Pregethwr Y Bobl Bywyd A Gwaith Owen Thomas


Dr Owen Thomas, Lerpwl (1812-1891)

Er mai un o blant Caergybi, Môn oedd Owen Thomas (yn un o chwech, pedwar bachgen a dwy ferch mewn teulu athrylithgar iawn) eto ni ellir meddwl amdano heb ychwanegu ‘Lerpwl’ ar ol ei i enw. Dyna wna ei ddau gofiannydd Iolo Caernarfon a minnau. a phawb y gwn i amdano.a luniodd ysgrif neu bortread.am yr athrylithgar wr. Yr oedd Lerpwl ac yntau a’i dri brawd yn annatod gysylltiedig a’r ddinas. Yn ei arddegau cynnar daeth ei frawd iau John Thomas i gysylltiad ag un o gymeriadau mwyaf lliwgar Lerpwl, y teiliwr barfog Robert Herbert Williams, (Corfanydd) a chafodd docyn ganddo yn arwyddo ei fod wedi ei argyhoeddi mewn Cyfarfod Dirwest. yng Nghapel Tabernacl,Bangor. Daeth felly yn bedair ar ddeg oed yn aelod o Gymdeithas Llwyrymataliad Capel Rose Place,Lerpwl.. 1 Daeth Owen Thomas ai frodyr yn areithwyr dros Ddirwest. Parhaodd ei frawd John Thomas yn areithiwr grymus dros Ddirwest ar hyd ei oes yn Ne Cymru a Lerpwl, a daeth y brawd arall William (blaenor yng nghapel Holt Road ) yn gynrychiolydd yr Alliance am lawer blwyddyn yn ninas Lerpwl.Daeth y tri ohonynt yn areithwyr grymus dros ddirwest pan drigai’r teulu ym Mangor.2 A dyna ddechrau.da i yrfa tri o’r brodyr

Bu Lerpwl byth oddi ar hynny ar y map, ac yn arbennig pan gafodd ei frawd y Parch Josiah Thomas ei apwyntio yn Ysgrifennydd cyflogedig llawn amser cyntaf y Genhadaeth Dramor a bu wrth y dasg am bron i ddeugain mlynedd , o 1865 i 1900.. Gwahoddid Owen Thomas yn gyson i gyhoeddi’r Efengyl i’r uchelwyliau ac i agor capeli. ar lannau Merswy. Ym 1863 aethpwyd ati o ddifrif i’w berswadio i adael un ddinas fawr am un arall, i ddod o Gapel Jewin Crescent, Llundain i Gapel Netherfield Road yn Lerpwl. Caled fu’r perswadio gan fod Manceinion yn awyddus amdano hefyd, a’i hen athro Dr Lewis Edwards y Bala yn awgrymu y dylai aros yn Llundain er mwyn bod yn agos i 10 Downing Street, fel cynrychiolydd grymus i Gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd! Ildio i Lerpwl a wnaeth yn y diwedd, a hynny ar ôl i un o Fethodistiaid y ddinas honno ddweud wrtho’n garedig mewn llythyr, ‘Lerpwl sydd yn eich ffitio chwi oreu’.3

Gwir y dywedodd. y brawd hwnnw. Daeth bywyd dinas Lerpwl i’w ‘ffitio’ i’r dim. Nid oedd ganddo brofiad o fyw a gweinidogaethu mewn gwirionedd yng nghefn gwlad. Fe’i ganwyd mewn tref fechan a phorthladd a hynny yn Heol y Felin, Caergybi ar 16 Rhagfyr 1812, yr hynaf o wyth o blant i Owen a Mary Thomas. Tref yn tyfu oedd Caergybi'r dyddiau hynny. Datblygwyd y porthladd rhwng Caergybi a Dulyn ac adeiladwyd yn helaeth yn nyddiau ei blentyndod.. A phan symudodd y teulu a chartrefu ym Mangor yn Arfon yn 1827 dyna pryd y gwelwyd cynnydd mawr ym maintioli’r dref honno. 4 Dywedir wrthym fod Bangor yn ferw gwyllt yn 1827 gyda’r newydd ddyfodiad yn tyrru yno i chwilio am fywoliaeth. A gweinidogaethu mewn awyrgylch trefol a wnaeth Owen Thomas fel y gwelwn. Bu ym Mhwllheli tref farchnad am gyfnod byr (1844-46) ond hynod o werthfawr am fod y pregethwr tanllyd Michael Roberts yn ei gynulleidfa . 5 Treuliodd yn y Drenewydd gyfnod o bum mlynedd. Yr oedd y ddwy dref yn ganolfannau, un i wlad Lleyn a’r llall i Maldwyn, ond eto trefydd bychain pwysig oeddynt iddo ac yntau yn un o fugeiliaid cynnar llawn amser l y Methodistiaid Calfinaidd cyn symud i Lundain i eglwys enwog Jewin Crescent.

Methodd y rhan fwyaf o’i gyfoeswyr fel David Griffiths,Bethel,Arfon ddeall yr agwedd hon i’w gymeriad, yr angen am fywyd trefol a manteision llyfrgelloedd a siopau llyfrau.. Ond bu llawer gweinidog ar ei ôl yn byw yr yr un fath yn Llundain a Lerpwl fel Griffith Ellis a Ifor Oswy Davies ac wedi’u cyfareddu’n llwyr gan fywyd y ddinas. Roedd sawl rheswm i’ w nodi dros afael dinas ar fywyd a diddordebau yr ysgolhaig a’r hanesydd trylwyr y Dr Owen Thomas. Roedd cyfran dda o’i wrandawyr, fel yntau’n bobl oedd yn ymddiddori mewn trafod dyfnion bethau’r ffydd. Ceid hyn yng nghefn gwlad hefyd ar dro ond eithriadau oedd yr enghreifftiau hynny. Mwy na hynny, cai gyfle i drafod gyda’i gyd-weinidogion o enwadau eraill yn ogystal â’i frodyr o’i enwad ei hun.6 Fe honnir bod y Frawdoliaeth yn Lerpwl yr adeg hynny’n un o’r brawdoliaethau mwyaf dysgedig a welodd Ymneilltuaeth Gymraeg Yr oedd y ddau frawd Owen a John Thomas yno a ‘r brodyr William Rees (‘Gwilym Hiraethog) a Henry Rees, y pedwar yn athrylithgar y tu hwnt i eiriau. . Pwysig hefyd i Owen Thomas oedd cael y cyfleusterau i brynu llyfrau a’u trafod mewn Seiat a chartrefi ei flaenoriaid fel David Roberts ,Hope Street a benthyg y cyfrolau os oedd raid o’r llyfrgelloedd Wedi’r cyfan ei lyfyrgell ef , ar ol iddo farw, oedd cnewllyn helaethaf Llyfyrgell enwog Coleg y Bala a gafodd ei gwerthu yn afradlon o rad yn y chwe degau. o’r ugeinfed ganrif. Gwelir mai llyfrau oedd yn ei flino yn y llythyr cyntaf a ysgrifennodd at ei fam o Lundain ,ac yntau newydd gyrraedd yno ar ol teithio trwy’r nos o Crewe:

Y mae fy moxes a’m llyfrau wedi dyfod yma o’r Drefnewydd. Ni thelais ond dwy bunt am eu cario. Y mae gennyf amryw lyfrau a phethau eraill eto yna... Y mae gennyf gyda mi eto dros ddeugain punt, ac y mae yn ddyledus i mi am lyfrau a werthais yn y Drefnewydd dros gan punt - ond rhaid i mi brynu y rhan fwyaf o’r llyfrau hynny eto. 7


Nid rhyfedd i ryw eneth o Saesnes, pan ddaeth hi’n forwyn i dŷ Griffith Davies y mathemategwr, lle lletyai Owen Thomas ar y cyntaf yn Llundain, gredu mai llyfrwerthwr oedd gweinidog Jewin Crescent! 8

Yr un fu’r stori yn Lerpwl. Byddai’n chwilio’r siopau am y llyfrau newydd ac yn wir, hyd y diwedd hiraethai am gael ei ddwylo ar y llyfrau diweddaraf. Sonia Griffith Ellis, gweinidog Stanley Road, Bootle, amdano’i hun yn galw i weld Owen Thomas yn ystod ei waeledd olaf yn ardal Abercromby. Roedd yn anfodlon iawn am nad oedd cyfrol Dean Church wedi cyrraedd ac yntau wedi’i harchebu oddi wrth lyfr werthwr yn Church Street, Lerpwl. Pan alwodd Griffith Ellis drachefn ymhen rhyw ddeng niwrnod a phan holodd ynghylch hynt a helynt y gyfrol gwelodd fod Owen Thomas yn hapusach ei fyd. Roedd y gyfrol wedi cyrraedd ac yntau wedi’i darllen. ‘Ac yr ydw i yn myned i’w darllen drosodd eto hefyd.'9 Doedd dim terfyn ar ei awch am lyfrau a’r rheiny ar bynciau amrywiol fel hanes yr Eglwys, Protestanniaeth, diwinyddiaeth, esboniadaeth ac wrth gwrs, llenyddiaeth. Roedd yn amlwg fod ganddo’r adnoddau i wario’n helaeth ar ei lyfrgell.

Yn Lerpwl, fel yn Llundain, manteisiodd ar y cyfle mawr a gafodd i wrando ar ddoniau eraill, hwyrach er mwyn perffeithio ar ei ddawn ei hun fel pregethwr. Yn ystod cyfnod Jewin bu’n wrandäwr cyson ar Thomas Binney, gweinidog gyda’r Annibynwyr Saesneg, ar James Hamilton ac ar Henry Melvill. Fel hyn y soniodd am bregethau Henry Melvill,ficer Eglwys St Margaret,Lothbury:


Yr wyf wedi bod yn gwrando arno amryw weithiau. Y mae yn pregethu yn ardderchog.

Rhaid fod ei bregethau yn costio iddo lafur dirfawr:

Y maent i gyd yn elaborate anghyffredin.10


Ac fe dystiodd ei gyfoeswyr i Owen Thomas berffeithio’i ddawn ei hun wedi iddo wneud ei gartref ar lannau’r Merswy..

Ni ellir tynnu’r gorau allan o bregethwr heb gynulleidfa, medden nhw. Yn wir, cafodd Owen Thomas y fraint o fod yn perthyn i oes aur y cynulleidfaoedd. Yn ôl yr ystadegau, yn ystod ei gyfnod yn Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Princes Road, Lerpwl rhwng 1871 a 1891 y gwelwyd y gynulleidfa oedd bron y fwyaf ei rhif yn holl hanes crefydd a phregethu Cymru. Roedd un fil un cant ar ddeg o aelodau’n perthyn i’r eglwys honno. Yn eu plith gwelwyd y gorau o ddau fyd, hen ŷd y wlad ymhell o gartref a’r Cymry a oedd wedi’u magu ar y Glannau. Mae’n siŵr fod hyn asiad diddorol i Owen Thomas.

Yn Lerpwl y cyrhaeddodd ei anterth. Yn ystod y cyfnod hwn yr enillodd y teitl ei fod yn Bregethwr y Bobl. Mae’n anodd iawn inni heddiw yn 2022 ddirnad cyfrinach ei lwyddiant. Gallwn ddarllen ei bregethau, ond eto i gyd mae gwahaniaeth rhwng darllen pregeth a’i chlywed hi’n cael ei thraddodi gan ŵr o ddawn ymadrodd Owen Thomas. Cyfaddefodd y Parchedig J.J. Roberts (Iolo Caernarfon ) ei fod yn ymwybodol o’r fath anhawster ac eto roedd ef yn ei gofio’n pregethu. Ond yn ei gofiant i Owen Thomas mae Iolo Caernarfon yn egluro mai rhan o gyfrinach ei lwyddiant oedd fod ei wrandwawyr yn teimlo pan wrandawent arno nad oedd hi’n ‘bosibl byth ddywedyd y peth yn well’. Dyna ganmoliaeth yn wir iddo.

Fel ‘pregethwr y bobl’ gwnaeth ei orau i adnabod ac i ddeall ei gynulleidfa gymysg. Yn eu plith gwelwyd rhai o gyfoethogion mawr y ddinas, a ‘nifer luosog o ieuenctid’ yn ôl tystiolaeth llygad-dyst ym 1883, y gweithwyr cyffredin a’r merched a ddaeth i weini yn y cartrefi moethus , a ‘phobl yr ymylon’ a eisteddai yng ngaleri’r pechaduriaid fel y’i gelwid. I bob un ohonynt, cyfoethog a thlawd, athrylithgar a chyffredin ei gallu pregethodd Owen Thomas bob amser gyda’r argyhoeddiad mai Iesu Grist oedd gobaith mawr dynolryw. Daeth i lawenhau a gorfoleddu ym mywyd a gwaith ei Waredwr,

‘ Iesu Grist ydyw Alpha ac Omega,dechrau a diwedd,cyntaf a diwedda,’’ geiriau Duw’’.Efe ydyw canolbwynt yr holl Ysgrythyrau.’11

Os oedd pregethu’n bwysig iawn iddo, felly hefyd roedd bugeilio. Gofalai am ei ‘bobl’, yn arbennig y llesg, y galarus a’r tlodion. Bu’n gefnogol iawn i waith cymdeithasol yr eglwys, yn arbennig i weithgareddau Cymdeithas Dilladu Capel Princes Road a sefydlwyd yn 1876. Trefnodd gyfarfodydd darllen ar gyfer y bobol ieuainc oedd yn gweini yn y tai crand yn Devonshire Road ac yn Catherine Street a Canning Street lle roedd ef ei hun yn mwynhau bywyd trefol ae ei orau..

Nid pregethwr a bugail yn unig mohono, oherwydd profodd ei hun fel ysgolhaig ac fel llenor. Ysgrifennodd ddau gofiant nodedig, Cofiant John Jones, Talsarn a Chofiant Henry Rees, yn ogystal â llu o erthyglau ac adolygiadau, heb anghofio’r olygyddiaeth o’r Traethodydd am gyfnod. Fe ddeil Cofiant John Jones Talsarn i ryfeddu’r beirniaid llenyddol a phwy bynnag a’i ddarlleno. Dewisodd wrthrychau diddorol i’w hastudio ac yn Cofiant John Jones fel geir rhai o’r darnau disgrifiadol godidocaf yn y Cofiant Cymraeg. Fel cofiannydd roedd gan Owen Thomas y ddawn i droi popeth a gyffyrddai yn ddiddorol ac yn raenus. Er hynny, mewn ysgrif fel hon, cam gwag fyddai anghofio bod gan Owen Thomas ei ffaeleddau hefyd fel llenor. Weithiau fe fedrai fod yn rhodresgar ac yn chwyddedig ei arddull ac fel y sylwodd D.E.Jenkins a minnau,fe adawodd allan rai ffeithiau y dylai fod wedi ei croniclo 12. Ond mae’n hawdd iawn inni heddiw feirniadu fel hyn gyda’n hastudiaeth gymdeithasegol oleuedig! Fe ddeil yn ffaith na lwyddodd neb yn llenyddiaeth Gymraeg i wella ar y meistr. Efallai fod ei ŵyr, Saunders Lewis yn iawn i ddweud fod cyfnod arbennig y Cofiant Cymraeg wedi dod i ben yn 1874 gyda’r campwaith, Cofiant John Jones gyda’i r mil a deugain ac un o dudalennau.13

Rhyfedd meddwl er hynny, bod cymaint o olion Saesneg oes Fictoria ar ei waith llenyddol gorau ac yntau mor bleidiol i’r iaith Gymraeg. Cvredaf er hynny fod Syr Thomas Parry wedi gorliwio dylanwad Saesneg ar ei arddull. At ei gilydd mae ei arddull yn hynod o Gymreigaidd . Ysgogodd ei eglwys yn Lerpwl i roi pob cefnogaeth i’w ymdrechion a wnaed o blaid diogelu’r iaith Gymraeg. Siaradodd yn huawdl ar y mater ar lawr y Sasiwn a’r Gymanfa Gyffredinol a phan groesodd gleddyfau ag Emrys ap Iwan ar fater yr Achosion Saesneg allai neb amau Cymreictod y cawr o Lerpwl. Bu Owen Thomas yn Gymro alltud am ddeugain mlynedd. Ai hyn oedd yn gyfrifol am beio ar ei arddull i goffau John Jones, pregethwr uniaith Gymraeg? Ai Lewis Edwards oedd â’r allwedd i ddatgloi’r dirgelwch pan ddywed ‘Ni fu neb erioed yn fwy Seisnigaidd na John Elias?’ Fe ddylanwadwyd ar Owen Thomas y pregethwr gan John Elias ond nid fel llenor.Ac yr oedd Owen Thomas fel y cyfeiriais yn fwy o lenor nag y tybiodd Dr Thomas Parry yn ei astudiaeth o Lenyddiaeth Gymraeg14 Fel y dywedodd Saunders Lewis y mae ei bortreadau o gewri pulpud Arfon yn ‘’ ennill i Owen Thomas hawl i’r enw o fod yn Saint- Simon llenyddiaeth Gymraeg ‘’ 15. Bu yn hynod o gynhyrchiol fel llenor. Ysgrifennodd yn helaeth i’r Drysorfa, i’r Traethodydd, a cheir cyfraniadau ganddo yn y Llenor, Cronicl yr Ysgol Sabbothol, Baner ac Amserau Cymru, y Goleuad, y Gwyddoniadur Cymraeg, heblaw ei esboniadaeth ar y Galatiaid, yr Effesiaid, y Philippiaid, rhannau o’r Colosiaid a’r Thesaloniaid, y Cornithiaid a’r ymdriniaeth fanwl ar yr Epistol at yr Hebreaid.16 Hwn oedd ei gampwaith, yr Epistol at yr Hebreaid, ym maes esboniadaeth Feiblaidd.

Beth oedd ei gyfrinach? Sut y llwyddodd Owen Thomas i gyflawni hyn i gyd? Gwaith gofalus oedd casglu’r deunydd a llafur enfawr oedd rhoi trefn ar ei nodiadau a’i ymchwil, ac ar yr un pryd crwydrodd y wlad i gyhoeddi’r Efengyl. Mae’n rhaid bod sawl rheswm i egluro’i lwyddiant fel llenor, fel pregethwr ac fel cyfathrebwr.

Gallwn ddechrau gyda’i fagwraeth yn niwylliant y Beibl ar yr aelwyd yn nyddiau cynnar ei fywyd. O ran gallu, dawn, a duwioldeb, roedd ei dad a arddelai yr un enw Owen yn werinwr fel y mwyafrif o’i mm gyfoeswyr. Bu’r fam yr un mor benderfynol o drosglwyddo diwylliant y Diwygiad Methodistaidd i’w theulu. Llwyddodd i gadw’r addoliad teuluaidd ar yr aelwyd ac yn ôl un disgrifiad, dysgodd ei rhai bach i ddarllen y Gair a’i drysori ar eu cof. Gymaint oedd y dylanwad hwn arno yn ei blentyndod roedd hi’n ffaith mai ei hoff waith oedd dysgu ac adrodd penodau o’r Beibl, Felly, gallai adrodd y Testament Newydd i gyd, y cyfan o Lyfr Job, y Salmau, Eseia, Daniel, Hosea, Joel, Meica a Sechareia. Fe ddysgodd Epistol Iago bob gair un noson pan oedd ei rieni yng nghapel Hyfrydle, Caergybi. Gwelwn fel yr oedd profiadau a dylanwadau cyfnod ei dyfiant wedi profi’n gynhaliaeth iddo weddill ei oes.

Roedd y seiliau’n sicr iddo fel myfyriwr. Gyda’i alluoedd meddyliol ac ysbrydol, drachtiai wybodaeth o bob ffynnon. Cafodd bob cefnogaeth gan y Dr Lewis Edwards yng ngholeg y Bala. Fe’i galwodd yn ‘athraw perffaith’ ac fe fu cyfeillgarwch agos rhyngddynt ym myd y meddwl a’r deall.17 Wedyn aeth Owen Thomas i Brifysgol Caeredin lle bu’n astudio wrth draed Syr William Hamilton, gŵr a fu’n ddylanwad mawr arno fel ag y bu Thomas Chalmers, athro Diwinyddiaeth a Hebraeg.18 Agorodd y rhain ei feddwl i ddiwinyddiaeth gwledydd Ewrop, yn arbennig yr Almaen, a’i osod ar lwybr yr ysgolheictod a fu’n gymaint rhan o’i fywyd.

Felly, portread o ŵr cydwybodol, cwbl ymroddedig i’w waith fel Gweinidog y Gair sydd gennym. Clywn amdano’n dechrau ar ei waith bob dydd am saith bob bore. Roedd ei lyfrgell yn seintwar iddo a doedd dim i ddod i’w rwystro rhag ei dasg. Pe byddai rhywun yn galw’n ddirybudd byddai’n dal i ysgrifennu wrth ei ddesg yn ogystal â sgwrsio. Credai y dylai gweinidog ddangos esiampl i weddill y gymdeithas mewn diwydrwydd a gwaith ac fe’i edmygwyd ef am hyn gan bawb yn ddiwahân.

Ond mae rhan o’r gyfrinach a’r clod yn perthyn i’w chwaer ieuengaf, Sarah, oherwydd y gefnogaeth a gafodd ganddi. Ar ôl marwolaeth ei wraig annwyl Ellen yn 35 mlwydd oed , daeth ei chwaer Sarah o Fangor ym 1867 i gadw’r cartref iddo ac i ofalu ar ol y plant bach oedd yn amddifad o fam . Bu hyn yn fantais fawr i’w waith cyhoeddus ac i’r plant oedd asg angen gofal mam . Gofalai Sarah ei fod yn cael pob rhyddid i lenydda pan fyddai adref ac i grwydro Cymru benbaladr fel un o sipsiwn Crist.

Ar ei grwydriadau a’i deithiau mynych daeth pobl i’w adnabod fel gŵr yn meddu ar lawer o rinweddau. Perthynai caredigrwydd mawr iddo ac yr oedd wrth ei fodd yn hybu dynion ieuainc oedd yn cychwyn i’r Weinidogaeth. Yn Lerpwl, cefnogodd waith y cenhadon a lafuriai ymhlith y tlodion yno. Fel un a wybu dlodi ei hun yn ystod ei gyfnod cynnar, ni anghofiodd drybini’r Cymry tlawd. Bu farw ei gariad Bathseba Rowlands ar ddiwedd ei gyfnod yn y Drenewydd. Roedd y ddau wedi trefnu priodi ac fe’i hysigwyd ef yn fawr iawn gan y profiad. Ar 19 Hydref 1850 ysgrifennodd at ei fam:


Fy annwyl fam, gweddïwch drosof. Ni chefais gymaint profedigaeth erioed. Yr wyf yn cael fy hun yn weddw cyn bod yn briod. Ymddengys y byd i mi ar ryw gyfrif yn hanner gwag hebddi hi.19


Ni bu yn ffodus yn ei briodas o gwbl gan iddo golli ei briod, Ellen, ychydig wythnosau ar ôl geni merch fechan. Diwrnod du arall felly oedd Sul 24 Mawrth 1867, pan fu fawr Ellen, merch y seraff bregethwr y Parchedig William Roberts,Amlwch ym mlodau’i ei dyddiau a gadael pump o blant. i alaru ar ei ol. Cawn ddisgrifiad trist iawn o Owen Thomas mewn cyfarfod plant yn nghapel Netherfield Road , gan ei gyfaill ac arloeswr tonic sol-ffa, Eleazar Roberts,


Yr wyf yn ei weled, y funud yma, pan oedd y plant yn canu rhyw gân fechan o gwynfan plant amddifaid ar ôl claddu eu mam, yn wylo dagrau hidl, nes creu cydymdeimlad dwfn ym mynwesau y rhai bychain wrth gofio am blant y Cadeirydd oedd mewn amgylchiadau cyffelyb.20


Yn ôl Eleazar Roberts, y tynerwch a’i nodweddai fel personoliaeth a’i gwnaeth yn ‘gysurwr cynhaliol’ mor anghyffredin yn awr y brofedigaeth i bobl glyn cysgod galar. Gwelodd lawer o afiechyd ar ei aelwyd ei hun a phrofedigaethau enbyd o golli ei ddyweddi ac yna ei briod,y ddwy ynghanol ei dyddiau. Bu farw ei eneth fechan yn niwedd 1869 a bu farw ei fab John Owen yn dair ar ddeg oed ym Mehefin 1879.. Bu yn ddiolchgar droeon i’w chwaer yng nghyfraith am ddyfod o Fangor i gadw cartref iddo yn Lerpwl a gofalu ar ol y plant amddifad. gan ei alluogi ef i dderbyn gwahoddiadau i Gyfarfodydd Pregethu a Sasiynau ar hyd a lled Cymru.

Gŵr hynod o boblogaidd ymysg Cymry Lerpwl a gweddill Cymru oedd Owen Thomas. Meddai ar bersonoliaeth hardd, llais awdurdodol , cof gafaelgar, a chorff lluniaidd, a safai fel brenin yn y pulpud.. Mae’r portread olew ohono’n dyst o olwg urddasol, batriarchaidd. Byddai pobl yn hoffi’ ei wahodd ar eu haelwydydd, yn arbennig y cyfoethogion o’r dosbarth canol. Cartref felly oedd cartref yr heddychwr George M Ll Davies a’r bardd J Glyn Davies yn Devonshire Road, Toxteth.. Âi Owen Thomas yno’n aml ar ol colli ei briod am ginio a the ar y Sul. Ef fyddai’n llywio’r sgwrs hyd yn oed pan oedd cewri eraill yn bresennol fel Edward Mathews,Ewenni a melys oedd sôn am yr hen ddyddiau yng nghwmni’r blaenor John Davies a’i briod Gwen (merch John Jones, Talsarn). Mae gan yr Athro J Glyn Davies, brawd George M.Ll.Davies, ddisgrifiad byw o Owen Thomas fel gŵr ‘sunny and serene’.21

Dyma, efallai, un o wendidau Owen Thomas, yn ei flynyddoedd diwethaf. Tyfodd yn dipyn o uchel fonheddwr. Mynnai deithio yn y dosbarth cyntaf ar y trên er mwyn cael cyfle i ddarllen neu ysgrifennu ac ofnai na châi lety cysurus yn y tai teras yng nghymoedd Morgannwg ymhlith y dosbarth gweithfaol yno. Ond fe’i harbedwyd rhag hynny yn gyson a chafodd groeso tywysogaidd gan un o berchnogion y glofeydd, Thomas Joseph, Tŷ Draw, Treherbert. Does dim rhyfedd ei fod yn canmol teuluoedd y byddygions; teulu Treborth, ger Bangor, teulu Bryngwenallt, Abergele, a theulu Gwaelod-y-Garth House , Merthyr Tydfil.22 Ym moethusrwydd cartrefi’r cyfoethogion hyn, y masnachwyr Calfinaidd y rhoddwyd iddo gyfle i ymlacio. Yn wir, roedd angen llawer o gysur ar ŵr a’i yrrai ei hun yn ddiarbed o fore tan nos.. Oherwydd drwy gydol y blynyddoedd doedd dim pall ar ei weithgarwch dros bobl ei eglwys, ei Gyfundeb a thros lenyddiaeth ei wlad. Roedd pawb yn cydnabod hyn.

Heddiw, fe erys y dystiolaeth i hyn i gyd mewn anerchiad disgrifiadol a gyflwynwyd i’r Dr Owen Thomas ym mis Mai 1888 ynghyd a thysteb am bedwar cant ar ddeg o bunnoedd fel arwydd o werthfawrogiad cenedl y Cymry ac yn enwedig Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, yn ninas Lerpwl am ei wasanaeth am hanner ei gyfnod fel gweinidog a threuliodd fwy na hanner can mlynedd. fel bugail ar y praidd. Rhyw ddeugain mlynedd yn ôl digwyddodd hen ffrind inni Menai Ashcroft-Dick oedd yn byw o fewn y filltir sgwâr i Princes Road, gyfeirio at yr anerchiad disgrifiadol arbennig hwn. Trwy ryw ryfedd hynt, roedd yr anerchiad wedi dod i’w meddiant fel teulu ac fe’i cyflwynodd i mi fel Gweinidog olaf llawn amser yr Hen Gorff yn y ddinas. Mae yr anrheg yn cael parch yn ein cartref. Y fath drysor. Mae’r dysteb a’r anerchiad yn cydnabod fod Owen Thomas, drwy ei ysgrifeniadau, wedi bod yn llwyddiannus i ‘gynhyrchu a meithrin yn y Genedl Gymreig hoffter at ddarllen a chymerasoch ran bwysig yn nygiad i mewn cyfnod newydd yn hanes ein llenyddiaeth.’

Ym 1888 teimlent yn Eglwys Princes Road fod yn rhaid cymeradwyo a gwerthfawrogi un a oedd,

‘ ers hanner can mlynedd wedi sefyll yn gyson yn y lleoliad pwysig yn uchelwyliau y Methodistiaid ac wedi cymeryd rhan fel arweinydd yn holl symudiadau y Cyfundeb am dymor meithach nag a ganiatawyd ond i ychydig o weinidogion. Ac anrhydeddwyd chwi gan Dduw trwy eich gwneuthur yn offeryn i droi llawer at gyfiawnder.’ 23

Ar ol y Pasg 1891 bu Owen Thomas yn llesg ac yn methu llenwi ei bulpud.Nid oedd trafferth i’w lenwi gan y daeth gweinidogion o Dde a Gogledd Cymru i lenwi’r adwy,pobl fel David Lewis (1830- 1896 ),Llansteffan ( tad Griffith Thomas Lewis, prifathro cyntaf Ysgol Uwchradd Tregaron ) i enwi ond un o’r rhai pellaf o Lerpwl. 24 Mynegodd ei hen gyfaill,Daniel Davies (brodor o Dregaron ) ond yn byw yn Ton Pentre, ,Cwm Rhondda deimlad y werin a’r cyfoethog , y deallus a’r diwyd, pan ysgrifennodd i’w gyfaill: pan oedd yn dioddef yn gorfforol:

‘’ O Frenin,bydd byw byth’’ yw llais miloedd o Gymry ‘’ 25

Amhosibl yw hynny yn hyn o fyd ac yn gynnar ar fore Sul, 2 Awst 1891 bu farw Owen Thomas yn ei gartref 46 Catherine Street, tafliad carreg o gapel Princes Road, ac yn y cysegr hwnnw ar brynhawn Gwener 7 Awst y bu y gwasanaeth angladdol, o dan ofal y Parch.Griffith Ellis,Stanley Road ,Bootle ac yn dilyn yn mynwent Anfield .Aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn i’r bedd cael cofgolofn hardd .Mynegodd y Parchedig J.D. Symons,Abergwaun ei ofid yn 1898 am y diffyg yn ei bennill digon carbwl ond didwyll :

‘’ O broffwyd Duw, a dim ond rhifyn nod

Wrth ben angel wely sydd i fod ?

Prif seraph Cymru mewn dienw fedd !

Rwy’n mynd yn fud; dowch,ddagrau,lon’d fy ngwedd !’’26

Daeth Saunders Lewis a’i dad ei hun y Parchedig Lodwig Lewis yn ol yr holl ffordd o Gastell-nedd yn 1933 i fynwent Anfield , a’i osod ym medd ei briod a’i ei dad –yng-nghyfraith. y Dr Owen Thomas. Yr oedd hynny mor addas ar lawer ystyr.

Yn oes y rhyngrwyd cawn ni gyfle fel Cyfundeb i gadw'r cof amdano yn fyw am gyfnod pellach.


This article concentrates on the attraction of the urban world to the Reverend Dr Owen Thomas one of the foremost Welsh Preachers of the Victorian era. Born in Holyhead , a small town in Anglesey to a working class staunch Calvinistic family, he was the oldest of six children , four boys and two girls. In 1827 they moved to another growing centre, namely Bangor where. the four boys and the mother Mrs Mary Thomas became converts to the Temperance Movement . Each one of them became involved in Nonconformity, Josiah Thomas became General Secretary of the Foreign Mission in Liverpool for 40 years, William an elder in the city and a full time organiser for the Temperance Alliance and Revd Dr John Thomas , the mentor of David Lloyd George and the foremost Welsh Independent Minister , who spent 38 years as minister in Liverpool. Owen Thomas ministry was spent mostly in London( 12 years ) and Liverpool ( 26 years ) . Pwllheli had his gifts for 2 years and Newtown for 4 years for they both not sufficiently urbanised. This gifted Minister of the Word longed for academic books in the world of Scripture, history and literature.. They meant everything to him.. So he had to find an environment to minister where there were plenty of libraries and booksellers. He built up the most impressive libraries in the hands of a Presbyterian Minister in the British Isles, bought after his death by a Liverpool Welsh shipbuilder, and given to the Theological College in Bala. It was this priceless library that was squandered by the Welsh Presbyterian leaders in the 1960’s at the closure of the College. The tools of scholarship at his disposal kept him busy as a historian, theologian , biblical commentator and superb preacher. Dr Thomas endured a large number of tragedies, loosing his fiancé at early age, his wife at the age of 35 with five children to look after , but through his tribulations he became strong in faith ,and the working class came to love the middle class life style of his elders at Princes Road, Liverpool and elsewhere.. This article comes from the pen of his biographer in Welsh and in English. The English version are still in print , published in 1991 by The Edwin Mellen Press, Lampeter under the title The Life and Work of Owen Thomas 1812-1 A Welsh Preacher in Liverpool.,pps1-326.

Nodiadau a Chyfeiriadau

1 D.Ben Rees,Pregethwr y Bobl:Bywyd a Gwaith Owen Thomas (Lerpwl a Phontypridd, 1979 ) , 36

2 Mam Owen Thomas, sef Mary, oedd y ddirwestwraig gyntaf ym Mangor.Gw.William Hobley,Hanes Methodistiaeth Arfon,Dosbarth Bangor ( Caernarfon, 1924),66

3 LLGC Casgliad Saunders Lewis.Llythyr at Owen Thomas,rhif 61,gan J.Hughes, 74 Audley Street,Liverpool, 1 Rhagfyr 1864.

4 W.Ambrose Bebb, Canrif o Hanes y ‘’Twr Gwyn’’ (1854- 1954 ), (Bangor, 1954),66

5 J.J. Roberts, Cofiant y Parchedig Owen Thomas, DD ., Liverpool (Caernarfon,1912 ),104

6 Cyfarfyddiad pwysig oedd Undeb y Gweinidogion Cymraeg yn Lerpwl yn oes Fictoria.Cyfarfod misol ydoedd a cheid pryd o fwyd ar ol sesiwn y bore wedi ei baratoi gan wragedd y capel lle cynhelid yr Undeb y mis hwnnw.

7 LLGC Casgliad Saundders Lewis .Llythyrau oddi wrth Owen Thomas,rhif 12, at ei fam, o 12 Duincan Terrace,Islington,Llundain ,10 Ionawr 1852.

8 D.Griffith,Bethel,’’ Rhagor o Adgofion am Lundain’’,Y Genhinen,1904,164

9 Griffith Ellis, ‘’Adgofion am yr Hybarch Ddoctor Owen Thomas ‘’, Y Drysoprfa,1910, 5

10 J.J.Roberts, Cofiant...,155

11 Owen Thomas,’’Llefaru megis Geiriau Duw ‘’, Y Traethodydd, 1872, 16

12 D.Ben Rees, Pregethwr y Bobl.., 246-288.

13 Saunders Lewis,’’Y Cofiant Cymraeg ‘’, Trafodion Cymdeithas y Cymmrodorion,1933-35, 157-173.

14 Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1953 ), 253

15 D.Ben Rees, Pregethwr y Bobl.., 238

16 ibid. ,272-74

17 J.J. Roberts, Cofiant.., 99

18 D.Ben Rees, Pregethwr y Bobl..,63-8

19 LLGC Casgliad Saunders Lewis . Llythyrau oddiwrth Owen Thomas, rhif 10, i Mrs Mary Thomas, dyddiedig 19 Hydref 1850.

20 J.J. Roberts, Cofiant..,197-8

21 D.Ben Rees, Pregethwr y Bobl.., 163

22 Yr oedd Anne ,merch y Parch. Henry Rees, Lerpwl , wedi priodi (yn 1855 ) a Richard Davies ( 1818-96) , Treborth ,Bangor , Rhyddfrydwr amlwg, perchennog cwmniau llongau a chymwynaswr haelionus .Un o flaenoriaid Princes Road, Lerpwl oedd John Roberts ,Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeisdrefi Fflint (1878-1892). Ef oedd berchenog Bryngwenallt, Abergele ac Annibynwr Cymraeg a chefnogydd brwd Apostol Heddwch,Henry Richards,A.S oedd Thomas Williams,Y.H. Arhosodd Dr Owen Thomas ar ei aelwyd ef, Gwaelod –y –Garth House, pan oedd y Gymanfa Gyffredinol ym Merthyr Tydfil..

23 Y mae’r Anerchiad i’w ganfod heddiw yn fy nghartref yn Allerton,Lerpwl. a llun olew o Dr Owen Thomas. o waith Hugh Hughes er nad yw ei enw i’w ganfod ar y cynfas ar yr un mur. Ond nid oedd pawb o bell ffordd yn cytuno gyda’r Tysteb. Un felly oedd y gwr a alwai ei hun yn Calvin yn yr wythnosolyn, Y Werin. Teimlai ef fod Owen Thomas yn derbyn cyflog dda o gapel Princes Road ac yn cael ei dalu am grwydro Cymru i bregethu.Ni rydd ffeithiau dros ei honiadau, Gw,.Calvin ‘ Tysteb y Parch Owen Thomas,D.D.Lerpwl’, Y Werin,Sadwrn Ionawr 28,1888,3. Derbyniodd OTh ei Ddoethuriaeth mewn Diwinyddiaeth y flwyddyn cynt , er anrhydedd, o Brifysgol Princeton, yr Unol Daleithiau.

24 Llyfyrgell Picton, Lerpwl. Papurau John Davies M.D 69/7,llythyr at John Davies 2 Mehefin 1891.

25 LL.G.C. Casgliad Saunders Lewis. Llythyr at Owen Thomas Rhif 7, o Daniel Davies, Ton, Ystrad, 10 Mawrth 1887.

26 ‘Bedd Dr Owen Thomas ‘, Y Genedl Gymreig, 4 Hydref 1898, 2.