, Cwamafan a Phontrhydfen, Glanaman a Glyn-nedd, Gorseinion, Maesteg, Pontarddulais, Pil, Sgiwen, Treforys, Ystradgynlais a Pontneddfychan. Dyna’r diriogaeth. Ac mae cymaint o’r capeli y bûm i’n pregethu ynddynt wedi cau eu drysau. Bellach fel y sylwaf yn rhestr y cylchgrawn Capel. Edrychais ar lawlyfrau yr enwadau a dychryn fod amser yn dadfeilio y cyfan a wyddwn yn dda amdanynt oherwydd diffyg pobl i dderbyn swyddi, i arwain,i seibnio gorfoledd a brwdfrydedd. Meddylier am y Bedyddwyr Cymraeg , dim ond un eglwys sydd wedi cadw’r aelodau gyda’i gilydd yng Ngorllewin Morgannwg a’r eglwys honno yw Carmel, Pontlliw; yn meddu ar Weinidog, 108 o aelodau ac 86 o blant er bod Capel Saesneg Brackla, Penybont, a hanner dwsin yn fwy o blant. Diolch am y brwdfrydedd yng Ngharmel,ac am y gweinidog sydd yno heddiw, y Parchedig Vincent Watkins a’r rhai a fu o’i flaen fel y Parchedig D.Islwyn Davies,dyn craff a dysgedig, a’r bardd -bregethwr godidog Rhydwen Williams y dathlwyd canmlwyddiant ei eni yn Aberdar yn 2016. . Bu hau yn Carmel gan lawer un gan gynnwys y rhai a enwyd, ac yn amlwg daliodd y brwdfrydedd. Mae llawer o’r capeli yng Nghorllewin Morgannwg , y rhan Gymreicaf o’r Sir bellach ,o dan ddeg aelod. Mae’n ddrwg ym mhlith Bedyddwyr Cymraeg Maesteg. Un o bobl ddeallus y Bedyddwyr yng Nghymru yn nechrau’r ugeinfed ganrif oedd Dr. Tom Richards. Dysgai Gymraeg a Saesneg yn Ysgolion tref Bootle ar lan yr afon Mersi. Symudodd yn athro i Faesteg tua 1910 . Ysgrifennodd un o feirdd Lerpwl, englyn iddo, a chofiaf y llinell olaf, sef ‘ Mae eisiau Tom ym Maesteg.’ Beth ddywedai Dr Tom heddiw am gyflwr capeli Bedyddiedig Maesteg lle ceir pedwar capel – Bethania gyda 18 aelod, Calfaria gyda hanner hynny sef 9, Ainon gyda 7 o selogion ar y llyfrau a Salem gyda un yn fwy sef 8, cyfanswm o 38 o Fedyddwyr yn un o drefi pwysicaf cymoedd y De. Ac mae eisiau rhyw Tom ym Maesteg o hyd i godi brwdfrydedd, i ddweud y drefn oherwydd yr un yw dyn a dynes ym mhob oes ac er bod yr amgylchiadau wedi newid a ninnau yn meddu ar bob math o dechnoleg, nid oes yr un ohonom yn berffaith, heb ei fai heb ei eni, ac mae angen Gwaredwr eneidiau, emosiwn, a chof arnom. Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd hi’n argyfyngus yng Nghymru , ychydig o offeiriaid Eglwys Loegr a bregethai o ddifrif a llai fyth yn iaith y werin y Gymraeg, prin y gwelid hyd yn oed Esgob ym mhulpudau y Llannau oedd yn medru trafod yn ddeallus ar bynciau mawr y ffydd a phrin yw hi o hyd yn ol a ddeallaf.. Yr oedd Dydd yr Arglwydd dan orchudd, fel ag y mae heddiw ar hyd a lled y siroedd , sych a diflas oedd y traddodi am Dduw, yr oedd ef yn broblem astrus iddynt, ie credwch fi dim tân dynol na dwyfol , dim brwdfrydedd heintus.. Galwodd Howell Harris un o’r rhai hyn a ddaeth i argyhoeddi, yr Eglwys Wladol fel yr ’’ Eglwys ddirymgedig hon” ar i Dduw dywallt ei rymusterau fel na fedrai y mwyafrif ddianc rhag ymateb.. Ond, credai y Diwygiwr o Drefeca er hynny ei fod wedi cael ei alw i lafurio ynddi hyd yn oed os oedd hynny yn golygu treulio rhan fwyaf o’i amser yn y priffyrdd a’r caeau ac ymfalchïai fod yna bobl yn barod i ymateb. Os oedd yr eglwys yn ddirmygedig, Corff Crist ydoedd wedi’r cyfan , ni allai ei chasáu hi. Yr oedd yn barod i ddioddef poen enaid , atgasedd y bobl bwysig ac erledigaeth yr offeiriad , er lles y rhai oedd ar ddarfod amdanynt , ac yn barod i ufuddhau i’r Ysbryd Glân a’i Waredwr. A’r hyn a wnai’r Ysbryd Sanctaidd oedd ei ysbrydoli i bregethu ac o’r pregethu hwnnw llwyddodd i argyhoeddi myfyriwr ifanc o’r Academi gerllaw yn Llwynllwyd o’r enw William Williams o fferm Pantycelyn ger Pentre-ty-gwyn , oedd â’i fryd ar fod yn genhadwr meddygol i’w gynorthwyo yn y dasg frwdfrydig o ddeffro’r Cymry o’u cwsg. Profiad y gŵr a ddaeth yn emynydd eneiniedig oedd, “Dyma’r bore byth mi gofiaf”.

A ffeindiodd Howell Harris fod yna ŵr yr un mor frwdfrydig ag yntau yng nghefn gwlad Ceredigion o’r enw Daniel Rowland, Llangeitho. Curad a gafodd eu alw yn foanerges ifanc gan y gwrth Fethodist Theophilus Evans o Llanddewi Abergwesyn a Llanwrtyd. Boanerges Trefecca a Thalgarth yn Sir Frycheiniog oedd Howell Harris a Boanerges Llangeitho a Nantcwnlle yng Ngheredigion oedd Daniel Rowland. Penderfynodd y ddau gyfarfod ym mhentref Defynnog i ddod i nabod ei gilydd. Y ddau y diwrnod hwnnw yn cyhoeddi rhyfel sanctaidd yn erbyn pechod gyda P fawr ac yn seinio nad oes enw arall dan y nef ymhlith plant dynion ond enw Iesu Grist. A daeth y tlodion a’r werin bobl, y cyfoethogion a’r sgweiar yn eu blas, y siopwr, ffermwr, y crefftwr yng Nghymru y ddeunawfed ganrif dan ddylanwad y pregethwyr brwdfrydig hyn. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng y tri diwygiwr. Dull Harris oedd crwydro’r wlad a phregethu yn yr awyr agored. Crwydro i’r gorllewin, gogledd, de Cymru , yna Lloegr, fel dinas Bryste a Llundain a’i amrywiaeth . Daeth i garu y Morafiaid , y ddau frawd John a Charles Wesley ac aeth ati i gynorthwyo George Whitefield yn y Tabernac fel y medrai ef hwylio i’r amerig i ddeffro gwerin Lloegr Newydd.l I William Williams, yr emynydd na fu mo’i debyg,,ei gryfder ef oedd sefydlu grwpiau bychain sef y seiadau yng nghefn gwlad Ceredigion lle y gellid datgelu ofnau’r galon mewn cwmniaeth gefnogol. Arall oedd dull Daniel Rowland sef areithyddiaeth drydanol yn ei blwyf enedigol. Yr oedd ef yn gurad i’w dad a heb y rhyddid i grwydro ond i Landdewibrefi a Llanbadarn Odwyn a weithiau i Ystrad Ffin. Yn wir yn Llanddewibrefi yr achubwyd y curad balch o dan weinidogaeth yr addysgwr Griffith Jones . Llanddowror. Gwnaeth Rowland Llangeitho yn ganolfan y dychweledigion. Ni wnaeth Harris Talgarth na Williams Llanymddyfri yn ganolfannau pererinion. Un o ganlyniadau brwdfrydedd y Diwygiad a phoblogrwydd Daniel Rowland oedd fod y werin bobl yn barod i grwydro i Langeitho. Daeth yn ganolfan i bererinion Cymru gyfan.

Byddai’r pererinion yn teithio mewn grwpiau, canu ar y ffyrdd ac adrodd emynau o eiddo William Williams a dod â’u bwyd gyda nhw – bara a chaws ac yna eistedd i’w fwyta ar fin y ffordd lle yr oedd yna ffynhonnau yn gyfleus er mwyn ei disychedu.Blasaus oedd y gymdeithas hon a chyfle i hanner dwsin o weddïau gael eu hoffrymu yn galw am fendith gyfoethog o enau yr arweinwyr. Lleol a elwid ran amlaf gyda’r gair cynghorwyr. Yna, cerdded eto ar y daith i Langeitho a gyfrifid fel Meca Methodistiaeth. Daeth yna batrwm o fis i fis.. A dyma’r patrwm. Neilltuwyd Sul olaf y mis fel Sul y Bererindod. Galwent y Sul hwnnw yn Gwrdd Pen Mis Dydd yr Arglwydd ydoedd a hwnnw yn ddydd sbesial ym mhob oes.. Deuai tair ffrwd fawr ynghyd , ffrwd y Gorllewin o gyfeiriad Gogledd Penfro a De Ceredigion , yna ffrwd y De o gyfeiriad cymoedd Morgannwg a Mynwy a Sir Gaerfyrddin a ffrwd y Gogledd o Wynedd a Chlwyd a byddent yn cychwyn o’r De a’r Gogledd yn blygeiniol ar ddydd Gwener. Deuai ffrwd y Gorllewin trwy’r ‘smotyn du’ lle yr oedd yr Undodiaid wedi sefydlu a chyraedd Llangeitho o gyfeiriad Llanbedr-Pont-Steffan . Byddai’r rhai a ddeuai o Aberdâr a Merthyr,Aberhonddu a Llanwrda yn cyrraedd mynyddoedd Llanddewibrefi erbyn nos Wener. Dim ond rhyw saith milltir fyddai ganddyn nhw fore Sadwrn i Langeitho. Cofier y byddai ffermydd Llanddewibrefi a Llangeitho yn caniatáu y pererinion i gysgu ar y gwair yn yr ysguborau a rhoddi blancedi drostynt. Cofier y byddai’r dillad gwely o safon arbennig gan fod Llangeitho, fel Llanddewibrefi, yn enwog am y ffatrïoedd gwlân. Byddai eu brodyr a’u chwiorydd yn y ffydd yn paratoi bwyd i’r pererinion, a fyddai yn cynnwys llaeth, bara ceirch, caws a basned o gawl. Cawl y wlad, yn cynnwys cig a llysiau. Gan eu bod yn bobl o foesoldeb uchel, yr oedd dynion a’r gwragedd yn cysgu ar wahân, nid fel mae ffoaduriaid sydd yn dod i Ewrop yn gwneud y dyddiau hyn. Cysgu mewn tai mas gwahanol. A’r diwrnod wedyn, sef Sadwrn, byddai Daniel Rowland yn pregethu am un ar ddeg o’r gloch, gan eu galw i edifeirwch a chredu’r Efengyl. Yr oedd yr hanesydd Dr. Owen Thomas, Princes Road,Lerpwl yn arfer dweud fod Rowland yn rhoddi gerbron y pererinion ddiwinyddiaeth Galfinaidd gymedrol o safon uchel. Pendraw hyn oedd fod y mwyafrif o’r pererinion yn cael ei hadnabod ‘Pobl Rowland ‘.

Yna, yn yr hwyr ar y Sadwrn , byddent yn dod at ei gilydd i grefydda a chymdeithasu yn yr efengyl. Paratoad ar gyfer y Cymuno bore trannoeth oedd y flaenoriaeth.. Byddai’r Gwasanaeth Cymun yn cael ei gynnal naill yn sgubor ffarm Meidrim neu yn y Capel Newydd, a adeiladodd Daniel Rowland ei hun yn 1763 ar ôl cael ei esgymuno fel curad gan Esgob Tyddewi. Yr oedd y cwbl yn dibynnu ar y tywydd ac ar nifer y pererinion. Os byddai’r tywydd yn ffafriol, ceid y gwasanaeth yn yr awyr agored. Yr oedd yr Eglwys Anglicanaidd pryd y caniateid iddo a’r Capel Newydd yn rhy fach gan amlaf. Nid oedd Rowland am i neb adael yr eglwys esgobol , yr Hen Fam, i enwad arall ac yr oedd Capel Newydd (Capel Gwynfil) bellach yn brif ganolfan y mudiad Diwygiedig trwy Gymru gyfan. Yr unig bererinion a dderbyniai y cymun oedd y rhai a berthynai i’r Seiadau.

Ond nid oedd y rheol honno yn cadw draw ddwsinau o bererinion rhag mentro i Langeitho, gan gynnwys aelodau o blith y Bedyddwyr a’r Annibynwyr. Dyma i chwi enghraifft i brofi’r pwynt sef John Thomas (1730 – 1810) o Raeadr Gwy a ddaeth dan ddylanwad Rowland yn y pumdegau ac a ysgrifennodd hunangofiant gwerth ei ddarllen o’r enw Rhad Ras a gyhoeddwyd yn 1810. Ond, gadawodd ef y Methodisitiad am fod strwythur Capel yr Annibynwyr yn apelio’n fwy ato. Ond, daliai i deithio i Langeitho a byddai ei arwr yn caniatáu iddo nawr ac yn y man gyhoeddi’r gair. Ar bnawn dydd yr Arglwydd byddai’r partïon yn ailymuno â’i gilydd wrth Gapel Gwynfil i ddechrau ar eu taith yn ôl i’w cartrefi. Dyma farathon a byddai’n golygu cerdded trwy’r nos er mwyn cyrraedd yn ôl yn gynnar bore Llun er mwyn ailafael yn ei galwedigaethau.

Rydan ni’n sylweddoli bod enw Daniel Rowland wedi mynd fel tân gwyllt trwy Ogledd Cymru, gyda’r canlyniad fod cannoedd o Gymry Cymraeg yn dilyn esiampl pererinion Methodistaidd Gorllewin a De Cymru. Byddai’r daith o Wynedd yn anodd, gan fod Bae Ceredigion a mynyddoedd uchel Cader Idris a Phlumlumon yn rhwystr ond, yr hyn a wnaeth y Methodistiaid hyn oedd dilyn esiampl y Seintiau cynnar yn chweched ganrif o Oed Crist. Teithio rhan o’r daith ar y tir a’r rhan ddilynol mewn llongau ar y môr. Yr hyn a wnâi Methodistiaid Môn oedd hwylio mewn cychod o Berffro a Phorthaethwy i Borth Dinllaen a Nefyn ac, yna, cerdded ar draws gwlad Llŷn i Bwllheli ac Aber-soch a hwylio ymlaen wedyn ar draws Bae Ceredigion. Byddai dewis o bedwar porthladd ganddynt – Aberystwyth, Llannon, Aberaeron a Chei Newydd. Ar ôl cyrraedd un o’r porthladdoedd hyn byddai’n rhaid cerdded i Langeitho. Arferiad y rhai a fyddai’n hwylio i borthladd Aberystwyth neu Lannon fyddai cyrraedd Llangwyryfon ar nos Wener. Wedyn, yn gynnar fore Sadwrn, cerdded dros Mynydd Bach, heibio Llyn Eiddwen am Benuwch ac yna rhyw ddwy filltir oedd ganddynt wedyn i gyrraedd Llangeitho. Yno, byddent yn cyfarfod â phererinion y De a oedd wedi dod o Landdewibrefi,a Gogledd Myrddin, ac wedi cyrraedd ar ol mentro dros Fannau Brycheiniog o gymoedd Morgannwg a Mynwy.

Gwyddai pererinion y Gogledd a’r De a Gorllewin Cymru am dywydd diflas, yn arbennig misoedd y gaeaf, eira ar y mynyddoedd, stormydd ar y môr, gwynt traed y meirw , a glaw di-dostur. Yr adeg hynny byddai’r pererinion yn cychwyn ar ddydd Iau yn lle dydd Gwener er mwyn cyrraedd Cwrdd Pen Mis mewn amser. Weithiau, byddai’r môr a’i donnau mor ofnadwy fel y byddent yn llochesu yn y porthladdoedd ac yn y diwedd gohirio’r daith am fis. Dyna fyddai’r siom, methu cyrraedd Llangeitho i dderbyn y Cymun Sanctaidd o ddwylo’r Diwygwyr a’u cynghorwyr.

Yr oedd yno anawsterau eraill, yn arbennig wrth ddychwelyd. Weithiau byddai’n rhaid iddynt aros yn Llannon neu Aberystwyth am rai dyddiau oherwydd y tywydd garw neu, y dewis arall, cerdded yr holl ffordd i Arfon bell. Byddai’n rhaid cerdded â glannau Ceredigion, Meirionnydd a Sir Gaernarfon, gan edrych allan am gychod a fedrai eu helpu groesi ambell aber. Ar wahân i stormydd natur a’r ffyrdd garw yr oedd yna erledigaeth gyson. Byddai’r offeiriaid a’r byddigions yn casáu y ‘Methodist vagabonds’ fel eu gelwid. Yn aml, byddai yna bobl gas yn taflu cerrig, ymosod arnynt yn gorfforol a dwyn pob ceiniog oedd yn eu pocedi. Rydan ni’n gwybod bod yna griw di-doreth yn nhref Aberdyfi yn peltio y tadau a’r mamau Methodistaidd hyn â chabaets, pysgod wedi pydru a llysiau. Uwch i fyny yn Harlech, teflid cerrig a tyweirch. Anafid y pererinion hyn fel y’u bod yn gwaedu yn drwm ac yn gorfod torri darn o’r crys i guddio’r clwyf. Byddai’n amhosibl yn aml iddynt gael unman i gysgu ond o dan y gwrychoedd a byddai trigolion y mân drefi glan y môr yn gwrthod bwyd a diod iddynt, er eu bod yn barod i dalu amdano. Galwodd un o’r rhain mewn tŷ yn Harlech, gan ofyn am ychydig ddŵr i’w ddisychedu. Gwrthododd gwraig y tŷ gan ychwanegu,

“You are having nothing here, not even a single drop to drink. Go and ask God to give to you – they tell me that you lot claim to be his servants!”

Ond pan gyrhaeddai’r Methodistiaid Calfiniaid ben y daith ym Mryncroes, Beddgelert, Llanfechell neu Langwnadl ni fyddent yn son am y colbo a’r atgasedd a brofwyd ar y daith ond yn adrodd wrth eraill am brofiadau brwdfrydig pererinion Llangeitho, emynau gorfoleddus Pantycelyn a phregethu godidog Daniel Rowland. Yr oedd mor fendigedig arnynt, a hwythau wedi cael golwg ar fawredd y Duw byw a chymuno gyda’i gilydd mewn harmoni wrth gofio’r Groes a’i chyfri’n goron. Byddent yn cytuno cant y cant â Phantycelyn:


A phwy bynnag gyfeiliornai

O wiw lwybrau dwyfol ras

Fe ddatguddiai eu cyfeiliornad

Hyd nes gwelo pawb hwy’n gas.


Methai aml gyflogwr tua Arfon ddeall pobl oedd yn rhoi ffydd cyn eu cyflog. Cwynai y rhain fod mynychu cyfarfodydd y Diwygiad a’r daith bell i Langeitho yn golygu bod pobl yn colli yn gyson ddiwrnod neu ddau ac felly yn anghyson yn eu gwaith. Dywedodd adroddiad yn 1794 fod gweision ffermydd o gylch Caernarfon yn barod i gymryd llai o dâl er mwyn rhyddid i fynychu pob seiat a gynhelid.

Yr oedd pererinion Llangeitho yn gwneud argraff yn eu bröydd. Edmygid hwy gan bobl na fedrai wynebu’r fath daith ei hunain oherwydd cyflwr ei iechyd, tlodi ac amgylchiadau byw ac yn tynnu oddetu oedran. yr addewid. Pererinion Llangeitho oedd y brwdfrydig rai ym mhob ardal ac yn fuan trwy ymroddiad y rhain aed ati i adeiladu capel syml i fod yn gartref ysbrydol i weddill y seiadwyr.. Dyna pam i gymaint o’r rhain gael eu hadeiladu yn Llŷn yn ail hanner y ddeunawfed ganrif.

Atgyfnerthodd y pererindodau i Langeitho ddau draddodiad – traddodiad y môr a’r ffydd Gristnogol a ddirwynai yn ôl i Grist a’r Apostolion. Galwai Rowland hwn, y Gwir Ffydd, a ddaeth o Eglwys Jeriwsalem i’r Jeriwsalem Newydd yn Llangeitho. Dyma agwedd bwysig dros ben. Ac yna traddodiad y môr a’r holl gapeli a adeiladwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd yn arbennig tu allan i Gymru fel canlyniad i hynny– fel Lerpwl , Runcorn, Widnes, Ellesmere Port, Preston, Barrow-in-Furness, Millom, South Shield a Dulyn. Ar y llongau hyn trwy y bedwaredd ganrif ar bymtheg ceid gwasanaethau crefyddol, Ysgol Sul, cyfarfodydd gweddi. Dyna gychwyn yn Lerpwl trwy weledigaeth John Hughes ( Mansfield Street),yr emynydd John Roberts (‘ Minimus ‘ ) , y marsiandiwr coed ,David Roberts yn Ionawr 1840 yng nghapel Rose Place,Lerpwl Genhadaeth Dramor gyda’r maes cenhadol yng ngogledd ddwyrain yr yr India . Dyna er enghraifft Daniel Jones mab Edward Jones Maes-y-plwm,Dyffryn Clwyd a’i wraig Ann – yn teithio o Lerpwl Medi 13eg, 1845 ar y Cordeilia â’r Capten, un o Gymry Birkenhead, Enos Hughes yng ngofal y cwch.. Un o ‘r brwdfrydig rai dros yr Efengyl oedd Enos Hughes ac ef oedd yng ngofal y cenhadon dewr. Sonia Daniel Jones yn ei ddyddiadur manwl am ei salwch ef a’i briod , y stormydd garw gyda’r mor yn rhuo, a hwythau yn methu cysgu ac yn ofni am ei heinioes ond roedd ei ffydd yn Nuw yn gadarn a’i brwdfrydedd i gyflwyno breintiau yr Iesu a’r efengyl yn hollol heintus. Byddai’r daith i Calcutta o Lerpwl ac o Calcutta i Lerpwl yn cymryd ddim yn bell o flwyddyn o amser a byddai’r Capten a’i griw wedi darllen y Beibl Cymraeg cyfan erbyn iddynt ddod yn ôl. i’r afon Merswy. Daeth Blaenoriaid y Môr fel y’u gelwid yn bobl arbennig iawn a byddent yn cael eu gwahodd i’r Sêt Fawr ar eu hymweliadau a’r porthladdoedd. Daeth hi’n draddodiad ym Môn, Arfon, Meirionnydd a Cheredigion a Lerpwl i neilltuo darn o’r galeri ar gyfer y morwyr brwdfydig a’i galw’n Galeri’r Morwyr.Ceid hyn yn Llanddewi Aberaerth a Llannon, a llawer lle arall. ar lan Bae Ceredigion.

Bu llawer o deithio i Langeitho hyd yn oed ar ôl marwolaeth Daniel Rowland ar Hydref 16eg, 1790. Daliwyd i gynnal Sul Pen Mis am rai blynyddoedd gan fod dau offeiriad Methodistaidd ar gael i weinyddu y Sacrament sef , John Hughes, Sychbant, a John Williams, Lledrod. Byddent yn dilyn yn fanwl y Llyfr Gweddi Anglicanaidd a gwnaed hynny am o leiaf ugain mlynedd ar ôl marw Rowland. Yn 1811 daeth y mudiad yn enwad y Methodistiaid Calfinaidd a pheidiodd Llangeitho â bod yn Feca. Pan adeiladwyd y trydydd capel yn 1813 – 1815 yr oedd y pererindodau wedi darfod. Tyddewi oedd y fangre yn y Canol Oesoedd, Llangeitho o 1740 i 1810, heddiw Soar y Mynydd yn bennaf yw’r gyrchfan a hir y parhao. Y gwir yw bod pobl yr Arglwydd Iesu ym mhob cenhedlaeth angen ysbrydoliaeth, brwdfrydedd ac antur y bererindod at Dduw yn Iesu Grist.