Cymry Lerpwl a’r Cyffiniau

This is the Welsh version of the Liverpool Welsh book. All of the material in this book is new and is not accounted for in the English version. For those wanting to find out more about the Liverpool Welsh it is important one reads both books like puzzle pieces connecting the full picture!


Y mae hi yn flwyddyn brysur yn ninas Lerpwl a’r Cymry yn chwarae rhan allweddol yn y gweithgareddau amrywiol a gawson hyd yn hyn. Diwylliant capel yw'r diwylliant a fu yn gynhaliaeth i gymunedau Cymraeg Lerpwl dros y cenedlaethau ac i raddau helaeth mae hynny yn dal yn wir er ein bod wedi addasu yn helaeth. Y peth pwysig i’n hynafiaid yn Lerpwl oedd eu cartrefi a’r teuluoedd, yr iaith Gymraeg a’u crefydd enwadol. A deil hyn o hyd yn bwysig i gnewyllyn ohonom er bod y capeli a’r eglwysi o un i un wedi cau ei ddrysau. Ond deil grwpiau ohonom yn frwdfrydig a heb hyn mi fyddem fel cymuned Cymraeg mewn argyfwng dwys. Llwydda'r cyfryngau Cymraeg, radio a theledu, i ddod o hyd i ambell lais dieithr sydd yn byw yn Lerpwl, yn meddu’r iaith, ond yn amharod i gefnogi unrhyw weithgarwch Gymraeg ei hiaith. Mae hynny yn wir am y myfyrwyr. Er i ni fod wrthi ers chwarter canrif trwy Gaplaniaeth Cymry’r Glannau i fugeilio’r Cymry ifanc yn y Prifysgolion (ac erbyn hyn mae tair) ond ni fu’r ymdrech yn un llwyddiannus iawn. Pan ddeuthum i yma gyntaf i Lerpwl cefais flynyddoedd llewyrchus iawn gyda’r ieuenctid. Deuai 60 o leiaf i’r oedfa nos Sul, cenhedlaeth Ieuan Wyn Jones, AC Môn ac ar ei ôl ef cenhedlaeth Dr Hywel Morris ac atgofion Eisteddfod Gadeiriol y Glannau. Erbyn hyn gellir cyfrif yr ifanc brwd ar un llaw. Trychineb y Gymru gyfoes. Poendod pob bugail cydwybodol. Ond gwelsom nifer ohonynt ar noson Pawb a’i Farn o neuadd hardd St George ar nos Iau 14 Chwefror 2008. Fel un a fu’n gwylio’r rhaglenni hyd i gyd eleni ar S4C gallaf ddoethinebu mai’r Gymraeg fwyaf coeth a glywyd oedd o ddinas Lerpwl, o ran pawb a gymerod ran, ond y rhaglen fwyaf gobeithiol oedd yr un a ddarlledwyd yn fyw o Bontypŵl. Ac eto yr ydym yn Lerpwl ar hyn o bryd yn llawer mwy ffodus na Chymry Gwent gan fod gennym well rhwydwaith i’n clymu ni gyda’r gilydd gyda’r cylchlythyron a phapur bro.


Gwledd y Flwyddyn 2008

Cawsom wythnos y Cymry o Fawrth 1 i 8 pan ddaeth nifer o Gymry amlwg i’n cynorthwyo i ddathlu bodolaeth Lerpwl fel Dinas Diwylliant Ewrop 2008. Ar y nos Sadwrn llenwid Neuadd y Philharmonic gan ddyfodiad Aled Jones i blith Côr Undeb Gorawl Cymry Lerpwl a hefyd Cerddorfa Lerpwl. Roedd mwyafrif o’r gynulleidfa fawr hon yn cwmpasu ein cymunedau yn Lerpwl. Sylwais fod y Cymry Cymraeg yno, hefyd y Cymry Di-Gymraeg (Brodorion o Brymbo, Abertawe, Y Fenni, Aberhonddu ac ati), Cymry sydd heb feddiannu’r Gymraeg, eu rhieni a’u teuluoedd yn Cymry Cymraeg, ac wrth eu bod yn canu’r Anthem Genedlaethol ar derfyn y cyngerdd. Rhanedig oedd yr ymateb i Aled Jones. Canodd y caneuon poblogaidd, arferol tra roedd llawer wedi disgwyl iddo fentro yn fwy uchelgeisiol. Ond canodd o leiaf hanner ei raglen yn Gymraeg oedd yn hynod o bwysig.

Y diwrnod canlynol trefnwyd oedfa ddwyieithog yn Eglwys y Plwyf a gwahoddwyd Arglwydd Faer Lerpwl i’n plith a thrwy hynny cawsom ninnau ein croesawu i Neuadd y Ddinas ar ddiwedd y prynhawn. Ein cennad oedd Archesgob Cymru, y Gwir Barchedig Barry Morgan, a phregethodd yn afaelgar gan ein hatgoffa y dylem bellach fel Cymry fod yn ddigon aeddfed yn sgil y Cynulliad, i fabwysiadu pawb a ddaw atom fel aelodau o’r teulu. Yn wir byddai hi yn o fain ar ysgolheictod yn y Gymraeg heb y Saeson yn ein plith a feistrolodd ein hiaith a’n llenyddiaeth. Ar yr ydym yn Lerpwl wedi cael aml i gymwynas gan y rhain. Wedi’r cyfan ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry’r Glannau oedd Hugh Begley, Penbedw, gŵr o Lerpwl o dras Wyddeleg a ddysgodd yr iaith ac a ddaeth yn athro ardderchog i un o ddysgwyr yr iaith Gymraeg a gofidiwn am ei waeledd presennol.

Y noson ganlynol daethom at ein gilydd i wrando ar Dr Robin Gwyndaf o Gaerdydd yn cyflwyno yn ffordd arbennig ei hun werth ein diwylliant gan atgoffa ef ei hun a’r gwrandawyr o gyfraniad tri o’i hen fro yn Uwchaled a gyfrannodd i’n diwylliant ni yn Lerpwl, y cerddor John Ellis, cyfansoddwr y dôn ‘Elliot’, y bardd telynegol R H Jones a’r cyhoeddwr, Hugh Evans o Wasg y Brython a’i glasur Cwm Eithin. Un o lenorion pwysicaf yr ugeinfed ganrif yn ôl W J Gruffydd a chytunaf a’i ddedfryd.

Noson y beirdd a’r telynor oedd hi nos Fercher yng nghwmni Dr Gwyn Thomas, Bangor, Deryn Rees-Jones o Brifysgol Lerpwl a Robin Huw Bowen, cynnyrch Cymry Lerpwl, ar y delyn deires. Diwylliant ar ei orau o fewn tafliad carreg i Penny Lane, a Neuadd Bethel yn llawn.

Cefais innau gyfle ar brynhawn Gwener yn llyfrgell prif glwb Lerpwl, Yr Athenaeau, i nodi cryfderau’r Gymdeithas Gymraeg a’n gwendidau. Y cryfderau ydyw ein parodrwydd i gynnal llenyddiaeth a cherddoriaeth a diwylliant cynhenid y Cymry, ein methiant yw methiant ein harweinwyr gwleidyddol, o bob plaid, yn Lerpwl fel ag yng Nghymru, i warchod yr hyn sydd mor hanfodol yn ein hanes. Nid anghofiaf y siom a gefais rai blynyddoedd yn ôl fel aelod o ddirprwyaeth o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Gwilym Prys Davies i’r Cynulliad ar fater y mewnfudwyr a chyfarfod gyda gweinidog oedd yn gofalu am yr iaith Gymraeg na feddai air o’r iaith honno! Anhygoel! Er bod y gweinidog presennol o’r un cefndir Ymneilltuol a minnau, nid oes gan y Parchedig Rhodri Glyn Thomas fy argyhoeddiad i o bell ford ar fater cefnogi'r papur dyddiol hir ddisgwyliedig, Y Byd nag ar nifer o faterion Cymraeg eraill. Rhyfeddaf fod y rhai sy’n llywyddu cyfarfodydd yng Nghymru, ac yn bobl amlwg yn ein treftadaeth yn rhy barchus ac ofnus i lywyddu’r holl sesiwn trwy gyfrwng y Gymraeg pan mae system gyfieithu ar y pryd ar gael. Pam o pam? Rhaid magu’r hyder hyn a sylwais fod hyn yn wir ym mywyd dinas Lerpwl am fod creadur fel eiddoch yn gywir yn gofalu fod hynny’n digwydd. Mae’n bwysig fod y Saeson yn clywed rhythmau a geiriau’r Gymraeg ac y mae’n llawer mwy relifant o fewn ffin Cymru.

Ar nos Sadwrn 8 Mawrth yn un o westyau enwog Lerpwl yr Adelphi bu dathlu Gŵyl Ddewi yng nghwmni dau o’n cynnyrch ni fel Cymry, Owain Elis Roberts, bellach o Gaerdydd a Robin Huw Bowen, bellach o Gapel Seion, Aberystwyth. Roeddwn yn falch wrth wrando arnynt o’r hyn a gyflawnwyd yn ein cymdeithas dros y deugain mlynedd diwethaf.

Rydym yn falch fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn noddi dwy ddarlith eleni yn ein dinas, y gyntaf ar nos Fawrth 10 Mehefin yng nghwmni'r Athro Emeritws Hywel Teifi Edwards, gwledd i’r glust fydd hynny, ac yna'r Parchedig Ddr Elfed ap Nefydd Roberts, Wrecsam yng Nghymanfa’r Sul Cymdeithas Dydd yr Arglwydd ar ‘Ffydd a Diwylliant’ ar 29 Mehefin. Cyngerdd gan yr athrylith Llŷr Williams, a chyngerdd arall gan Bryn Terfel, arddangosfa Gwynedd-Lerpwl ym Mangor (Medi-Hydref) a Lerpwl (gobeithio ym mis Tachwedd), drama Dylan Thomas, Noson y Gwylwyr S4C ym mis Hydref a dadorchuddio model o’r llong ‘Mimosa’ yn Amgueddfa Morwrol Lerwpl ar y Sadwrn olaf ym mis Medi. Chwith oedd clywed bod Gŵyl y Glaniad, a oedd wedi derbyn gwahoddiad i Lerpwl ym mis Gorffennaf, yn awr wedi penderfynu mynd i’r Bala. Pa mor blwyfol y gall pobl fod? Penderfynwyd gwario dros £2,500 ar y model o’r llong hwyliau ‘Mimosa’ a adawodd Lerpwl cofier, nid y Bala, am Borth Madryn ym 1865 a chynhelir y ddefod o ddadorchuddio’r model ar 27 Medi. Da gwybod fod y cyfryngau wedi dangos diddordeb mawr yn ein bwriad. Gobeithio y gall y rhai mwyaf mentrus o Gymry’r Ariannin sy’n byw yng Nghymru ymlwybro i Lerpwl i ‘Gofio’r Mimosa’ ym 2008. Gwn fod awdur y gyfrol bwysig ar y llong sef Susan Wilkinson o Ontario, Canada yn barod i ddod yr holl ffordd atom. Pe bai pawb sy’n ymddiddori yn y Wladfa mor hylaw a charedig â hi byddai’n etifeddiaeth yn ddiogel o ran cofio ddoe. Ond mae angen heddiw yn fawr, angen mwy o ymlafnio fyth. Dyma yw ein cyfrifoldeb o fewn pob cymuned Cymraeg, boed honno ar dir Cymru, neu dir Lloegr, neu ar dir gogledd America neu ar dir Ariannin.


Hugh Lloyd (1858-1929), Everton (Cyflwynwyd y gyfrol hon e Hugh Lloyd)

Hugh Lloyd, llenor, arweinydd y Cymry yn Everton, masnachwr a chynheiliad y Cenhadaeth Gristnogol, ganwyd 14 Medi 1858 yn Nhrefnant, Dyffryn Clwyd, yn un o bump o blant Thomas ac Elizabeth Lloyd. Derbyniodd addysg dda a bu’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Llanelwy, cyn ymfudo i Lerpwl yn un ar bymtheg oed. Denwyd ef i gymdeithas Fethodistaidd Galfinaidd Chatham Street ac yn ddiweddarach i gymuned Capel y Methodistiaid Calfinaaidd, Fitzclarence Street yn Everton. Priododd yn 1887 un o ferched ifanc y capel, J C Thomas, merch y ffotograffydd John Thomas, Cambrian Gallery a brawd y meddyg Dr Thelwall Thomas.

Etholwyd ef yn flaenor yn Fitzclarence Street yn 1894 a gwasanaethodd am 35 mlynedd ac eithrio tair blynedd (1911-14) y bu ef a’r teulu’n byw ym Manceinion. Dychwelodd yn 1914 a gosodwyd ef eto ymhlith arweinwyr Fitzclarence Street.

Yn ei waith beunyddiol bu’n llwyddiannus o fewn cwmni Anglo American Oil Co, a bu’n ddylanwadol. Trwyddo ef cafodd ugeiniau lawer o Gymry ifainc waith gyda’r cwmni.

Meddai ar ddawn y llenor. Bu’n ddarllenwr mawr, a medrai siarad ar unrhyw amgylchiad yn afaelgar. Rhoddodd lawer o’i amser i Gymry Everton. Ymwelai â’r cleifion a’r difater, a gofalai hefyd am y Ganolfan Genhadol yn Earle Street. Bu’n Gadeirydd Rheolwyr Ysgolion Cynradd Everton ac yn hynod o haelionus i’r milwyr Cymraeg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth tristwch mawr i’w aelwyd pan laddwyd y mab ieuengaf , Yale ar faes y gad,

Meddyliai Cymry ifainc y byd ohono. Cynhaliodd ddosbarth yr iaith Gymraeg am flynyddoedd. Bu’n amlwg yn yr ysgol Su, y Gymdeithas Lenyddol, yn y Mudiad Dirwest ac ar bwyllgorau’r Henaduriaeth a’r Cyfundeb. Rhoddodd gefnogaeth ddi-ildio i waith y Genhadaeth Dramor a bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, 1927-8.

Bu farw yn sydyn ar 22 Rhagfyr 1929, ar ôl cyrraedd adref i Richmond Terrace o gapel Fitzclarence Street, a gadawodd i alaru ei briod, y mab Major Glyn Lloyd, Pwnjab, India a dwy ferch, Mrs Luned Thomas a Mrs Davies, Cerrigydrudion.

Y diweddar Mr Hugh Lloyd, Y Brython, 2 Ionawr 1930, t.7.