CREFYDD, CYMERIADAU A CHREDOAU YMHLITH Y CELTIAID


Roedd llawer o dduwiau yn cael eu haddoli gan y Celtiaid. Fe ddywedodd Julius Cesar, “Maent yn grefyddol iawn” ond ni sgrifennodd y Celtiaid lawer am eu credoau; ac am hynny, nid ydym yn gwybod ryw lawer am eu syniadau crefyddol. Yr unig ffynhonnell sydd gennym ydyw’r llenorion Rhufeinig, ond rhaid cofio na ddywedodd y Celtiaid lawer am eu crefydd wrth eu gelynion, sef y Rhufeiniaid. Yr ydym yn gwybod am rai o’r Duwiau Celtaidd yn ystod y cyfnod Rhufeinig, oherwydd fe enwodd y Celtiaid rai allorau er cof am y duwiau hynny. Fe fu iddynt lunio delwau ohonynt, ond roddodd yr un ohonynt eu henwau arnynt. Mae sôn hefyd am rai o’r duwiau yn chwedlau Cymru ac Iwerddon. Gan bod cymaint o lwythau gwahanol, mae hi’n naturiol bod ganddynt dduwiau gwahanol a duwiau i bob llwyth, ond roedd ganddynt Dduw Rhyfel ar gyfer pawb. Duw a oedd yn gofalu am iacháu’r gwael a’r methedig oedd y duwiau y gofynnid amdanynt. Yn y man mwyaf, roedd cerfluniau y duwiau a’r duwiesau i’w canfod, bob tro, a’r rheini yn debyg i ddyn neu ddynes, ac wedi eu gwisgo mewn dillad hardd. Mae yna straeon am dduw arbennig yn disgyn mewn cariad â merch feidrol, ac weithiau byddent yn ymffrostio bod milwr dewr yn fab i un o’r duwiau. Roedd yna dduwiau creulon hefyd, sef Morigan o’r Iwerddon, a honno yn dduwies ryfelgar a hyll.

Roedd y Celtiaid yn credu mewn byd arall, lle roedd y duwiau yn trigo. Pan ddeuai marwolaeth yno, byddid yn cael eu cludo i’r lle hwnnw. Addolai’r Celtiaid anifeiliaid, ac roeddent yn barchus iawn tuag at y baedd gwyllt (wild boar). Mae stori’r Twrch Trwyth yn un o storïau enwocaf y Mabinogion. Roedd cŵn hela a theirw i’w haddoli hefyd. Roedd adar yn medru bod yn ddrwg neu dda. Roedd y gigfran yn arwydd marwolaeth mewn brwydr, felly creadur anffodus ydoedd; ond roedd adar y frenhines, sef Rhiannon yn medru canu mor hyfryd fel bod pawb oedd yn gwrando yn anghofio am boen a phryder y byd. Roedd y Celtiaid yn credu bod pennau eu gelynion yn sanctaidd, ac yr oeddent yn gofalu eu bod yn eu torri oddi wrth eu cyrff ar ôl y frwydr. Roeddent wedyn yn eu cario adref ac yn eu cadw mewn olew mewn man arbennig. Roeddent hefyd yn arddangos y pennau hyn yn eu temlau.

Adeg gwledd, roedd y Celtiaid yn hoffi gwrando ar chwedlau yn ystod y dathlu. Y chwedlau mwyaf poblogaidd oedd am ddewrder eu harwyr Celtaidd. Mae hyn wedi parhau yng Nghymru ar hyd y canrifoedd. Cofiwn am y storïau ynghylch y Brenin Arthur. Ef oedd yn cyflawni campau anhygoel a dewr, a chofiwn am chwedl Culhwch ac Olwen. Cafodd y bachgen ifanc, Culhwch gymorth gan Arthur a’i filwyr i ennill Olwen, merch Ysbadden Ben Cawr, yn wraig iddo. Er mwyn ennill Olwen, roedd yn rhaid iddo gyflawni llawer o wrhydri, fel dwyn crib a siswrn oedd yn bod rhwng clustiau’r Twrch Trwyth ffyrnig. Y beirdd oedd yn adrodd y straeon, ac yr oeddent hefyd yn cyfansoddi barddoniaeth am yr arweinwyr, ac yr oeddent yn cael aur neu anrhegion eraill fel tâl am eu gwaith. Os oedd y pennaeth yn gynnal yn ei haelioni, mi fyddai’r bardd yn mynd ati i ysgrifennu pethau digon diflas am y pennaeth.


BRWYDRO

Roedd brwydro yn bwysig iawn i’r Celtiaid. Roedd plant o oed ifanc yn cael eu dysgu sut i ddefnyddio gwahanol arfau. Fe’u dysgid hwy i ddefnyddio gwatwareg ac i beidio bod yn ofnus. Fel arfer, roedd brwydr rhwng dau lwyth yn dechrau yn syml iawn. Nid oedd angen i filwr herio un arall er mwyn cychwyn gornest. Roedd y Celtiaid yn ymladd ran amlaf yn deg. Cyn dechrau cwffio, roeddent yn galw enwau ar ei gilydd fel hyn, “Rydw i wedi dod i ymladd â thi; fi yw’r baedd gwyllt ……. Ar y diwedd, mi gei di dy daflu i waelod yr afon ddofn. Mi fyddaf yn dy ladd di; fi, a neb arall”.

Roedd pob milwr yn ufuddhau i’w lw fel milwr, ac roedd hyn yn ddylestwydd. Os oedd y pennaeth yn ei orchymyn i ladd ei ffrind, cyfaill neu frawd, roedd rhaid iddo gyflawni hynny. ’Doedd dim ofn marwolaeth gan y milwyr Celtaidd. Roeddent i gyd eisiau cael eu cydnabod am eu dewrder ac am fod yn fedrus fel milwyr. Dyna pam bod eu henwau yn cael cael eu hail-adrodd gan y beirdd wedi iddynt farw. Roeddent i gyd yn meddwl ei bod hi’n well iddynt gael eu lladd mewn brwydr na byw am byth heb ennill clod. Mewn rhai brwydrau, mae hanesion am rai o’r Celtiaid yn mynd i frwydr a hwythau yn gwisgo dim ond dillad ysgafn, fel pe baent yn croesawu angau fel ffrind.


YR AIL FYD A CHLADDU

Rhaid cofio bod y Celtiaid yn credu bod bywyd yn dal yn rym ar ôl marwolaeth. Roeddent yn claddu eu meirw gyda’u heiddo er mwyn iddynt fod yn barod i deithio i’r byd hwnnw oedd y tu hwnt i’r bedd. Dyna reswm pam bod archaeolegwyr wedi darganfod cymaint o drysorau. Fel rheol, ym medd y pennaeth, roeddent yn rhoi arfau, bwyd, gwin, dillad a gemau hardd. Roedd rhai penaethiaid yn cael eu llosgi, a dim ond y llwch a geid wedyn yn y bedd. Y bedd mwyaf pwysig oedd y bedd lle y ceid llawer o bridd ar ei ben. Mae rhai o feddau y pennaethiaid wedi cael eu darganfod gyda cherbydau a harneisiau eu merlod ynddynt. Mae enghreifftiau o hyn wedi eu canfod yn Swydd Efrog ac yng Ngogledd Ffrainc. Roedd y milwyr hefyd yn cael eu claddu gyda’u harfau a’u gwawyffyn wedi eu torri yn eu hanner, er mwyn dangos eu bod wedi gorffen eu bywyd yn y byd hwn. Gwelir bod eraill wedi eu claddu gydag ychydig o fwyd a diod a dillad yr oeddent yn ei wisgo. Ond roedd y merched yn cael eu claddu yn eu dillad harddaf gyda pherlau am eu gyddfau a gemau hardd eraill i’w harddu. Roedd y tlodion yn cael eu taflu i mewn i bydew sbwriel yn hollol ddi-seremoni. Nid oedd statws yn bod i’r tlawd ei fyd.


CELTIAID ENWOG

Soniwn am Bellovesus, sef pennaeth llwyth y Biturgies o Dde’r Almaen. Roedd ef yn byw tua’r bedwaredd ganrif cyn Crist. Fe’i dewsiwyd ef i arwain nifer o lwythau Celtaidd i chwilio am diroedd newydd. Fe arweinioddd 200,000 o Geltiaid dros yr Alpau i’r Eidal. Cerdded a wnaent a marchogaeth ar gefn mulod, a’r rheini yn tynnu wagenni a cherbydau. Fe ymsefydlodd y rhain ar diroedd bras yr Afon Po ac wedyn bu ymladd caled yn erbyn yr Etrusgiaid.

Celt enwog arall oedd Vercingetorix a fodolai yn ystod y ganrif gyntaf cyn Crist. Ef oedd pennaeth Arvernia, yng nghanolbarth Ffrainc. Roedd ei dad wedi cael ei ladd gan lwythau eraill am ei fod yn mynd yn rhy gryf. Roedd yn arweinydd medrus a dewr. Fe gododd fyddin er mwyn ymladd yn erbyn Iŵl Cesar pan roedd yn ymosod ar Gâl yn 52 C.C. Fe gefnogodd rhai o’r llwythau y Rhufeiniaid, ac fe gollodd y frwydr. Carcharodd y Rhufeiniaid ef am chwe blynedd cyn ei ladd yn y diwedd.

Un arall o’r dewrion oedd Ambiorix. Deuai yntau o’r ganrif gyntaf cyn Crist. Roedd yn un o benaethiaid llwyth yr Eburones yn yr Iseldiroedd. Ymladdodd ef yn erbyn Cesar yng Ngâl. Llwyddodd i guro y Rhufeiniaid wrth ochri â’r Almaenwyr a llwythau Celtaidd eraill, ond ni lwyddodd i yrru y Rhufeiniaid o Gâl oherwydd i lwyth arall roddi help llaw i Gesar. Dihangodd yn fyw, ond fe fu’n rhaid iddo guddio rhag ei orchfygwyr hyd ei farwolaeth.

Caswallon oedd pennaeth y Catuvellauni (y ganrif gyntaf cyn Crist) a oedd yn rhan o Dde Prydain. Fe ymladdodd Caswallon yn erbyn Cesar. Yn anffodus, fe’i bradychwyd ef gan lwyth Celtaidd arall, ac fe gollodd y fryngaer i Gesar, ond yn fuan wedyn, roedd yn rhaid i Gesar fynd yn ôl i Rufain, a chafodd Caswallon ryddhad a chyfle i gario ymlaen i lywodraethu.

Cawr Celtaidd oedd Diviciacus yn y ganrif gyntaf Oed Crist. Ef oedd pennaeth yr Aedui yn Nwyrain Canolbarth Ffrainc. Pan yr ymosododd llwythau eraill ar Gâl, fe aeth i Rufain am gymorth. Ni ddaeth cymorth iddo, ond fe deithiodd Cesar i Gâl a’i goncro. Fe ddysgodd fod yn dderwydd, ac ef a roddodd hanes crefydd y Celtiaid i Gesar a’i lys.

Merch oedd Cartimandu o’r ganrif gyntaf Oed Crist. Merch a brenhines llwyth y Brigantes ydoedd. Dyma’r llwyth mwyaf nerthol yng Ngogledd Lloegr. Roedd hi ar delerau da gyda Rhufain, ond roedd ei gŵr, Venutius yn eu casháu. Pan aeth Caradog ati am gymorth, fe’i bradychwyd ef i’r Rhufeiniaid. Mi gwerylodd â’i gŵr a phriododd â’i gludwr tarian. Bu yn rhan o ryfel cartref, ond fe achubodd Rhufain hi bob tro.

Mae Caradog yn enw mwy cyfarwydd. Dyma un o feibion Cunobelin, brenin y Catuvellauni. Roedd ei diroedd yn ymestyn o Gaint i’r Cotswolds. Yn 43 O.C., fe arweiniodd fyddin yn erbyn y Rhufeiniaid, ond ni fedrodd eu rhwystro hwy rhag croesi yr Afon Medway. Fe gollodd y frwydr, ac fe fu yn rhaid iddo ffoi i Gymru. Fe barhaodd i ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid, ond fe gafodd ei fradychu ac fe awd ag ef i Rufain. Fe gafodd bardwn gan Claudius, felly cafodd fyw yn Rhufain.

Merch enwog oedd Buddug neu Boadicea. Mae’n enwog fel brenhines llwyth yr Iceni yn Norfolk. Fe ddisgrifiodd un Rhufeiniwr hi fel hyn:

“Roedd hi’n wraig anferth, yn frawychus ei golwg, a chanddi lais cras. Disgynnai ei gwallt coch at ei phenliniau”.

Ar ôl i’w gŵr farw yn 61 O.C., nid oedd Rhufain yn ei hadnabod fel brenhines yr Iceni. Fe gododd wrthryfel, a bu ymrafael ar drefi Rhufeinig fel Verulamium (St Albans) a Londinium (Llundain). Yn y diwedd, fe gollodd y frwydr, a chollwyd 80,000 o’i milwyr mewn angau. Fe’i lladdodd ei hunan wrth yfed gwenwyn yn hytrach na chael ei lladd.

Dyna ychydig o enwau y Celtiaid cyhyrog. Felly rhwng 500 a 250 C.C., hwy oedd y bobl mwyaf nerthol i’r gogledd o’r Alpau. Roeddent wedi ymsefydlu ar draws Ewrop, o Sbaen i’r gorllewin i Rwsia yn y dwyrain, o’r Môr Llychlyn i’r Môr Adriatig yn y de. Tua’r un cyfnod, fe ddechreuodd y Rhufeiniaid ddangos eu cryfder. Fe orchfygodd y Rhufeiniaid y Celtiaid yng ngogledd yr Eidal, ac ar ol r hynny, fe dyfodd ymerodraeth y Rhufeiniaid.

Yr unig reswm i’r Rhufeiniaid guro y Celtiaid oedd eu bod yn fwy trefnus na’r Celtiaid. Roedd y Celtiaid mewn llawer i beth arall yn llawer gwell, fel trin metalau ac yn eu technegau addurno. Ym mhob man lle y curwyd y Celtiaid gan y Rhufeiniaid, roedd yn rhaid iddynt adael eu bryngaearau. Cymwynas fawr y Rhufeiniaid oedd adeiladu ffyrdd da, syth ac hefyd sefydlu tefi newydd, pwysig a oedd ar groesffyrdd ac yn llefydd addas i groesi afonydd ohonynt. Fe aeth llawer o’r crefftwyr Celtaidd i weithio i’r trefydd, ond fe gollodd llawer ohonynt eu gwaith oherwydd fe gyflogodd y Rhufeiniaid eu crefftwyr eu hunain. Fe rwystrodd y Rhufeiniaid y Celtiaid rhag ymladd ymhlith ei gilydd, gyda’r canlyniad nad oedd rhaid i’r crefftwyr lunio arfau ar gyfer brwydrau.

Pan goncrwyd Ffrainc (neu Gâl) yn y ganrif gyntaf o Oed Crist, fe hwyliodd llawer ohonynt i Brydain i chwilio am waith. Yn 43 O.C., fe ymosododd y Rhufeiniaid ar Brydain er i’r Belgae ymladd yn eu herbyn, ond roedd llawer o lwythau Celtaidd eraill yn barod i weithio gyda’r Rhufeiniaid. Gorchfygwyd Celtiaid de-ddwyrain Prydain ac fe aeth canran uchel o’r Celtiaid o’r bryngaearau i fyw i drefi newydd y Rhufeiniaid. Fe ffôdd y crefftwyr i ogledd a gorllewin y wlad. Ni choncrodd y Rhufeiniaid mo’r Celtiaid yng Nghymru a Gogledd Lloegr yn llwyr, ond i’w cadw mewn trefn, fe wnaethant godi caerau milwrol a chestyll gyda ffyrdd da rhwng y canolfannau.

Peth arall wnaeth y Rhufeiniaid oedd codi cloddiau mawr yng ngogledd Prydain i gadw’r Pictiaid rhag ymosod ar y Rhufeiniaid. Yr unig dref a sefydlwyd gan y Rhufeiniaid yng Nghymru oedd Caer-went yng Ngwent. Roedd y Celtiaid yn byw fel arfer o dan awdurdod y Rhufeiniaid. Ni choncrwyd Iwerddon o gwbl. Ar ôl 400 can mlynedd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif O.C., fe ymadawodd y Rhufeiniaid â Chymru a Phrydain am byth. Ar ôl hyn, roedd yn rhaid i’r Celtiaid ym Mhrydain eu hamddiffyn eu hunain rhag y Pictiaid ac hefyd oddi wrth ymosodwyr newydd y Sacsoniaid. Yng Nghymru, daeth brenhinoedd Celtaidd i ddeall ei gilydd er mwyn eu hamddiffyn eu hunain rhag y gelynion newydd.

Tua 450 O.C., fe ymsefydlodd yr Eingl-Sacsoniaid yn Lloegr. Fe orchfygwyd y Celtiaid yn Lloegr ac fe briododd llawer ohonynt y Sacsoniaid. Yng Nghymru, fe safodd y Celtiaid neu y Brythoniaid i fyny yn erbyn y gelyn newydd. Roedd hefyd nifer o dywysogion a brenhinoedd yn llwyddiannus iawn yn atal y Sacsoniaid rhag concro Cymru. Erbyn y seithfed ganrif O.C., roedd Cymru yn wlad ar ei phen ei hun ac yn annibynnol ar Loegr. Roedd y Sacsoniaid yn feistri yn Lloegr yn unig. Yn Llydaw ac yn yr Iwerddon, roedd saint Celtaidd wedi sefydlu llannau a mynachlogydd ar draws Cymru ac hefyd wedi codi croesau Celtaidd. Ar yr amser hwn, roedd bywyd Celtaidd yn cario yn ei flaen yn yr Iwerddon. Roedd Gwyddelod fel y Cymry yn dal i adrodd chwedlau, dathlu gwyliau a chynnal gwleddoedd fel yr oeddent wedi ei wneud ers canrifoedd. Yr adeg honno yn yr Iwerddon, roedd y mynaich yn sgrifennau rhai o’r chwedlau. Mae’r ieithoedd Celtaidd yn dal i fyw yn yr ynysoedd hyn ac yn Llydaw. Er bod pob un o’r ieithoedd wedi datblygu’n wahanol i’w gilydd ar ôl i’r Rhufeiniaid adael, maent i gyd yn tarddu o’r iaith y siaradai’r Celtiaid.

Fel y dywedwyd ar y dechrau, roedd dylanwad y Celtiaid wedi mynd ar draws rhannau helaeth o Ewrop, gan ddechrau tua 1200 O.C. Tua 900 mlynedd wedyn, fe wnaeth y Rhufeiniaid yr un gymwynas. Concrwyd y Celtiaid gan y byddinoedd o Rufain, ond heb yr Iwerddon, daeth tiroedd y Celtiaid o dan ymerodraeth y Rhufeiniaid. Ond er i Rufain guro’r Celtiaid a’u gwneud yn rhan o’r ymerodraeth, mae’n bosibl hyd heddiw gweld lle a sut roeddent yn byw. Mae archaeolegwyr wedi ffeindio llawer o eiddo’r Celtiaid, fel gemau, celfi ac arfau, ond mae llawer eto i’w ddarganfod. Mae’r ieithoedd Celtaidd yn dal i fyw, nid dim ond yn ffurf enwau pentrefi a chaerau ond bwysicach na hyn, mae’r Gymraeg, y Wyddeleg, yr Aeleg a’r Llydaweg yn dal i gael eu siarad yn Ewrop. Er na adawsant gofnodion ysgrifenedig ar eu holau, nid yw’r Celtiaid wedi eu hanghofio yn llwyr. Mae arnom gyfrifoldeb i drafod mwy ar ein hynafiaid, y Celtiaid a adawodd greulondeb gwareiddiad inni ei astudio. Ond cofier hefyd drwy ganrifoedd hanes, fel bu’r beirdd a’r llenorion Celtaidd yn dyrchafu’r ymladdwr. Fel y dywed yr Athro Alan Llwyd:

“Yr ymladdwr oedd arwr cymdeithas. Clodfori’r ymladdwr a’i ddyrchafu’n arwr a wnaeth beirdd yr henfyd clasurol, Homer a Fyrsil, er enghraifft; mawrygu’r llofrudd, mewn geiriau eraill”.

Ac yn ôl yr Athro T. Gwynn Jones, felly y bu y Celtiaid, ein hynafiaid. Dyma a ddywedodd:

“Cymerwch lenyddiaeth ddiweddarach gwledydd eraill. Darllenwch lenyddiaeth ein hynafiaid ni ein hunain, yn Wyddyl a Brythoniaid. Y mae termau canmol y Gwyddyl yn dangos i ni pa beth oedd yn digwydd. Yr arwr oedd y gŵr a hoffai gochi ei ddwylaw â’i arfau a gwaed ei elynion; ei brif ddifyrrwch oedd malu cyrff ac esgyrn dynion; dygai wartheg a thiroedd eraill. Yr un peth a geir yn Gymraeg. Creulon a a threisgar oedd yr arwr, llew, cad, tarw trin, blaidd brwydr, lleidr gwartheg a thir, porthwr adar rhaib, a gwyddgwn coed; llofrudd oedd y gair clodforusaf y gellid ei arfer amdano yn y ddeunawfed ganrif. Ac y mae llenyddiaeth ogleddol, Dentonig, yn ffyrnicach fyth”.

Trwy gyfreithiau Hywel Dda, troes y Cymro at y gyfraith, yn hytrach na’r cleddyf, i newid holl agwedd cymdeithas. Ac erbyn y ddeunawfed ganrif, ceid tystiolaeth grefyddol i wareiddio ar bobl y genedl. Ond stori arall yw honno.