Cyfaredd Salem a’r Sebon

Gan D.Ben Rees

Yn nechrau’r ugeinfed ganrif yn Salem,Cefncymerau,sef capel bach y Bedyddwyr yng Nghwm Nantcol,ger Llanbedr Dyffryn Ardudwy tynnwyd llun gan artist o’r enw Sidney Curnow Vosper (1866-1942),o nifer o addolwyr a hen wraig mewn gwisg Gymreig. Bellach daeth y llun trawiadol hwnnw a gwplhawyd yn 1908 yn eicon cenedl. Ond mae cefndir Salem yn hynod o ddadlennol. Arlunydd o Ddyfnaint oedd Vosper ond ar ol ei briodas gyda Chymraes o’r enw Constance James o Ferthyr Tudful,yn 1902,daeth i weld Cymru trwy ei sbectol hi. Mae’n debyg pe bae hi heb farw yn gyn-amserol yn 1910 mi fyddai Vosper wedi canolbwyntio ar Gymru yn hytrach na Llydaw. Bu’n peintio yno ar hyd ei oes wedyn a meistroli’r iaith Llydaweg. Wedi’r cyfan syrthiodd mewn cariad gyda Constance a Sir Feirionnydd,ei phobl a’i phrydferthwch,a threulio wythnosau lawer yn Llanfair ger Harlech gan grwydro y mynyddoedd a’r dyffrynoedd. Cynnyrch y cyfnod byr hwn yw y fersiwn enwog o Salem a fersiwn llai adnabyddus o’r addolwyr,paentiad o Ddiwrnod Marchnad ac un arall o Ddiwrnod Golchi. Daeth i adnabod gwraig o’r enw Siân Owen(1837-1927) a daeth hi yn gymeriad canolog i ddarluniau enwog Salem a Diwrnod Marchnad. Gwisgodd Vosper hi mewn gwisg Gymreig draddodiadol,gyda’i siôl odidog a gafwyd ar fenthyg gan wraig offeiriad tref Harlech. Gwnaeth yr arlunydd hyn gan fod ei briod wedi dod o dan gyfaredd Augusta Waddington(1802-96) sef Arglwyddes Llanofer,y person yn fwy na neb a fu’n gyfrifol am adfywio’r wisg gymreig yn oes fictoria.

Er i’r darlun ddod yn eicon cenedl gyfan ni fu heb gryn lawer o feirniadaeth. A hynny am fod pobl yn gynnar iawn wedi gweld ym mhlygion y siôl dros ei braich dde bresenoldeb huawdl y Diafol. Dyma’r hyn a ysgrifennir yn gyson gan newyddiadurwyr y Western Mail a phapurau tebyg. Maentumir fod patrwm ‘paisley’ ar ffurf corn anifail. yn arwain yr addolwr i bresenoldeb y Diafol. Yna dywedir fod y plygiadau yn ffurfio llygad a thrwyn a bod ymyl y siôl yn farf i’r Diafol. Gwadodd yr arlunydd Vosper hynny ar ei union ond ni lwyddodd i ddistewi y lleisiau ofergoelus. Os rhywbeth cynyddodd y chwedl Satanaidd yn eu rym. Nis gallaf yn fy myw fel Calfinydd cymedrol a llyncu’r ddamcaniaeth. Erbyn hyn daeth pob un o’r cymeriadau a botreadir yn y darlun enwog yn destun ysgrifau papur bro a hyd yn oed cylchgronau fel Barn. O dan y cloc gwelir Robert Williams,Cae’r Feddyg,diacon yn Salem, ac fel mae’n digwydd yr unig un o’r addolwyr oedd yn aelod cyflawn trwy drochiad yn y ddiadell Bedyddiedig. Wrth ei ymyl,ond nid yn hawdd ei weld am ei bod mor swil eisteddai Laura Williams o Ty’n y buarth. A’i gefn ar y mur mae yr annwyl Owen Jones a adnabyddid ar lafar gwlad fel Owen Siôn o’r Gareg Goch. Creadigaeth dychmygol Vosper yw’r person nesaf. Yna daw’r bachgen bach chwech oed Evan Edward Lloyd ac wrth ei ochr gwelir Mary Rowlands mam y pregethwr dall,y Parchedig Evan Rowlands a gofiaf yn fy nyddiau cynnar. Ar y pen pellaf or sedd galed ar y dde gwelir William Jones(Siôn) sef brawd Owen Siôn. Talodd yr artist o ymwelydd chwe cheiniog yr awr i bob un ohonynt am eistedd yn barchus iddo,sef 2.5 ceiniog yn ein dyddiau anrasol ni. Cofier i’r gwaith gael ei gyflawni yn ystod y flwyddyn 1908.

Arddangoswyd Salem yn yr Academi Frenhinol, Llundain na fyddai ar agor heddiw onibai am gyfoeth un o Gymry Lerpwl ond a deuliodd ei oes ffrwythlon yn Rhufain,John Gibson, a hynny yn 1909. Yno y gwelwyd ef gan y gwleidydd craff yr Arglwydd Leverhulme a’i brynu am gan gini. Gwr oedd yn gyfarwydd a tharo bargen oedd Arglwydd Leverhulme,un a ddaeth o fyd dosbarth canol Sir Gaerhifryn i berchen ffortiwn,Ma b i groser yn nhref Bolton a welodd ei gyfle ddeugain milltir oddiyno ar lannau’r afon Mersi ac a gyfunodd yn fuan iawn fyd aelod seneddol dros Penbedw a’r holl Gymry oedd yno gyda rheolaeth ysgafn ond pendant ar ei ffatri gwneud sebon yng Nghilgwri. Roedd ef ymhell o flaen ei oes. Creodd bentref bendigedig rhwng Trefebin a Rock Ferry a’i alw yn Port Sunlight. Pentref yw hwn ar gyfer gweithwyr ei ffatri ond ers 1982 cafodd y trigolion gyfle i brynu ‘r cartrefi clyd a dymunol. Credai W. H. Lever fel yr oedd cyn ei anrhydeddu y dylai’r gweithwyr fyw mewn tai gwell na’r slymiau y bu eu tadau a’u teidiau yn byw ynddynt yn Vauxhall,Lerpwl a Salford,Manceinion. Codwyd y ffatri sebon yn 1899,a chodwyd tai y gweithwyr yn y pentref yr un pryd. Ac fel Annibynwr selog o ran crefydd,adeiladodd un o gapeli harddaf Glannau Mersi,ac yno y bu fy ffrind coleg,y Parchg Malcolm Shapland yn gweinidogaethau am rai blynyddoedd,Adeilad hardd arall a adeliadodd Lever yn y pentref yw yr Oriel Gelf . Gweithred hardd oedd gosod Oriel Gelf Lady Lever- er cof am ei briod- ynghanol y pentref a gosod llun enwog Salem fel prif atyniad yr Oriel. Nid oes neb ohonom yn Gymry cyflawn os nag ydym wedi gwneud y bererindod i weld Salem ar gyrion Lerpwl. Dadleuodd rhai o wleidyddion plwyfol y Cynulliad y dylai Salem bellach gael cartref yng Nghymru ond ni chafodd yr awgrym unrhyw gefnogaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg na Urdd Gobaith Cymru. Gwrthodwyd y syniad gan awdurdodau Amgueddfeydd Glannau Mersi sy’n parchu ein treftadaeth na chan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Y mae iddo le parchus yn yr Oriel a daw cannoedd o Gymry yno bob blwyddyn i weld Salem a mwynhau awyrgylch y pentrf hudolus gyda’i erddi twt a’i Gofeb trawiadol o’r bechgyn fel Hedd Wyn a fu yn ysglyfaeth i Moloch ein rhyfeloedd. Ar ol sgwrs fuddiol gyda’i ffrind mawr o Gymro,John Francis(1863-1919) meddyliodd yr Arglwydd Leverhulme ar gynllun proffidiol a chwbl wahanol i’r disgwyliadau. Un o Rhosybol,Mon oedd John Francis ac adeiladodd ddarn helaeth o Benbedw. Onibai amdano ef a’i sel danbaid mae’n sicr gennyf na fyddai W. H. Lever wedi llwyddo mor ddi-drafferth yn yr Etholiad i fod yn Aelod Seneddol. Soniodd Francis wrtho am botensial y sebon,Sunlight Soap,yng Nghymru. Dyma’r Gymru oedd wedi profi y diwygiad Crefyddol anghyffredin yn 1904-5 a Phenbedw hefyd wedi cael cyfle i groesawu Evan Roberts ei hun. Bu Lever a Francis yn ysgwyd dwylo ac yn dymuno yn dda iddo ar ei ffodd i grwsad ym Mon. Y cynllun oedd marchnata’r sebon yn y fath fodd fel i wireddu y dywediad fod ‘glanweithdra yn nesaf i dduwioldeb’. Martin Luther a fathodd y dywediad yn y lle cyntaf ond bu Cymry y cymoedd glofaol yn ymwybodol iawn o rym y dywediad. Yn ychwanegol trawodd Lever a Francis ar y syniad blaengar o osod vouchers yn y blwch sebon. Ar ol casglu saith ohonynt gellid cael copi poster o lun enwog Salem. A dyna sut y daeth y poster o Salem yn rhan bwysig o barwydydd tai teras cymoedd y De ac yng nghartrefi Ymneilltuwyr Cymraeg cefn gwlad Yna yn y tri degau gafaelodd Urdd Gobaith Cymru yn yr eicon! Y tro hwn sylweddolodd Syr Ifan ab Owen Edwards y gellid cynnig y llun gyda’r cylchgronau a chodi y swm o chwech cheiniog am bob copi o Salem. A daeth mwy o Salem Vosper y tro hwn i festrioedd y capeli ac i gartrefi y werin grefyddol. Ac yr oedd crefydd yn lliwio pob tudalen o bapurau lleol yr adeg honno.

Yn fy marn i llwyddodd Curnow Vosper yn ei gampwaith i gostrelu Ymneilltuaeth Gymraeg ar ei orau,sef yr addoliad tawel,syber heb ffws a ffwdan. Mewn dwylo diogel tebyg i E. Tegla Davies neu T. Glyn Thomas,y mae addoliad Ymneilltuol yn medru bod yn brofiad hynod o gyfoethog gan ei fod yn rhoddi rhyddid i’r gweinidog a’r gynulleidfa i dderbyn y gwahanol,yr anghyfarwydd,a’r ysgogiad ysbrydol sy’n gwneud bywyd yn wefr. Y mae’r cymeriadau sydd yn narlun Salem ar ei gorau,yn wylaidd ostyngedig, yn groesdoriad o’r gymdeithas,cawn y plentyn bach, y fam ofalus a’r diacon dylanwadol. Siân Owen ,Ty’n y fawnog yw’r prif gymeriad. Hi yw Mam y Genedl. Gwraig dda ydoedd,yn ofni Duw ac yn gwneu ei gorau yn y gymdeithas. Perthyn Siân Owen i’r ddelwedd o’r wraig dduwiol Gymraeg. Ann Griffiths,Dolwar Fach,Cranogwen o Llangrannog a Siân Owen,Salem sy’n cynrychiolu y bywyd crefyddol ar ei orau. Nid diafol a welir yn y siôl ond myfyrdod a moliant i Dduw,ac yn ei llaw,gwelir y Beibl neu’r Llyfr Emynau-cymerwch eich dewis. Diddorol iawn yw adwaith yr artist o Geredigion,Carwyn Evans i Salem. Gwel ef patrwm paisley yn y siôl yn symbol traddodiadol o’r enaid. Ef sydd yn ein hatgoffa o beddargraff Siân Owen:’Cystuddiwyd fi yn ddirfawr,bywha fi,O Arglwydd yn ol Dy Air ‘ gan ystyried y tebygrwydd mawr fod y llun a baentiodd Vosper,a’r cyhuddiad fod y diafol yn y siôl, wedi bod yn ‘sumbol yn y cnawd’ iddi hyd ei bedd. A chofier hefyd iddi golli aelodau o’i theulu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae y beddargraff yn costrelu ei phrofedigaethau.

Erbyn hyn trwy gyfrol aml argraffiad Tal Williams,record Endaf Emlyn, a champ Carwyn Evans ‘Gwisgo Salem Eto’(comisiwn S4C) a cherdd adnabyddus T. Rowland Hughes,y mae gennym ddigon i’n hatgoffa o’r Eicon. Ond cwestiwn arall yw sut y gallwn warchod Salem y capel fel y llwyddwyd o 1860 i 2019. Pum aelod sydd ar lyfrau Salem bellach,a chefais sgwrs gyda Ysgrifenyddes y Capel,Miss Catherine Richards,Llanbedr sydd heb lun o Salem yn ei chartref/ Er mai genedigol o Drawsfynydd ydyw y mae’n hyddysg dros ben yn yr hanes,a soniai am yr ymwelwyr a ddaw i’r capel hanesyddol. Soniodd fel y daeth plant Ysgol Llangybi,Eifionydd yno a da o beth oedd clywed hynny. . Ond angen mawr Salem yw cael plant a phobl ieuainc yno bob Sul. Hyd y digwydd hynny,diolchwn i ffyddloniaid Salem am gadw’r drws ar agor i’r mynych ymwelwyr.A balch ydwyf o lun Salem sydd ar wal ein ystafell fyw..