Author's Remarks

1. Ar Ddydd fy Mhen-blwydd

(Cerdd o waith y Prifardd Alan Llwyd , awdur Glaw ar Rosyn Awst)

( Chwefror 15,1996 )

Eleni, ar ddydd fy Mhen-blwydd

Yn wyth a deugain oed,

Ar ganol dathlu’r geni

Daeth cerdyn yn fy ngwadd I’w hangladd hi


Collais ddau riant eisoes:

Mae gollwg dagrau dros ddau yn ddigon I ddyn

Yn ystod un oes.

Mae claddu un fam yn fwy

Na digon o brofedigaeth

I ddyn trwy ddyddiau ei oes.

Gwrthodaf fwrw fy ngalar am riant arall:

Gwrthodaf I dywyllwch ei hangau

Bylu un o’r canhwyllau pen-blwydd .

Gwrthodaf alaru amdani

Er mai hi oedd fy mam

Neu,o leiaf, hi oedd yr un a roddodd yr anadl

Yn y geiriau hyn, yn hyn o gnawd,

Ond eto,paham y dylwn dristau dydd fy modolaeth

A hithau wedi gwrthod fy magu

Gadawodd hynny I ddau a’I magodd hi:

Gadael y baich o godi

Y mab na fynna’I gydnabod

I’w rhieni ei hun,

Rhieni a oedd bron yn rhy hen I fagu un bach,

Ond ar ol imi gladdu fy nain yn nhywyllwvch un Ionawr

Tad a mam oedd taid I mi.


Roedd blodau ei hangau hi

Yn dusw ar y deisen,

A hwythau’r canhwyllau’n cynnau fel cnawd.

Oedd dydd ei diweddu


Daeth awel o wynt I ganol y dathlu a haen

O lwch I orchuddio’r wledd;

Y wreichion hynny a dasgai o’I harch a ennynnodd

Y fflam ar ganhwyllau ’r dyddiad ,

A llewyrch eu golau yn dywyllwch galar

Ac eto ni allwn deimlo un dim,

Dim galar na chwerdwer ychwaith ,

Dim poen, dim pang, dim ond teimlo

Yn chwithig

I’r angau chwythu

Ei channwyll fach o einioes

Allan, tra oedd canhwyllau

Eraill yn dathlu dydd pen-blwydd ei mab.

Ac eleni, ar ddydd fy mhen-blwydd

Yn wyth a deugain oed,

Yr oedd y canhwyllau’n cynnau fel corff

Yn fflam yr amlosgfa,

Y canhwyllau a oedd yn llosgi

HEb oleuni ar ddydd fy mhen-blwydd.

2. Datganiad i’r Wasg

Dyddiad

18/11/2019

Cyswllt yn Y Lolfa

gwenllian@ylolfa.com


Teitl

Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl

Dyddiad cyhoeddi

Pris & ISBN

£19.99 & 978-1-78461-726-4

Awdur

D. Ben Rees

Ffôn, ebost

PENLLANW DEGAWDAU O WAITH YMCHWIL

Penllanw degawdau o waith ymchwil i hanes unigryw Cymry Lerpwl a glannau Merswy yw Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl (Y Lolfa) gan D. Ben Rees. Dyma gyfrol swmpus, yn cynnwys lluniau, sy’n gofnod pwysig gan un o awduron amlycaf y ddinas ac sy’n adnabyddus drwy Gymru gyfan.

Meddai D. Ben Rees:

“Dyma rhoi sylw dyledus i Gymry Lerpwl o’r cyfnod pan oedd hi’n bentref pysgota hyd at y ddinas yw hi heddiw.”

Mae’r trysorfa o wybodaeth am bobl a digwyddiadau un o’r dinasoedd mwyaf diddorol ym Mhrydain. Ceir hanes y miloedd ar filoedd o Gymry Cymraeg a heidiodd i Lerpwl a’r cyffiniau i chwilio am waith ac i wella amodau byw, gan gynnwys adeiladwyr, gweinidogion, meddygon a siopwyr.

Dywedodd D. Ben Rees: “Yn sgil yr ymfudo o Gymru, yr Alban, Ynys Manaw, Cernyw ac Iwerddon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, daeth Lerpwl yn ddinas unigryw. Ond y duedd gan haneswyr yn gyffredinol yw pwysleisio cyfraniad y Gwyddelod yn unig i’r ddinas. Anwybyddir y Cymry i raddau helaeth gan eu bod, mae’n debyg, wedi canoli eu hymdrechion ar fywyd y capel a’r theulu. Dim ond ambell un fentrodd i fwrlwm gwleidyddiaeth y ddinas, lle’r oedd y Gwyddelod yn amlwg iawn. Mae rhai Cymry a lwyddodd wedi cael sylw, ond beth am y tlodion, y rhai dienw a oedd yn rhygnu byw ac yn gorfod dibynnu ar gardod gan eraill?”

Tystia Ellis Roberts fod Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl yn gyfraniad nodedig, meddai:

“Y mae gwybodaeth Dr D. Ben Rees ynghylch Cymry Lerpwl yn gwbl ddigymar. Yn y gyfrol yma gall blethu ynghyd ei ddawn fel ymchwilydd hanesyddol â’i brofiad o fod wedi arwain y Gymdeithas Gymraeg yn Lerpwl ers degawdau. Mae’n waith sy’n dysteb deilwng i gyfraniad y Cymry ar Lannau Merswy gan ymfalchïo yn eu cyfraniad, ond heb ei oreuro.”

Mae D. Ben Rees yn byw yn Lerpwl ers 1968. Bu’n gyfrifol am lu o ddigwyddiadau pwysig yn y ddinas. Mae’n adnabyddus fel arweinydd dibynadwy ac fel un sydd wedi gwneud gwaith enfawr ymysg Cymry Lerpwl. Penderfynodd Cyngor y Ddinas, yn unfrydol, i’w gydnabod fel Dinesydd er Anrhydedd mewn seremoni arbennig yn 2018.

Bydd Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl yn cael ei lansio ar nos Fawrth, 26 Tachwedd yng Nghanolfan y Cymry, Auckland Road, Lerpwl am 7.30 yh.

Mae Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl gan D. Ben Rees ar gael nawr (£19.99, Y Lolfa).

3. Llyfrau

Gan D.Ben Rees

Gofynnir imi bron yn wythnosol faint o lyfrau sydd gennyf. Yr ateb yn syml ydyw wn I ddim ond byddwn yn tybio fod y nifer sydd yn yn y ddwy ystafell yn Allerton, Lerpwl yn fwy nag sydd gan unrhyw un o’m cyfoeswyr fel diwinyddion, haneswyr a ysgolheigion. Felly mae gennyf ymhell dros ugain mil o gyfrolau ar bob math o bynciau yn Gymraeg a SaESNEG. Credaf hefyd fod hanner y nifer yn rhyw ddeg mil o gyfrolau hardd, clawr caled, casgliad cyflawn o Arlywyddion yr Unol Daleithiau er enghraifft. Drbyniaids gwestiynau craff o blith y cylchgrawn y Golwg, cylchgrawn sydd yn medru anwybyddu rhai ohonom o blith y radicaliaid am gyfnod hir . Dewch eto I 32 Garth Drive am Ymateb DBR

Y cwestiwn cyntaf yw hwn : Y Llyfrau yr ydwyf ar ganol ei darllen. Cwestiwn hawdd ei ateb. Cyfrol Daniel Jonah Goldhagen , Hitler’s Willing Executioners: Ordinary Germans and the Holocaust ( Llundain, pedwerydd argraffiad, 1999 ) yw’r gyntaf. Dyma gyfrol anodd gorffen eu darllen gan fod yr awdur yn dangos pa mor felltigedig fu’r Almaenwyr. Ceisiaf feddwl yn dda o’r Almaenwyr y gorffennol ond sut y medrwch chwi. Cyn darllen y gyfrol hon credwn mae dim ond rhyw ugain o wersylloedd melltiged a sefydlwyd gan y diawliaid a gredodd yn yr arwr Adolf Hitler . Dyn drwg gydag obsesiwn I ddileu yr Iddewn o wyneb y ddaear . Ond yn ol yr ysgolhaig sefydlodd yr Almaenwyr ddeg mil o wersylloedd o dan ei goruchwyliaeth. Gwelid y gwersylloedd treisiol hyn ar draws cyfandir Ewrop , gyda’r mwyafrif ohonynt yn Nwyrain Ewrop . Cofier fod 5 mil wyth cant o wersylloedd angau yng ngwlad Pwyl . Ni allai y Pwyliaid mwy na’r Almaenwyr ddianc rhag y gwesylloedd llabyddio y diniwed a’r dirmygedig Yr oedd 95 y cant o Almaenwyr yn Gristnogion a phe bae nhw yn Gristnogion o ddifrif gellid fod wedi gorchyfu Hitler ? Ond roedd cyfaraledd uchel o Gristnogion yr Almaen , Pabyddion a Phrotestaniaid, am ddileu yr Iddewon . Fel cymaint o Lafurwyr Lloegr oes Corbyn y mae casineb yn nhalonnau gweithwyr tuag at yr Iddewion Fel aelod cydwybodol o’r Blaid Lafur oddiar 1955 mae gennyf gywilydd fod pobl bwysig y Blaid Lafur Brydeinig yn meiddio beirniadu y genedl etholedig yn lle amddiffyn y bobl a roddodd I’n byd Iesu o Nasareth, Gwaredwr y Byd. Llyfr gwahanol iawn yr wyf yn methu ei orffen am fod gormod o ffeithiau, yn drwm lwythog, ydyw cyfrol Hafina Clwyd, Pobl sy’n Cyfri( Llanrwst 2001 ) Am ugain mlynedd bum yn pori ynddo ond I lunio cyfrol ddealladwy y mae angen gwneud yr enwau a glywn amdanynt gan yr awdures i Siarad yn ddiddorol. I fynd yn ol at yr Holocost mae cyfrolau eraill hefyd yn fy llyfyrgell ar hanner eu darllen. Yna yr ail gwestiwn : Y llyfr a newidiodd fy mywyd oedd cyfrol Norman Vincent Peale, The Power of Postive Thinking a ddarllenais fel myfyriwr digon gwladaidd o Landdewibrefi. Cyfrol a werthwyd dros dair milwn o gopiau yw’r gyfrol . Dylanwadodd y gyfrol arnaf am ei fod am I ni llanciau a llancesi cul ein golygon I sylweddoli fod bywyd yn anturiaeth fawr.’ Anturiaf ymlaen, trwy ddyfroedd a than , yn dawel yng nghwmni fy Nuw’ yw’r nod . Y mae’r gair anturiaeth yn air arbennig, yn unigryw I ni I gyd, a dysgodd y pregethwr o Efrog Newydd bobl gyffredin fel fi I weld fod cyflei gael os ydym yn bositif yn hytrach na bod yn negyddol. Yna yn drydydd , y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arnaf fel awdur . Byddwn I yn dweud nofel Islwyn Ffowc Elis Cysgod y Cryman . Roedd inc yn y gwaed cyn hynny gan fy mod yn gofalu ar ol y newyddion lleol I’r Cambrian News ond pan ddaeth y nofel arbennig hon allan agorwyd y ffenestri I gyd . Roedd gennyf ddiddordeb mawr merwn sosialaeth a dyma nofel yn rhoddi I ni olwg ar y gwrthdaro rhwng Edward Vaughan a’I fab , myfyriwr oedd yn cashau cyfalafiaeth . Ar ben hyn ceid arddull rywiog , farddonllyd, flodeuog a gwelodd nifer ohonom fod yna ganllawiau ar ein cyfer fel awduron yn y Gymraeg Trown at gwestiwn arall , y llyfr sy’n hel llwch ar fy silffoedd. Cyfaddefaf mae’r gyfrol ydyw Tempestuous Journey: Lloyd George His Life and Times gan Frank Owen ( Llundain, 1954 ). Y prif reswm imi fethu darllen y gyfrol I gyd ydyw meithder y gyfrol, 7 84 o dudalennau. Dylwn wneud ymdrech newydd gan fod Frank Owen wedi rhannu fflat gyda Aneurin Bevan yn 1929 .Mae ganddo ddyfyniadau na welais yn unman arall merwn astudiaeth o Lloyd George . Yna y cwestiwn Y llyfr dw I’n cywilyddio fwyaf fy mod heb ei ddarllen. Mae yna lu mawr ohonynt . Y pennaf cyfrol sylweddol Peter Brock , Pacifism in the United States ( Toronto, 1954 ) . Darllenais gryn lawer o’i weithiau a bum yn sgwrsio ag ef droeon dros y blynyddoedd. Dysgodd yr Athro Brock Gymraeg er mewyn deall Heddychiaeth yng Nghymru . Cwestiwn arall : y llyfr dwi I’n troi ato mewn cyfyng gyngor. A’r ateb cyfrol hardd y ‘ cawr o’r BBC ‘ Huw Edwards, City Mission: the story of London Welsh chapels ( Talybont 2014 ). Bum yn weinidog bellach ers 58 mlynedd a phan ddaw digalondid heibio’r drws trof I ‘r gyfrol ysblennydd am galondid. Onibai am Huw fyddai’r stori heb eu hadrodd yn Llundain. Ceisiais wneud rywbeth tebyg am Gymry Lerpwl. Pan ofynwyd I mi, am y llyfr y buaswn I yn ei roi yn anrheg , cydiaf mewn cyfrol arall o Wasg y Lolfa , Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl a luniais ac a lansiwyd cyn Nadolig 2019 ac sydd yn cael derbyniad ac adolygiadau da dros ben . Golygodd flynyddoedd o ymchwilio ond yr wyf bellach yn gwybod y bydd y gyfrol hon yn dal pwys a gwres y dydd am ddegawdau I ddod . Y dasg yn awr yw cael cyfrol yn Saesneg ar yr un thema. Y cwestiwn olaf: y llyfr yr hoffwn gael fy nghofio amdano, a byddwn yn ateb, Cofiant James Griffiths : Arwr Glew y werin, pensaer y Gymru fodern . Cyhoeddwyd y gyfrol Gymraeg yn 2014 a daw y gyfrol Saesneg allan yn 2020. Mae yn barod I’w argraffu . Os nad yw’r Cynulliad yn barod I wario ar gofgolofn iddo,o leiaf caiff dwy gyfrol I’w goffau.

4. Bocs Sebon

Lle ydan wedi colli ein pobl ?

Gan D.Ben Rees

Dyna sydd yn fy mhoeni yn fy hen ddyddiau . Bum yn Weinidog yr efengyl ers 57 mlynedd ac yn sylweddoli bellach bod hi yn ddydd o brysur bwyso a’n bod o fewn pymtheg mlynedd I’n diflaniad fel enwad Presbyteraidd . Ie y flwyddyn 2034 yw’r flwyddyn dyngedfewnnol ond cofier fod aml un yn dweud y bydd ein byd ar ben yn 2030 oherwydd cyflwr yr hinsawdd os na wnawn ni ddeffro. Roedd darllen Hanes yr Achos o Henaduriaeth Mon a gyflwynwyd I Sasiwn y Gogledd ar 9-10 o Ebrill yn ddigon I sobri y Cyfundebwr mwyaf yn ein plith – ein Hysgrifennydd Cyffredinol mae’n debyg yw hwnnw. Gwelais y chwalfa. Bum yn rhan ohono . Gweinidogion da yn cwplhau ei gweinidogaeth ac wedi bod yn gofalu am bum gofalaeth o Forgannwg I Fon a bellach dim un o’r eglwysi hynny ar dir y byw. Trashiedi I’w goffadwriaeth. Beth ddigwyddodd a phryd ? Mi wn na fu y Ddwy Ryfel byd yn help o gwbl ond eto ar ol yr Ail Ryfel Byd yr oedd cynulleidfaoedd da yn yr eglwysi a gofiaf fel Bethesda, Llanddewi Brefi a Bwlchgwynt, Tregaron Gwelais ym mro fy mebyd gyfeillion bore oes yn rhoddi y gorau iddi yn y saith degau. Ond credaf mai rhywle yn y blynyddoedd hynny o 1975 I 1980 y bu y cadw draw , cefnogi o hirbell, anfon siec diwedd blwyddyn , a pheidio mynychu Ysgol Sul na oedfa na chymdeithas lenyddol. . Daeth hi yn anoddach fyth I gynnal cymdeithasau a denu pobl I oedfaon. A’r tristwch pennaf yw ein bod ni yn derbyn y sefylla a bod ein cydaelodau nas gwelwn hwy fyth o fewn y capeli yn rhy swil I ddweud wrthym pam ei bod yn aros adref ar Ddydd yr Arglwydd yn lle cefnogi eu cyd aelodau o’r Un Corff. Go brin y mae argyfwng ffydd yw e . gan ei bod yn codi ei llaw a dweud ei bod yn credu yn yr Efengyl ac yn dal ei haelodaeth ar lyfrau’r Eglwys . Byddwn I yn dweud ei bod hwy heb gael ei hyfforddi yn ddigonol yn y Dosbarthiadau Derbyn gennyf fi a phob gweinodog Presbyteraidd arall I sylweddoli fod perthyn I gapel yn fraint aruthrol, yn rhan o Gorff Crist ar y ddaear. Felly disgyblaeth bersonol yw’r diffyg . Methu sylweddoli na deall fod Dydd yr Arglwydd I ddod o flaen popeth arall a galwad yr Eglwys am I’r credinwyr addoli Duw . I wneud hynny y mae angen yn gyntaf Ufudd-dod ac yn ail ymgysegriad ac yn drydydd teyrngarwch I’r capel lle mae eich gwreiddiau a’ch teulu wedi bod yn addoli . Fel yr wyf fi yn cefnogi plaid wleidyddol, tim peldroed arbennig , cymdeithasau hanes a llenyddiaeth, y mae angen cefnogi Bethel a Seion a Tabernacl, y blychau ennaint chwedl y bardd dewr T.Rowland Hughes Ar hyd y blynyddoedd poen meddwl oedd gwasanaethu Capeli mwyaf llewyrchgus o’ n heiddo a gweld o leiaf hanner y blaenoriaid yn cadw draw o oedfa hwyr. Ac yn dilyn yr esiampl wael gan yr arweinwyr hyn gwelid hanner y gynulleidfa a mwy yn cadw draw o oedfa’r hwyr Ac erbyn hyn llond dwrn sydd yn cynnal oedfa’r hwyr. . Meddyliwch o ddifrif yr esiampl wael a rydd ein harweinwyr lleyg I gennad a ddaeth atynt gan milltir a mwy. Awgryma y cadw draw ei fod ef yn pregethu fel bran neu dylluan ac yn haeddu gael cefnogaeth anffodus, angharedig. Pam fod y blaenoriaid mewn cymaint o gapeli yn bodloni ar un oedfa a chyfarfod Credaf yn gydwybol bod cynulleidfa ran amlaf yn dilyn arweiniad y gweinidog a’r blaenoriaid. Os yw y Gweinidog yn rhoddib arweiniad mae siawns dda I eraill ei ddilyn. Ac eto ni chefais yr atebiad yr wyf yn chwilio amdano am y cefnu mawr a diffyg cefnogaeth aelodau a’r gymuned. Sylwaf fod y cymunedau Cymraeg YN DDIGON PAROD I GAPELI DDIFLANNU OND NID Y BEDOL A’R Tafarnau. . Don’t at eiu gilydd I gadw tafarn ar agor . Da iawn . Ond ffrindiau mae ein capel wedi gwneud llawer mwy dros Gymreictod, moeseg , diwylliant a’r bywyd gwell na unrhyw dafarn e fy mharch I’r tafarnwyr y gwn I amdanynt sydd yn halen y ddaear. Cyffyrddais a’r testun ond disgwyliaf yn awr aml I bwt o Taro Post o oleuni pellach er mwyn arbed aml un o’r blychau ennaint cyn 2034.

5. Y Groes yn fy Mhoced

(One of Ben's favourite poems)

Rwy’n cario croes yn fy mhoced

Er mwyn fy atgoffa o hyd,

Fod Iesu yn Arglwydd fy mywyd,

Ble bynnag yr af yn y byd.

Nid croes fechan hud a lledrith,

Na swyn o lwc dda yw hon ,

Ac nid yw’n fodd i arbed

Y briw a ddaw weithiau i’m bron.


Nid croes i’r byd mawr cyfan

Ei gweld yn amlwg yw hi,

Ond croes sy’n ddolen annatod

Rhwng Iesu, fy Ngheidwad, a mi.


Wrth mofyn am arian o’m poced,

Neu siopa yng nghanol y dre,

Y groes a wna imi gofio

Y pris a dalodd Efe.


Mae’n f’annog i werthfawrogi’r

Bendithion a fu ac a fydd,

A dilyn fy Iesu’n ffyddlonach

Mewn gair a gweithred bob dydd.


A hon a ddaw ag atgofion,

Boed stormydd gaeafol, neu ha’:

Mor hyfryd yw cwmni nghyfeillion

Sy ’ngofal y Bugail Da.

Gan hynny, mae’r groes yn fy mhoced

I atgoffa neb ond myfi :

Fod Iesu, pan rof iddo nghalon,

Yn Arglwydd fy mywyd i.

6. ‘Daffodils’

‘Daffodils’ was one of the best poems William Wordsworth has ever written. The Inspiration for the poem came from a walk he took with his sister Dorothy, around the Lake District. Wordsworth would draw on this experience to write, “I Wandered lonely as a cloud” in 1804. We are told that the poem was inspired by Dorothy who wrote about this walk in her journal in 1802. She said that she had never seen “daffodils so beautiful, as if they laughed with the wind that blew upon them over the lake.

At the beginning of the poem Wordsworth is wandering “lonely as a cloud” and this first line makes use of personification and simile. The poet assumes himself to be a cloud floating in the sky and we are aware of this sudden vision that he has of “a host of golden daffodils”. This is a sudden and wonderful vision before his eyes.

The title “Daffodils” is a simple word that reminds us of the arrival of spring and the yellow daffodils imply a new beginning in nature and also a new beginning for human beings. He first describes the daffodils as “a crowd” and paints images of lakes, trees, stars and he compares them to the Milky Way Galaxy in the second stanza and then he compares their “dance” in the third stanza and he dreams to join them in their dance. He says that the daffodils are “Holy” as if he sees them as a very heavenly flower. He sees them “Fluttering and dancing in the breeze”

and we can just imagine that gentle movement as if they are dancing.

Wordsworth compares the daffodils to the Milky Way. This is such a vivid comparison because he sees them stretthen ching in “A never ending line” like the billions of stars in the Milky Way and as the daffodils sway in the breeze it seems as if they look like twinkling stars.

“Ten thousand saw I at a glance”

is an exaggeration and a hyperbole and this strengthens the power of the vision he sees. So powerful is his description that he sees the waves on the lake “dancing” and he makes it seem as if the daffodils and the waves are competing with each other. However the daffodils out did the waves “In glee”. At first Wordsworth says that he just “gazed and gazed” as if he did not appreciate the vision before his eyes. But then he realized

“What wealth the show to me had brought”.

Wordsworth has strong feelings about the daffodils. At the beginning of the poem he reveals feelings of Solitude and then at the end he is filled with this feeling of excitement and joy of being with the daffodils. He says:

“And then my heart with pleasure fills, And dances with the daffodils.”

We are told that Wordsworth’s “Daffodils” is one of the most famous and widely read poems in the English language. I think Wordsworth has succeeded in sharing this powerful vision that he saw and the feelings that he had experienced with people who love poetry. I think he wrote this poem in order to convey his love of nature and share this experience with others.

I like this poem very much and I can understand why this poem is so popular. There is a powerful rhythm in this poem. The rhyming scheme of each stanza is ABAB and ends with the couplet CC. The stanzas make use of Enjambment which gives the poem a continuous flow of expressions without any pause. Wordsworth shows the effect that nature can have on us,

“A poet could not but be gay,

In such jocund company”

The world of nature can make us happy and Wordsworth remembered the joy that the daffodils gave him long after he had seen them,

“They flash upon that inward eye

Which is the bliss of solitude:

And then my heart with pleasure fills

And dances with the daffodils ‘’.

7. Adolygiad

(Peter Daniels, Finding Wales: Reflections of Returning Exiles, Y Lolfa, 2017, clawr meddal, tudalennau 5-191. ISBN: 978 1 78461 445 4. Pris: £9.99)


Dyma gyfrol sy’n berthnasol i ni fel alltudion, a’r hyn a gawn o fewn gloriau’r llyfr yw gŵr yn ceisio ateb y cwestiwn, pam fod cymaint o alltudion o Gymru o ddinas fawr Llundain yn dychwelyd y blynyddoedd hyn i Gymru i fyw? Mae ganddo fywgraffiadau ar bedwar ar ddeg ohonynt heblaw ef ei hun, a daw pob un ohonynt ond un o Dde a Gorllewin Cymru, o Lanelli (tref enedigol yr awdur) i Gasnewydd. Dim ond un ohonynt sydd yn rhugl yn y Gymraeg, y mae’r carfan o’r gweddill yn meddu diddordeb ac yn mynychu dosbarthiadau dysgwyr, yn gwylio rhai rhaglenni S4C (y Noson Lawen yw’r ffefryn), yn darllen y Western Mail ac yn darllen llyfrau Saesneg am Gymru o waith Harold Carter, Jon Gower, Siôn T. Robbins a Byron Rogers. Os rhywbeth y mae Peter Daniels yn gor ddefnyddio y rhain nes bod rhywun yn syrffedu i glywed rhagfarn Robbins yn erbyn Anghydffurfiaeth ag agwedd negyddol Rogers am Gaerfyrddin.


I'r awdur mae’r alltudion yn dychwelyd y blynyddoedd hyn (2005 i 2017) am fod Llundain wedi mynd yn annioddefol i fyw yno, y traffig a’r diffyg cyfathrebu rhwng cymdogion a’i gilydd a’r gost o gynnal cartref ar bensiwn. Y mae tai yn rhatach o amgylch Casnewydd a Llanelli nag yn West Hampstead a Dulwich. Caiff hiraeth am yr hen wlad gryn sylw, ac am y dyddiau gynt a fu, ac am y gymuned Gymraeg, a ddiflannodd fel Brechfa gan iddynt gau y capel a llawer peth arall yno , a chydnabyddiaeth bod yr iaith a’r diwylliant yn hynod o werthfawr. Y mae Paul Daniels ei hun yn gymysgwch, ar yr un llaw yn llawn awyddfryd i ddysgu’r iaith, ac ar y llaw arall y mae wedi cartrefu mewn man Seisnig o Gymru, sef Bro Morgannwg yn Llantwit Major. Onid, yng Nghwm Gwendraeth y mae’r Cymraeg ar ei gorau i ŵr a anwyd ac a fagwyd yn Llanelli, ond rhaid cofio fod ei wraig yn moli’r fro. oamgylch y Bontfaen.


Dywed llawer o bethau sydd angen ei dweud heddiw. Sylweddolodd fod byd o wahaniaeth rhwng diwylliant torfol Saesneg-Americanaidd a diwylliant Cymraeg yn seiliedig ar farddoniaeth, cerdd dant, eisteddfodol ac a’r byd capelyddol. Y mae y mwyafrif o’r dychweledigion ddim mor frwd ag ef mae’n amlwg, y mae ganddo edmygedd di-ben-draw o’r Cymry, o Gymreigrwydd ac o’r trysor pennaf, yr Iaith Gymraeg. Cymysg yw ymateb y gweddill ar wahân i Rhian Jones a gartrefodd yn Abertawe. Hi sydd yn sefyll ar yr un lefel a mwyafrif mawr o Gymry alltud Manceinion, Penbedw a Lerpwl a’r Cyffiniau. Mae’n anhygoel nad oes neb bron o’r alltudion a bortreadir yn uniaethu eu hunain â chapeli Cymraeg lle mae’r Gymraeg i’w chlywed o wythnos i wythnos. Sonnir am berthyn i Eglwys Anglicanaidd Gymraeg ddwyieithog, ond mae digon o gapeli yn dal ar agor yng Nghaerdydd, Abertawe a Llanelli a Phontarddulais, ond nid yw mwyafrif o’r alltudion a gaiff ei portreadu yn malio botwm amdanynt. Maent yn amherthnasol iddynt, mor amhrerthnasol fel na chrybwyllir am Dabernacl na Bethel na Seion heblaw Goppa..


Pwy fath o alltudion Cymreig ydynt felly? Cefais yr argraff bendant na all y Lolfa ddisgwyl gwerthu un o’i llyfrau Cymraeg i fwy na dau o’r alltudion hyn os hynny, ac nad oes gobaith gan Golwg chwaith am lawer mwy nag un o ddarllenwyr newydd . A faint o’r rhain sydd yn gwybod am Barn, Y Traethodydd, y papurau bro, wythnosolion yr enwadau (Y Tyst, Goleuad, Seren Cymru)? Mae’n edrych yn debyg, dim un. Ni chaiff un ohonynt eu henwi ganddo. Mae’n amlwg fod Canolfan y Cymry yn Grays Inn Road, Llundain yn bwysig i nifer ohonynt, ond nid oedd capeli Castle Street na Jewin yn dod i fewn i’r stori. Sonnir fod un o’r alltudion a’i wreiddiau yng Ngheredigion wedi mynychu yn achlysurol yr oedfaon yn Jewin flynyddoedd maith yn ol.. Ni welaf fod yr alltudion a nodir yn mynd i roddi lawer o chwistrelliad i’r bywyd Cymraeg, ar ei orau y bywyd Cymraeg yr ydym ni yng Nghanolfan Penny Lane, Lerpwl yn ei fwynhau ar hyd y flwyddyn, yn well yn aml na cheir yng Nghymru. Fe ddaw y Cymry alltud hyn yn ôl i Gymru i atgyfnerthu y mudiad Rotari, y cymdeithasau hanes teuluoedd, gweithgareddau Iain Richards ym Mhontllanffraith (canu poblogaidd yn nhraddodiad y Beatles), plaid UKIP (er fod rhai ohonynt o hil Llafur ond Llafur cymedrol iawn ac yn sicr nid Llafur Jeremy Corbyn ), a’r mwyafrif yn finiog eu beirniadaeth ar y Cynulliad, ac wrth gwrs yn cefnogi rygbi. Ond Prydeinwyr ydyw y rhain yn y bôn, ac nid Cymry awyddus ac yn gweld datganoli fel bwgan drudfawr. Un peth y mae’r awdur yn ei gydnabod a chytuna hanner dwsin o’r cyn -alltudion gydag ef, ydyw diolch am Cymdeithas yr Iaith, a’r leiafrif o Gymry a frwydrodd i gael chwarae teg i’r iaith, i gael arwyddion ffyrdd dwyieithog a dylent nodi hefyd (ond ni wneir hynny) am Ddeddf yr Iaith Gymraeg. Yr ydym fel Cymry Lerpwl a Manceinion mewn sefyllfa dda mewn cymhariaeth ag alltudion o Lundain a ddisgrifir yn y gyfrol hon a daliwn ati felly.i warchod ein hetifeddiaeth Gristnogol, Gymraeg.

D. Ben Rees