Dilyn Ffordd Tangnefedd: Canmlwyddiant Cymdeithas y Cymod 1914-2014


1.Thomas Rees a’r Deyrnas

Bu Thomas Rees ( 1869-1926) yn ddylanwadol iawn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fel Heddychwr cadarn yn ninas Bangor ac fel Golygydd y Deyrnas, cylchgrawn Cymraeg a ddaeth i fodolaeth trwy ‘r Gynhadledd a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Cymod yn Neuadd yr Hendre,Bermo ar ddiwedd mis Mawrth 1916. Ymddangosodd y cylchgrawn yn fisol rhwng Hydref 1916 a Thachwedd 1919 am y gost o ddwy geiniog y copi ar y cychwyn.Gosododd y Golygydd ei stamp ei hun ar Y Deyrnas ac mae darllen ei erthyglau a’i lith Golygyddol yn peri o hyd i’r darllenydd deimlo yn anghysurus ein bod yn dal i ryfela.


Bywyd a Gwaith Thomas Rees

Ganwyd Thomas Rees ar 30 Mai, 1869 mewn tyddyn yn mhlwyf Llanfyrnach ger Crymych yng Ngogledd Sir Benfro i Martha Rees a James Thomas.Gan nad oedd y ddau yn briod trosglwyddyn y baban i Benni a Mati Davies,Waunfelen ar odre’r Frenni Fawr, ac yno y’i magwyd yn annwyl.Yn yr un cylch a’r un cyfnod y ganwyd dau blentyn arall a ddaeth yn heddychwyr, sef T,E.Nicholas (Niclas y Glais’) a D.J.Davies . Aeth y tri ohonynt yn y diwedd yn Weinidogion yr Efengyl gyda’r Annibynwyr Cymraeg , enwad a fagodd lu o heddychwyr.Gadawodd Thomas Rees yr ysgol yn dair ar ddeg oed a mynd i weithio ym myd ffermio. Arhosodd yn y gwaith hwn am bum mlynedd . Wedyn aeth i gylch Aberdar i weithio fel glowr. Yno daeth o dan ddylanwad y Parchedig J.Grawys Jones,gweinidog yn Nhrecynon,a brodor fel Rees o Llanfyrnach. Gwelodd y Gweinidog fod y gwr ifanc yn alluog a chyngorodd ef i ddechrau pregethu’r Efengyl yn 1880 a mynd am hyfforddiant i Sir Gaerfyrddin lle y gwnaeth yn dda yn academaidd.Symudodd i astudio i Brifysgol Cymru Caerdydd,Coleg Mansfield, Rhydychen a’i benodi i Goleg Coffa yn Aberhonddu yn 1899. Oddiyno galwyd ef yn 1907 i fod yn Brifathro Coleg Bala – Bangor,Coleg arall ar gyfer myfyrwyr enwad yr Annibynwyr .

Gwnaeth ei waith mawr ym Mangor yn y Rhyfel Mawr.Safodd yn gadarn fel Heddychwr yn etholaeth David Lloyd George a oedd yn hyrwyddo y Rhyfel fel Gweinidog y Goron ac o 1916 Prif Weinidog Prydain. Cythruddodd Thomas Rees bobl oedd o blaid y Rhyfel, y mewyafrif llethol. Collodd rhan helaeth o’i fyfyrwyr , poerid yn ei wyneb gan rai o garidyms y dref, a thaflwytd ef allan o Glwb Golff Bangor . Ysgrifennodd i’r Wasg o wythnos i wythnos yn galw pobl i ystyried y ffeithiau ac i gondemnio Rhyfel ag agweddau nifer fawr o’i gyd Gristnogion.Credai yn ddidwyll fod yr eglwysi a’r enwadau Cristnogol led led Cymru wedi bradychu’r dystiolaeth heddychol a Thywysog Tangnefedd,sef Iesu Grist.

Daeth yn arweinydd Cangen Bangor a Bethesda o Gymdeithas y Cymod (F.).R ) a theithiodd led led Cymru i annerch cyfarfodydd yn erbyn y Rhyfel.Cysylltwn ef erbyn hyn gyda’r cylchgrawn Y Deyrnas a daeth y rhifyn cyntaf o’r argraffwyr ym Mangor yn Hydref 1916. Daliodd i ofalu amdano hyd y rhifyn olaf yn Nhachwedd 1919.Darllenais pob rhifyn o’r cylchgrawn hwn a sylweddoli iddo weithio yn galed. Nid golygu yn unig a wnaeth ond ysgrifennu ei hun. Yr oedd ganddo ddau gydweithiwr da ym Mangor a gyfrannau i’r Deyrnas sef yr Athro John Morgan Jones, a’r Parch H.Harries Hughes, gweinidog Presbyteraidd. Derbyniodd erthygl;au gan y Parchedigion E.K. Jones,Brymbo ar Gyflwr y Gwrthwynebwyr Cydwybodol a gan George M.Ll.Davies,Lerpwl a fu yn y Carchar am flynyddoedd fel Gwrthwynebydd.Anfonodd y pregethwr dall o Bwllheli J.Puleston Jones aml i ysgrif gan ddisgrifio llawer o drigolion y dref honno fel pobl wedi meddwi ar Ryfela,ond cofier mai dilynwyr Lloyd George oeddent hwythau. Llenor profiadol oedd Tegla Davies o’r Eglwys Fethodistaidd tra mae gweinidog radical yn Llanddewibrefi oedd T.E.Nicholas, lladmerydd y Blaid Lafur Annibynol.,dau gyfranydd cyson arall. Cyfrannodd Athro Cymraeg Coleg y Brifysgol Aberystwyth T,Gwynn Jones aml i gerdd ar ffolineb rhyfela . Condemniodd Thomas Rees yr Eisteddfod Genedlaethol am fod o blaid y gyflafan ar gyfandir Ewrob .Ef a ddywedodd am Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth a gynhaliwyd yn 1916:

‘Molwch yr Arglwydd a lladdwch y Germans yw arwyddair newydd yr Eisteddfod Genedlaethol Gwnaed elw o £430 o’r Gymanfa Ganu yn Aberystwyth a rhennir yr arian rhwng gwahanol gronfeydd rhyfel’’.

Ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn ganlynol ym Mhenbedw enillwyd y Gadair gan filwr o Drawsfynydd. Ymateb Golygydd Y Deyrnas oedd mynegi siom aruthrol:

‘’Drych o dristwch oedd Cadair Ddu Eisteddfod Birkenhead. Gwag oedd y gadair am fod Ellis Evans ( y bugail awengar a moethau ei athrylith yng nghwmni y defaid a’r adar a’r nefoedd ) a’i henillasai yn gorwedd yn fud mewn estron dir ‘’.Lladdwyd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf 1917 yn Fflandrys a daliwn i gofio ei aberth a gwelir ei gofgolofn ynghanol pentref Trawsfynydd. Efallai mae’r deyrnged orau a gafodd Thomas Rees am ei oruchwyliaeth dros Y Deyrnas oedd gan y bardd a’r ysgolhaig W.J. Gruffydd a oedd yn aelod o’r Llynges Brydeinig adeg y rhyfel. Dywedodd yr athrylith hwnnw:

‘Mi ddysgais ei garu cyn imi erioed ei weled,oherwydd derbyn Y Deyrnas pan oeddwn mewn gwlad bell amser rhyfel;ac yr wyf yn credo hyd heddiw mai’r deyrnas honno fu un o’r achosion cryfaf na chollodd Cymru ei henaid yn hollol yn nydd y gwallgofrwydd mawr’.

Yr Athro Dr D.Ben Rees

Principal of Bangor Theological college, Thomas Rees (1869-1926)

2. David James Gwenallt Jones (1899-1968)

Gwrthwynebydd cydwybodol a ddaeth yn fardd grymus a darlithydd gwerth gwrando arno yn Adran Gymraeg Coleg Prifysgol , Aberystwyth oedd yr anwyl Gwenallt, a anwyd ar 18 Mai, 1899 ym Mhontardawe, yr hynaf o dri o blant Thomas Jones (Ehedydd ) a Mary Jones, y ddau yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin. Aeth Gwenallt yn gyfaill mynwesol yn ei lecyndod i Nun Nicholas a Jack Joseph , dau o flaenwyr y Blaid Lafur Annibynnol yn y dref . Gwrthwynebodd Nun Nicholas y Rhyfel Byd Cyntaf ac felly Gwenallt ag yntau yn Ysgol Sir Ystalfera.Bu’n rhaid iddo dreulio dwy flynedd am hyn (Mai 1917 i Fai 1919) yn Wormood Scrubs a Dartmoor.Dwy flynedd o fyw’n fain, o unigedd mud gelynol, o wynebu gwallgofrwydd a thrais cyn ei fod yn ugain mlwydd oed, ac o’r profiadau hynny, y cafwyd llenyddiaeth rymus a welir yn ei ddwy nofel,Plasau’r Brenin (1934 ) a Ffwrneisiau (1982). Priododd a Nel Evans a ganwyd iddynt un ferch Mair.Bu farw Gwenallt ar Rhagfyr 23, 1968 a’i gladdu ar Ragfyr 27 ym mynwent Aberystwyth, rhyw ddecllath oddi wrth ei hen athro a’r heddychwr pybyr, Dr T.Gwynn Jones (1871-1949). Ceir astudiaeth wych o’i gerddi gan ei weinidog yn y Tabernacl, J. E. Meredith, Gwenallt: Bardd Crefyddol ynghyd ag ysgrif enwog Gwenallt,’Credaf’, Llandysul, 1974.

3. Cerddi:

TERFYSG

DAMIAN WALFORD DAVIES

1. ’MOD ABER-PORTH’

Mae ’na fan

lle mae’r arwydd

yn ei lifrai sgarlad

yn gwanu gwyrdd y gwrych –


man ansad

ger talcen bwthyn Gwndwngwyn,

ddecllath cyn i'r ffordd

droi’n gwcwll coed –


man ’sgeler

lle caiff echel car

ei sigo’n sydyn

gan y cambr croes –


disgyrchiant y drôm

tu hwnt i'r drum.

2. ADARWR

Rown i ar Y Rofft,

lle tonna’r dalar

lawr i'r ogofâu,

trai’r bore’n agor goror trist

rhwng tir a thon.


Yr ast fach sylwodd gyntaf.


Ymsythodd, ysgyrnygu –

holl egni’r corff

yn herio awyr goeg


Ac yna clywais –


tôn ddifwyn, fain

ar awel feinach,

grŵn peiriant yn ymrithio’n

fwgan deryn drycin,


deryn corff


yn disgyn tua llain y byw.

3. MAP (AROLWG ORDNANS, RHIF 198)

Uwch cilgant deudraeth

taenaf fap uwchben y môr


a gosod pedair carreg ar ei gyrion

rhag y gwynt.


Mae map yn blingo gwlad

hyd esgyrn ei chlogwyni,

hyd rydweli ffordd,

gwythïen meidr.


Dyma lawfeddygaeth tir,

trem farwol o’r entrychion;

fertigo.


Ar y tipyn papur hwn

mae cyfrinachau:


i’r gorllewin, tu hwnt i’m gorwel,

yr orynys

sydd mor gudd â Gwales;


ac o Graig Filain fwyn hyd Bencribach –

i fyny at ororau'r map –

rhes o byramidiau coch

yn parthu’r bae’n

faes perygl,


lle’r arferai’r Pheasant

a’r Eliza Jane

dorri cwys â’u cargo calch,


llwyth cwlwm eu carennydd.

4. ADAR RHIANNON

Yn dy salwch olaf, daethom yma droeon

i eistedd ar y fainc uwchben y môr.

Lle teg, dywedaist; ein huchel gaer,

ein harlech – fel petaet yn clywed

côr Rhiannon rywle dros y bae.


Fis cyn iti ’madael, roeddet yma’n

tynnu cudyn ar ôl cudyn aur o wallt

o’th ben, heb ddicter a heb ofn,

a’u rhoi imi i’w plethu’n dorchau brau.


Ar y ffordd i’r tŷ, fe’u rhoddaist

gyda gofal gwych yn nwfn pob llwyn,

pob gwrych, i’r adar fedru nyddu nyth.

5. HADAU

Ernes haf:

yng nghilfan Tre-main,

y gwerthwr mefus –


rhuddemau llathr

dan fondo cist ei fan.


Dad! Gawn ni? Gawn ni?


Yn y bwlch amhosibl

rhwng car a charafán,

crymana’r wennol nôl i’w nyth

â chyfandiroedd ar ei chof.


A rhywle uwch pennau’r plant –

eu genau’n ffrydio’n goch –


adar angau

yn dwyn cyrch,

eu cof yn gamerâu.


Gyrrwn adref; had mefus

yn feini tramgwydd

yn y geg.

6. XBOX

Taro’r fargen ddyddiol

gyda’r mab: hanner awr

o chwarae rhyfel rhwng y sêr,


cyn ildio i gadoediad cwsg.

Fin nos ar YouTube,

gwyliaf innau gemau’r oes:


trem drôn dros dai

yn Datta Khel

a Lashkar Gar; y taniad mud;


a therfysg sydyn y picselau.

Peidia’r ffrwydro

o ystafell wely’r mab.


Fe’i caf ynghwsg

yng ngwawr y sgrîn,

pensowldiwr y planedau.

7. TRYDAR

Darllenaf Douglas eto

ar sut mae lladd.


Yn ffwrn ei danc

ar dywod Tiwnis,

mor hawdd, medd ef,

oedd cosi corff o bellter

â’r blew croes. Un gair,


a milltir gron i ffwrdd

try dyn, mor syml a di-stŵr,

yn darth.


Heno dan leuad heliwr

mae’r byrnau yng Ngha’r Odyn

yn danciau du,

y sofl yn fetelaidd;

a thu hwnt i glyw

ar donfeddi clo Parc-llyn,

y nos yn trydar ei thrais.

8. UWCH DRAIN BYD

Hyd yn oed wrth ollwng

pwysau prin dy gorff i’r pridd

yng nghrud y rhaffau,


doedd dim dianc rhagddynt.

Hyd yn oed ym mynwes

mynwent, hyd yn oed


ar ddiwrnod ein ffarwél,

yn sŵn y canu brau, di-diwn

a gipiwyd ar gyfeillion


gan gyfeiliant gwynt;

hyd yn oed yng nghoflaid

ceraint, gwasgfa’r cwlwm du


o gylch y gwddf; hyd yn oed

y diwrnod hwnnw,

gwylient uwch fy mhen.

9. DIHAREB

Drwg aderyn faeddo’i nyth ei hun

oedd tiwn fy nhaid . . .


Gwyliais y cwbl o ffenestr y llofft:

ar heglau main, gwalch gwyn


yn ceisio codi’n glir o’r llain,

chwiban yr hebogwr cudd


tu hwnt i’m clyw. Giamocs

yn yr awyr, yna plymio’n ôl,


taro pistyll aur o lwydni’r lôn,

a gorwedd yno’n gandryll.


Ydw, rwy’n cofio tiwn fy nhaid –

Drwg aderyn faeddo’i nyth ei hun.

10. TYTO ALBA

Dy weld, wrth gwrs,

ym mhobman:


ar drum, ar draeth,

yn osgo’r plant;


terfysg dy bersawr

ym mhob ystafell wag.


Heno, fe’th regais –

gwin coch

yn duo ac yn datod tafod

a fu’n gwlwm yn rhy hir.


O’r coed ar ffin y clos,

daeth sgrech:

dyn a deryn yn rhannu cri.

11. GLASACH EI GLAS

Bob haf,

dilynem hynt yr afon Saith

o’i mabinogi yn y ffos o byllau brag

ym Mlaensaith Fawr


i’w phrifiant yng nghysgodion Dyffrynsaith


hyd foment fawr ei hymwacáu

yn bistyll ger y traeth –

dŵr

yn torri’n darth

ar ddŵr,


naid afon

nôl i goflaid môr.


Trwy gryndod golau Awst

galwaf ar y plant, a chodi llaw;


tynnu’r sbectol haul

i brofi syndod,


dyfnder, bendith

awyr wag.

4. Araith Myrddin Tomos (enw arall am Gwenallt) o flaen y Tribwnlys

Paratoesai Myrddin Tomos araith, a dysgasai hi ar gof.

‘’Foneddigion,

‘R wy’n cydnabod bod eich barn chwi am y Rhyfel yr un mor ddidwyll a’m barn innau .Yn wir, wrth ymdroi ymhlith y milwyr yn y gwresyll hwn a gweled llawer o garedigrwydd ar un llaw, teimlwn lawer gwaith y carwn ymuno a’r Fyddin, ond yr oedd rhwybeth oddi mewn i mi yn f’atal bob cynnig. Gelwch hwnnw yn gydwybod ,os mynnwch.

‘’ Amcan Prydain Fawr wrth fynd i’r Rhyfel hwn oedd amddiffyn Belgium.’Ymladd dros genhedloedd bychain’. Y mae Iwerddon yn genedl fechan,ond nid oes gan Loegr gariad ati hi. Bu’r Saeson drwy’r canrifoedd yn anrheithio Iwerddon, yn lladd ei meibion, yn llosgi ei threfi ac yn lladrata ei thiroedd. Gofynnodd Y Gwyddelod, dro ar ol tro, i Senedd Prydain Fawr am fesur o ymreolaeth,ond nis cawsant. A llynedd pan geisiodd y Gwirfoddolwyr Gwyddelig ymarfogi i ymladd dros ryddid eu gwlad, gwrthwynebwyd hwy gan filwyr Lloegr a saethwyd eu harweinwyr yn Nulyn. Unig gamwedd Padrig Pearse a James Conolly ac eraill oedd iddynt geisio amddiffyn eu gwlad. Y mae’r hyn a oedd ynddynt hwy yn gamwedd, yn rhinwedd ynnoch chwi. Gellid son am ymddygiad yr Ymerodraeth Brydeinig tuag at wledydd bychain eraill Nid edrychir arni yn Ewrob ac yn y Dwyrain fel cyfaill cenhedloedd bychain, ond fel bwli’r byd.

‘’ Amcan arall gan Cynghreiriaid yn y Rhyfel hwn yw rhoi terfyn ar ryfel. ‘ Rhyfel i roi terfyn ar ryfel’. Cred y rhyfelwyr a’r milwriaethwyr fod rhyfel yn rhan o gwrs datblygiad, a bod dyn. wrth reddf, yn greadur ymladdgar, ac y bydd rhyfeloedd tra fo dynoliaeth. Bydd gweinidogion yr Efengyl yn dyfynnu’r geiriau hynny o eiddo yr Arglwydd Iesu Grist,’ Bydd rhyfeloedd a son am ryfeloedd ‘. Felly, os bydd rhyfel yn bod tra fod dynion ar y ddaear, pa les yw ymladd yn y Rhyfel hwn i roi terfyn ar ryfel? Ni ellir rhoi terfyn ar beth nad oes terfyn iddo.

Yn ol; damcaniaethau ysgol o athronwyr a elwir yn Rhesymolwyr gellid meddwl mai’r rheswm yw’r gyneddf sydd mewn dyn; boed dyn yn fod hollol resymol. Ei fod yn barnu ac yn gwnethur pob dim yn ol ei reswm. Ond ar ol Darwin cododd to o athronwyr a meddylwyr yn ymdrin a dyn fel bod greddfol, gan ddangos a phwysleisio’r tebygrwydd rhyngddo a’r anifail.Soniant fyth a hefyd am reddfau a nwydau.Gellid tybio mai bwndel o reddfau yw dyn.Y mae heddiw, ym mhob cylch o feddwl, wrthwynebiad yn erbyn son am ewyllys a deall dyn. Y mae’r ddwy ysgol yn iawn.Hanner gwirionedd sydd gan y nail a’r llall. Y mae gan ddyn reddfau, ond y mae ganddo hefyd reswm yn rheol arnynt: y mae gan ddyn nwydau, ond y mae ganddo hefyd ewyllys i’w disgyblu. Gall dyn roi’r ffrwyn ar y ffrwd.Un o’r greddfau mewn dyn yw greddf ymladd. Y reddf honno sydd yn tra-arglwyddiaethu ar genhedloedd Ewrob heddiw.Pan gaffo un reddf feistrolaeth ar holl natur dyn, syrth yn ol i radd yr anifail. Unwaith y caiff dyn flas ar waed, nid oes modd ei atal rhag lladd, mwy na chi defaid.Dylid rhoddi deddf a chyfraith ar y reddf ymladd fel pob nwyd a greddf arall. Dygir ymrafaelion a chwerylon dynion i’r llysoedd cyfraith, a bernir yno eu camweddau.Dylid hefyd ddwyn cwerylon y cenhefloedd ac ymrafaelion y gwledydd i lys cydenwadol, a dadrys eu problemau yn deg a chyfiawn gerbron y byd.

‘’ Y mae’r gred hon, yn eich golwg chwi, foneddigion, yn anymarferol a delfrydol.Dylid ystyried, meddwch, y byd fel y mae ac nid fel y dylai fod,ac edrych ar y natur ddynol fel y mae hi yn yr ugeinfed ganrif ac nid fel y bydd hi yn y Milblynyddoedd. Cytunaf a chwi.

Tra fo ymerodraethau, bydd rhyfeloedd. Ymerodraethau milwriaethus yw gwraidd rhyfeloedd. Cyn y gellir diddymu rhyfeloedd, rhaid diddymu ymerodraethau. Dyna un o’n hamcanion ni, y Sosialwyr .Dywedwch mai gwallgofrwydd yw i ychydig o freuddwydwyr di-arfau geisioi gwrthwynebu holl nerthoedd ymerodraeth arfog, ond gall dyrnaid o bobl a chanddynt ysbryd hunan-aberth, gweledigaeth ac egni moesol wnethur pethau anhygoel.Dangosodd Iwerddon y ffordd i ni. Rhoes hi yr hoelion cyntaf yn estyll arch yr Ymerodraeth Brydeinig’’.

Robin Gwyndaf (Left) and Bruce Kent

Reverend Emlyn Richards of Anglesey (Leading Pacifist)