OES AUR Y WASG GYMREIG

Gan D. Ben Rees

Dywedodd y gwerinwr diwylliedig, Glaslyn, “Mae dyfodol Cymru yn y botel inc.” Gwireddwyd ei eiriau yn oes aur y Wasg Gymreig, y cyfnod o 1850 hyd 1920. Cyfnod digon byr ond cyfnod hynod o doreithiog. Roedd y rheswm am lewyrch y Wasg Gymraeg yn gwbl amlwg. Anghydffurfiaeth yn brwydro am gefnogaeth y Werin Gymraeg. oeddd yr ysgogiad mawr Ac o fewn Anghydffurfiaeth, ceid bechgyn ieuainc yn barod i wasanaethu yr enwadau a’r capeli fel golygyddion a chyhoeddwyr. . Mae’n werth cofio y cyhoeddwyd oddeutu pum cant a deg o wahanol gyfnodolion yng Nghymru yn Oes Aur y Wasg Gymreig, a chyfran dda o’r rhain o dan arolygiaeth gweinidogion yr Efengyl. Gweinidogion oedd yr arloeswyr, a’r arloeswr cyntaf oedd Joseph Harris (‘Gomer’; 1773-1825), Bedyddiwr o ran credo a magwraeth a sefydlodd ei fusnes argraffu yn nhref Abertawe. Yr oedd ef yn wirioneddol gredu fod dyfodol Cymru yn y ‘botel inc.’ O’i gyfrol gyntaf a gyhoeddodd ym 1804, a chofiant ei fab , Cofiant Ieuan Ddu, bu’n weithgar ac yn fentrus. Gwerthai ei gyfrolau a chyfrolau eraill yn ei siop lyfrau ei hun. Ond ei ymgais bwysig oedd cyhoeddi Seren Gomer, 1814-5, a hwn oedd yr wythnosolyn cwbl Gymraeg cyntaf i weld golau dydd ar ddaear Cymru.

Methodd Gomer yn drychinebus; yn wir, mi fethodd gyda’i gyhoeddiad cyntaf, sef Y Drysorfa Efengylaidd. Er iddo gael cynhorthwy yr emynydd crefftus, Titus Lewis gyda’r Drysorfa, aeth y cyfan yn fethiant. Dyna fu stori Seren Gomer fel wythnosolyn, ond fe lwyddodd yn well ym 1818 pan aeth y cyhoeddi yn bythefnosol. Rhaid ei edmygu’n fawr, gan iddo geisio cyflawni’r angen gyda chylchgrawn arall, sef Greal y Bedyddwyr ym 1817. Methiant truenus arall. Canlyniad y cyhoeddi hyn oedd iddo gael colledion ariannol dirdynnol. Ond cofier nad oedd Anghydffurfiaeth mor bwerus ym 1815 ag yr ydoedd ym 1855.

Ond y flwyddyn 1843 ydyw blwyddyn bwysig ar drothwy Oes Aur y Wasg Gymreig, pan fentrodd dau weinidog radical o blith yr Annibynwyr Cymraeg i fyd y cyhoeddiadau o’r Wasg. Ffrindiau a chydweithwyr oedd Samuel Roberts (SR; 1800-1885) ac William Rees (Gwilym Hiraethog (1802-1883),Lerpwl . Mentrodd S R ym Mai 1843 fel golygydd a chyhoeddwr Cronicl y Cymdeithasau Crefyddol neu ar lafar gwlad, Y Cronicl. Dechreuodd y Cronicl yn llawn hanesion crefyddol a chenhadol, ac ysgrifau difyr ar y diwygiwr o Langeitho, Daniel Rowland a’r emynydd, Isaac Watts. Ond erbyn Hydref 1843, gwelid newid mawr gan i wleidyddiaeth ddod i’r tudalennau. Wedi’r cyfan, gweinidog gwleidyddol oedd SR yn ei hanfod, a heddychwr digyfaddawd. Dyna oedd ei neges wrth drafod plant Rebecca yng Ngorllewin Cymru. Dyma safbwynt ‘SR’ a’r Cronical,

Ymresymu yn feistrolgar ac eiriol gyda diffuantrwydd ydyw y ffordd effeithiolaf a rhataf i ni gael ymwared o’r arfau dinistriol. . Dyma yr unig ffordd dda a diogel. Gan hynny, na huder ni byth i drais na therfysg, ac o’r tu arall, na oddefwn i rym ennill ein cefnogaeth. Dyma draddodiad Llanbryn-mair fel y sonia Iorwerth Cyfeiliog Peate ar waith ei arwr S R .

Yr un flwyddyn yn Lerpwl, mentrodd y Parchedig William Rees gyda’r Amserau – ef a’r argraffydd o Gymro, John Jones, Castle Street. Bu’r Amserau drwy gyfnodau anodd, ond gyda Gwilym Hiraethog yn gefn iddo, llwyddwyd i’w gadw yn bapur hynod o bwysig Dioddefodd cylchrediad y papur oherwydd iddo wrthwynebu Rhyfel y Crimea. Bob yn ail wythnos y cyhoeddid ef I ddechrau a’I bris yn dair ceiniog a dimai, ond erbyn 1848 ymddangosodd fel wythnosolyn . Yn 1852 symudodd John Roberts ( Ieuan Gwyllt ) o Geredigion yn Is- Olygydd ac yna’n Olygydd. Gostyngwyd ei bris I geiniog am fod Gwilym Hiraethog yn rhoddi ei holl lafur heb dderbyn ceiniog goch Dyna ‘r sefyllfa hyd 1859, pan ddaeth un o fawrion byd cyhoeddi Cymraeg, Thomas Gee i’w brynu a’i uno gyda’r Faner. Daeth Baner ac Amserau Cymru yn gydwybod cenedl gyfan. Consyrn pennaf Thomas Gee yn ei argraffdy yn Ninbych oedd sicrhau addysg i’r Ymneilltuwyr a fyddai’n dod yn rhydd o hualau’r Sais a Seisnigrwydd yr Eglwys Anglicanaidd ac o grafangau’r Wladwriaeth. Cyhoeddwr a golygydd sydd yn haeddu cryn dipyn o gymeradwyaeth yw Isaac Foulkes ( Llyfrbryf:1834-1904 ) a ddechreuodd o ddifrif fel cyhoeddwr yn Lerpwl yn 1863 . Erbyn y nawdegau, roedd Isaac Foulkes yn un o gyhoeddwyr pennaf y genedl Gymraeg , gan ei fod yn cyfuno cymaint o dasgau yn yr un person – fel awdur a llenor, golygydd, bywgraffydd y telynegwr na fu mo’I well John Ceiriog Hughes a nofelydd sydd yn dal I daro deuddeg Daniel Owen , Wyddgrug. Sefydlodd ei swyddfa Olygyddol a pheirianyddol yn Don Chambers, Paradise Street ynghanol hyrl byrli dinas Lerpwl .Gwelodd ei gyfle I gyhoeddi papur wythnosol ar gyfer Cymry niferus Glannau Merswy a’i alw Y Cymro. Llwyddodd I greu papur atyniadol gyda thim o ddawnus bobl o’i amgylch, fel y doniol Lewis William Lewis ( Llew Llwyfo,1831-1901), yr amryddawn O Caerwyn Roberts, T Gwynn Jones ( yn bwrw ei brentisiaeth o 1893 I 1895 ) , colofnydd fel Syr Evan Vincent Evans o Lundain,a John H Jones o Ddyffryn Ardudwy , olynydd teilwng ohono yn y grefft o olygu papur wythnosol Cymraeg , a rhoddodd yn ychwanegol I’r cyfan hyn lwyfan i syniadau chwyldroadol a gwahanol iawn yn niwedd y naw degau , sef sosialaeth yn y Gymraeg, a goleddid gan R .Jones Derfel , un o alltudion pennaf Cymry Manceinion Adnabyddai y rhain i gyd a llawer mwy a gadawodd fwlch mawr yn myd cyhoeddi Cymraeg pan fu farw yn 1904. Llwyddodd ei fab Arthur Foulkes I gadw yr wythnosolyn mewn bodolaeth hyd iddo ei werth i Weinidog o’r eglwys Fethodistaidd oedd yn byw yn Rhuthun gan symud y Cymro i’r Wyddgrug a chyn bo hir ceid cryn dristwch yng nghalon y bardd J Glyn Davies o weld cryn dipyn o ddeunydd yn yr iaith Saesneg yn mhob rhifyn. Roedd ei ddyddiau fel wythnosolyn y Cymry diwylliedig wedi ei rhifo, a dyna stori drist I gnoi cil arno. Soiniai J Glyn Davies fod Y Cymro wedi bod yn ddylanwad iachusol arno ef I’w gadw yn Gymro pan oedd y capel snobyddlyd a gofiai fel Princes Road yn ei orfodi bron I fod yn Farcsydd. Deallai Glyn hefyd mae ar ddaear Cymru nid oedd sicrwydd o gwbl am barhad y Cymro ond yn Lerpwl yr oedd gwell gobaith ganddo I barhau yn mysg y gymdeithas amryliw a geid yn y maesdrefi. . Yn wir ar ol dyddiau Llyfrbryf yr oedd Cymro alltud o’r enw Hugh Evans a adnabyddai Ffoulkes yn dda yn gweld ei gyfle I greu llwyfan yn Gymraeg yn myd newyddiaduriaeth .Dyna un rheswm I’r Cymro symud I Sir y Fflint, ofni ‘r gystadleuaeth yn myd papurau Cymraeg wythnosol oedd ar y gorwel yn Lerpwl . Cychwynnodd Hugh Evans o Wasg y Brython bapur wythnosol yn 1906 sef Y Brython , a dyfodd I fod yn bapur Cenedlaethol o dan y golygydd unigryw John Herbert Jones ( Je Aitsh ) . Fe’i penodwyd yn Olygydd er mai cysodydd oedd ei waith ar y Cymro a bu yn eistedd yn y “Gadair Wichlyd ‘’ chwedl yntau o 1906 hyd Ionawr 1932 pan yr ymddeolodd. Dilynodd esiampl Llyfrbryf yn ei Olygyddol a chasglwyd detholiad campus ohonynt I gyfrolau a gyhoeddwyd yn 1913 a 1920, eto yn 1931 a 1938 . Ni fu’r papur yn gwneud elw o gwbl I’r wasg ond mynnai Hugh Evans a’I feibion gadw y Brython fel wythnosolyn I genedl gyfan . Wed I’r cyfan dim ond yn Lerpwl a Dinbych y llwyddwyd yn yr oes aur I gyhoeddi bapurau Cenedlaethol , sef Yr Amserau, Y Faner, Y Cymro a ‘r Brython . Papurau ar gyfer rhanbarthau a ddeuai allan o Gaernarfon, canolfan arall argraffu a cyhoeddi wythnosolion a chylchgronau yn y Gymraeg yn yr Oes Aur. Ni ddarllenid yr Herald Gymraeg yng Nghwm Cynon fel y gwneid yn Nyffryn Nantlle a Dyffryn Ogwen . Ymddangosodd papurau ar gyfer Siroedd fel y Clorianydd a Heral Mon ar yr ynys . Bu y Mudiad Llafur yn gyfrifol am wythnosolion yn Ystalfera fel Llais Llafur fel y Gwerinwr yng Nghaernarfon. Deuai wythnosolyn yr Eglwys Bresbyteraidd Y Goleuad o Gaernarfon gyda’r cawr E Morgan Humphreys yn Olygydd am gyfnod , ond y duedd oedd fod newyddiadurwyr amatur pob enwad yn mynd ati I gyhoeddi eu wythnosolion neu eu misoliyn ei hunain. Dyn ag inc yn ei waed oedd Dr John Thomas , Lerpwl . Aeth ef ati yn 1856 I gyhoeddoi Yr Annibynwyr , a bu’n olygydd hyd 1861 pan y darfu fel seren wib. Sefydlwyd Y Tyst Cymreig gan dri gweinidog pwerus yn y ddinas sef Gwilym Hiraethog ,Noah Stephens a Dr John Thomas fel papur wythnosol I’r Annibynwyr trwy Gymry gyfan. Ar ol dychwelyd yn ol o East Tennessee yn 1868 cychwynnodd Samuel Roberts Y Dydd yn Sir Feirionnydd.Yna tair blynedd yn ddiweddarach unwyd y ddau gyhoeddiad fel Y Tyst Cymreig a ‘r Dydd , a dyna’r enw am flynyddoedd lawer .Bu dan olygyddiaeth Dr John Thomas o 1872 hyd 1892 , y golygydd gorau a gafodd yr Annibynwyr Cymraeg ar wahan i’r gwron Celtaidd, y Parchedig J .Dyfnallt Owen , Caerfyrddin yn yr ugeinfed ganrif . Rhaid cofio yr holl argraffu cylchgronau a fu mewn trefydd fel Aberdar , ag enwi ond Tarian y Gweithiwr a’r Darian, hwn eto o dan ofal gweinidog yr efengyl, y Parchedig J Tywi Jones ( priod Moelona, awdures llyfrau a galw amdanynt ) Darllenid yr wythnosolion hyn yn awchus gan y glowyr a’r dosbarth gweithiol yn nghymoedd Morgannwg a Sir Gaerfyrddin. Yn yr oes aur hon ar y Wasg saif un ysgolhaig allan o bawb fel y cymwynawr pennaf a hwnnw yw Owen Morgan Edwards sydd o’r diwedd trwy lafur Hazel Walford Davies wedi cael Cofiant o gyfrol sydd yn glasur . Cychwynnodd ef yn Rhydychen a Llanuwchllyn yn 1888 ar ei waith llenyddol , newyddiadurol gwerthfawr. Mewn cyfnod o ryw ddeng mlynedd ar hugain fe gynhyrchodd naw deg ar hugain o gyfrolau , naill ai fel awdur, golygydd neu gyhoeddwr . Edmygaf ef oherwydd fy mod I fy hun o 1960 I 2021 wedi troi allan fel .awdur,golygydd a chyhoeddwr yn Gymraeg oddeutu 450 o gyfrolau a 80 yn yr iaith Saesneg . Bwriadaf y misoedd nesaf gyfrif y cyfan er mwyn cywirdeb. Ofnaf mae y bandiau a chanwyr pop sydd yn cael clod yn ein hoes ni am gynhyrchu llu o recordiau ac nid pobl y Wasg a’r cyhoeddi. Ni allaf gofio namyn neb y tuallan I’r Casglwr yn eu canmol . Cofier I O M Edwards olygu saith cylchgrawn a bod dau ohonynt yn haeddu ein gwrogaeth am ei broffesiynoldeb sef y Cymru( ie Y Cymru Coch ) a Cymru’r Plant . Yr hyn sydd yn fy mhlesio ni ydyw y defnydd a wnaeth y golygydd gwybodus o ffotograffi. Prynodd gasgliad lluniau amrywiol John Thomas, Cambrian Gallery , Lerpwl a thalu o’I boced ei hun I arlunwyr Cymreig megis S Maurice Jones a Kelt Edwards,Ffestiniog am ddarlunio mewn pin ac inc . Bu O.M farw yn 1920 ac yr oedd hynny yn sumbolaidd , sef yn niwedd yr hyn a alwaf yr Oes Aur y wasg Gymreig. Ddaeth neb i gymeryd ei le.