Portread o John Calfin a’i ddylanwad o fewn y Cyfundeb


John Calfin yw arwr pennaf cenedl y Cymry. Bu fwy o ddisgyblion ganddo yng Nghymru na un diwygiwr arall. Er mor wych ydyw Martin Luther a Huldreych Zwingli fel sêr y Diwygiad Protestannaidd ni chafodd un o’r ddau'r un dylanwad o fewn Cymru ac ymhlith y Cymry na John Calfin. Dylanwadodd Calfin ar bob enwad a chorff crefyddol yn gadarnhaol ran amlaf ond weithiau o dan lach rhagfarn. Arddelwyd ei enw gan un o’r cyfundebau hyn, yr unig enwad y gwn i amdano yn hanes gwledydd Ewrop, lle y digwyddodd hynny. Y Methodistiaid Calfinaidd yw’r enw hwnnw. Arddelwyd enw John Calfin yn yr enw swyddogol pan ffurfiwyd y Corff yn y flwyddyn 1811.

Rydan ni yn meddwl mai ni yn oes y teithio trwy’r awyr yw’r genhedlaeth a ddaeth yn gyfarwydd ag Ewrop. Ond nid oes sail o wirionedd wrth y syniad hwnnw. Daeth nifer o Gymry dysgedig i wybod am John Calfin yn ystod ei arhosiad yn Genefa. Yr oedd gan yr Esgob Richard Davies brofiad o fyw fel alltud yn Frankfurt o 1555 hyd 1558 er mwyn osgoi’r erlid o dan Mari Tudur. Fel John Calfin ei hun roedd gan y Cymry galluog fel Richard Davies ddiddordeb di-ben-draw yn yr ieithoedd y lluniwyd yr ysgrythurau ynddynt, sef Hebraeg a Groeg. Pobl y Dadeni Dysg oedd y Calfiniaid cynnar a’i diddordeb yn y clasuron yn ei gwneud yn feddylwyr praff. Ac yng Nghymru roedd ardaloedd lle teyrnasai diwylliant y Diwydiant Dysg. Rhaid enwi un o ddyffrynnoedd hyfrytaf Cymru fel yr enghraifft orau, sef Dyffryn Clwyd. Yn Llanelwy y cychwynnodd Richard Davies ac yn Llansannan, y ganwyd William Salesbury, prif gyfieithydd y Testament Newydd cyntaf yn y Gymraeg. A lle cafodd Salesbury ei ddeunydd, yn sicr yn Genefa ymysg mannau eraill. Yfodd yn helaeth o Testament Genefa, Beibl Genefa, a hefyd mae’n pwyso’n drwm ar fersiwn Theodore Beza, (olynydd Calfin yn Genefa a’i gofiannydd cyntaf), gwaith a gyhoeddwyd yn 1556, yn ogystal â fersiwn Martin Luther a fersiwn prif athro’r Dadeni Dysg, Erasmus o Genefa a Llanelwy a Llanrhaeadr-ym-Mochnant a gwaith gorchestol William Morgan gafodd ein cenedl y trysor godidog, y Beibl, yn ein hiaith. A chofiwn fod Beibl 1588 ar ganol llwybr traddodiad dysg a diwylliant Calfin a Erasmus, Luther a Zwingli.

Dechrau oedd hynny o ran partneriaeth. Aethpwyd ati i gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg lu o lyfrau yn trosglwyddo dysgeidiaeth Calfin i genedl y Cymru. Ysgrifennai a darlithiau athrawon yr Academïau yn yr iaith Lladin a thrwythwyd y Diwygwyr Methodistaidd, fel Howell Harris a Pantycelyn yn iaith deallusion Ewrop. Ond cyn hynny gwyddom fod llawer iawn o’r Cymry Calfinaidd cyn Harris a Phantycelyn yn hyddysg nid yn unig yn Lladin ond yn iaith frodorol Calfin, Ffrangeg, ac yn iaith frodorol Luther, Almaeneg.

Seren fore’r Diwygiad Methodistaidd oedd Griffith Jones, (1683-1761) Llanddowror, a cheir crynodeb o’i ddiwinyddiaeth Galfinaidd, yn ei bamffledi, a’i draethodau, diwinyddol, a’i Catecism. Trwy weithgarwch anhygoel Griffith Jones hyfforddwyd cannoedd ar gannoedd o Gymry anllythrennog i ddod i ddeall hanfodion y Ffydd. Dyna’r praidd bach. Pobl y Seiat Fethodistaidd Galfinaidd. Cyfareddwyd yr arweinwyr gan Galfiniaeth, a phan hudwyd hwy o dan gyfaredd George Whitefield o 1740 ymlaen, yn hytrach nag i wersyll John Wesley, roedd y seiadau a’r ymgyrchu yn mynegi Calfiniaeth yn hytrach na’r ddiwinyddiaeth a darddodd yn wreiddiol o’r Iseldiroedd, sef Arminiaeth. Hwnnw oedd safbwynt John Wesley. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif pan oedd Thomas Charles o’r Bala a Thomas Jones o Ddinbych yn athrawon a deallusion y Mudiad daeth yr enw Methodistiaid Calfinaidd yn enw a anwylid gan y rhai oedd yn benderfynol fel John Evans, Llwynffortun o greu enwad newydd. Defnyddiwyd enw John Calfin fel ansoddair i ddiffinio eu Cristnogaeth ddynamig. Roedd y gair Methodistiaeth yn diffinio eu brwdfrydedd heintus, ei gorfoledd a’u moliant ond roedd Calfiniaeth yn diffinio eu cred ym mhenarglwyddiaeth Duw, eu dadleuon o fewn dosbarthiadau’r ysgolion Sul, yn y Seiadau yn eu capeli ysguboraidd ac yn eu hagwedd Biwritanaidd at foesoldeb a safonau’r gymdeithas o’i hamgylch. I ran fwyaf o’n haelodau ar hyd y cenedlaethau nid oes problem nac anghysondeb i gyplysu'r Calfinydd a Methodist: mae'r naill enw yn cyfoethogi’r llall. Yr unig drafferth yw nad yw ideoleg John Calfin yn wybyddus i aelodau ac arweinwyr ein capeli a phe bawn i yn gofyn y cwestiwn ‘Pwy yw John Calfin?’ yw wyt yn grediniol gredu mai ychydig a fyddai’n medru rhoddi ateb boddhaol i’r cwestiwn. Dyna pam fy mod am ddefnyddio darn helaeth o’r ddarlith hon i ateb y cwestiwn.

Mab i gyfreithiwr eglwysi ydoedd. Ganwyd ef ar 10 Gorffennaf 1509 yn Noyon, tref esgobol yn Picardy, tua 100 cilomedr i’r gogledd o ddinas Paris. Roedd ei dad yn gefnog ac yn awyddus i’w fab gael pob cyfle o fewn yr Eglwys Babyddol. Yr oedd ei fam Jeanne, yn ferch i dafarnwr, ac yn ddefosiynol ei ffyrdd a hardd ei gwedd. Ond bu hi farw pan oedd John, ei phedwerydd mab, yn chwe blwydd oed. Rhoddodd y bychan ei fryd ar fod yn offeiriad Pabyddol. Aeth i Brifysgol Paris yn y flwyddyn 1520 i astudio Diwinyddiaeth a Lladin a Mathemateg. Ond yn sydyn newidiodd ei dad ei feddwl. Nid oedd dyfodol ariannol disglair i fachgen talentog o fewn yr Eglwys Babyddol. Byddai’n well iddo arbenigo yn y Gyfraith. Yn 1525 symudodd Calfin i dref Orleans i arbenigo yn y Gyfraith, ac oddi yno i Bourges. Cafodd yr hyfforddiant yn y Gyfraith ddylanwad parhaol arno yn arbennig wrth gynllunio'r drefn Bresbyteraidd eglwysig. Ond pan fu farw ei dad yn 1531 teimlodd y myfyriwr yn rhydd i droi ei gefn ar y Gyfraith am ei ddiléit pennaf, y Clasuron. Symudodd yn ôl i Brifysgol Paris ym 1532. Roedd ei Athro Groeg, Melchior Wolmar, Almaenwr, wedi ei gyflwyno hefyd i ddysgeidiaeth Brotestannaidd Martin Luther, a chafodd fodd i fyw pan ddaeth argraffiad o’r Testament Newydd Groeg, campwaith Desiderius Erasmus, i’w ddwylo. Daeth yn helaeth o dan gyfaredd y Dyneiddwyr gan mai Erasmus oedd prif ddyn y Dadeni Dysg. Dechreuodd gyhoeddi ar ei liwt ei hun ei lyfr cyntaf, sef esboniad ar gyfrol o eiddo athronydd o Rufain, Senica, cyfoeswr yr Apostol Paul, De Clemencia (Ar Dosturi) a gyhoeddwyd yn 1532. Llosgodd ei fysedd yn y fenter. Oherwydd i Nicholas Cop, Rheithor Prifysgol Paris, fentro canmol syniadaeth Luther cythruddwyd yr awdurdodau eglwysig a gwladol. Am fod Calfin wedi dangos cefnogaeth i safbwynt y Diwygiad bu’n rhaid iddo ffoi am ei einioes i’r Swistir. Gwlad lle'r oedd Protestaniaeth yn dderbyniol. Roedd yr hiwmanydd bellach wedi troi yn Brotestant. Tröedigaeth yng ngwir ystyr y gair. Nid tröedigaeth sydyn ond un a gymerodd 7 mlynedd iddo aeddfedu, i 1527 i 1534.

Ymdeimlodd y gŵr ifanc a thri pheth. Duw oedd wedi ei alw. Cafodd ei lorio’n llwyr gan Ras Duw. Yn ail fe sylweddolodd ei fod ef yn cael ei alw yn Ddisgybl. Dysgwr Duw ydoedd. Ceir y thema yn ei holl bregethau. Yn drydydd roedd y Duw oedd yn galw ac yn cynysgaeddu'r Disgybl ddim yn rhoddi llonydd iddo yn ei lyfrgell. Rhaid cofio hyn o flaen popeth arall. Gŵr swil, ofnus, yn caru’r encilion oedd Calfin. Ei ddymuniad pennaf oedd cael treulio’i ddyddiau ar y ddaear gyda’i lyfrau allan o sŵn o dwndwr a phoen y byd. Ysgolhaig naturiol y tŵr ifori ydoedd. Ond ni chafodd mo’i ddymuniad. Roedd Duw yn ei alw i ganol y frwydr, ac yntau mor anfodlon.

Yn Basel cafodd gyfle gyda’i lyfrau. Fe drodd allan gwaith mawr ei fywyd o argraffdy Thomas Platter ym mis Mawrth 1536. Dim ond chwe phennod oedd yn argraffiad 1536 - dan y teitl Bannau’r Grefydd Gristnogol. Mewn 3 blynedd pan oedd yn Strasbwrg cyhoeddwyd argraffiad arall, llawer mwy o faint, a bu Calfin ar hyd ei oes yn ehangu a chryfhau ei gampwaith. Paratôdd 8 argraffiad yn yr iaith Ladin (1536, 1539, 1543, 1545, 1550, 1553, 1554 a 1559) a 5 argraffiad yn yr iaith Ffrangeg (1541, 1545, 1551, 1553 a 1560). Gwnaeth gymwynas odidog a’r iaith Ffrangeg trwy'r pum argraffiad. I bob pwrpas, hyfforddwr yn egwyddorion y grefydd Gristnogol oedd yr Institutio, a phan ddaeth argraffiad 1559 allan yr oedd y Diwygiwr yn fwy na bodlon. Dyma’r gyfrol bwysicaf a baratowyd yn y Diwygiad Protestannaidd, ac fe gyfrif y gwaith yn un o glasuron pennaf Diwinyddiaeth Gristnogol o fewn y teulu Diwygiedig. Gweler ynddi ddylanwad diwinyddion nodedig y canrifoedd, o Awstin Sant (ei arwr), Thomas o Acwin (meddyliwr craff yr Eglwys Babyddol, yn ogystal â syniadau a safbwyntiau ei gyfoeswyr, fel Martin Luther, Philip Melancthon, Martin Bucer (cyfaill mawr iddo yn Strasbwrg). Mentraf grynhoi’r clasur o dan ddeg o benawdau.


1. Awdurdod y Beibl

Roedd cytundeb llwyr rhyngddo ef a Luther a Zwingh ar y mater hwn. Y Beibl yw llyfrgell y Ffydd. Ond roedd ef yn wahanol i’w gyd-Ddiwygwyr a nodais mewn un peth. Rhoddi Calfin yr un pwyslais ar yr Hen Destament ag y rhoddai eraill ar y Testament Newydd. Ni chytunai ef o gwbl â’r rhai a ddadleuai fod rhannau o’r Beibl, megis Caniad Solomon, Esther ac Epistol Iago (epistol gwellt yn ôl Luther) wedi eu cynnwys yn y Beibl mewn camgymeriad. Iddo ef cabledd yw dweud y fath ffiloreg. Gwaith Duw yw’r Beibl o Genesis i’r Datguddiad.


2. Penarglwyddiaeth Duw

Duw yw’r Bugail a ninnau yn bobl ei gonsyrn, ei gariad, a’i ofal. Penarglwyddiaeth Duw yw credu fod Duw yn llond pob lle. Cofiwn bennill David Jones, Treborth, Bangor a disgybl brwdfrydig John Calfin.


Mae Duw yn llond pob lle,

Presennol ym mhob man;

Y nesaf yw Efe

O bawb at enaid gwan;

Nesáu at Dduw sy dda i mi.


3. Natur Dyn a Natur Duw

I Calfin roedd byd o wahaniaeth rhwng mawredd Duw a bychander dyn. Crëwyd dyn i ogoneddu a mawrygu Duw, ac i Calfin, y mae gwybodaeth o Dduw a’r wybodaeth ohonom ni ein hunain yn un. Ni allwn adnabod Duw heb adnabod ein hunain ac nid ydym yn adnabod ein hunain heb adnabod Duw. Fedr neb edrych arno’i hunan yn y drych heb feddwl yn syth am Dduw.


4. Etholedigaeth

Roedd Calfin yn credu fod y ffydd Gristnogol yn cynnig achubiaeth i bob un a gredo. ‘Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist a chadwedig fyddi’. I Luther a Zwingli y syniad pwysig oedd ‘cyfiawnhad trwy ffydd’ ond i Calfin gwelai ef y drefn yn wahanol. Pwysleisiai etholedigaeth a rhagordeiniad a chostrelwyd hyn yn gofiadwy gan un o’i ddisgyblion o blith Cymry Lerpwl, Pedr Fardd


Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen

Cyn gosod haul na lloer na sêr uwchben,

Fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un

I achub gwael golledig euog ddyn.


Torrodd Calfin ei lwybr ei hun trwy ymresymu fod Duw wedi penderfynu ein llwybrau cyn ein geni. Mwynha ddweud ymhellach fod modd i bob unigolyn i ddod o hyd i’r gyfrinach trwy ffydd a chred, ymroddiad i weithredoedd da, addoli, a gwasanaethu’r Arglwydd. Dyna nodau etholedigaeth. Ond dirgelwch llwyr yn y diwedd ydyw’r cyfan. Daeth dilynwyr y Diwygiwr i gredu yn y syniad o etholedigaeth. Rhoddodd y gredo arbennig hon nerth i bobl anturio a mentro a chenhadu ac adeiladu gwareiddiad ac i wynebu ar erledigaeth. Erlidiwyd Protestaniaid yn Ffrainc a’r Iseldiroedd. Dywedodd Calfin fod y dioddefwyr hyn yn debygol o fod ymhlith yr etholedig rai. Pwy ydach chi a minnau mewn byd bras a braf i anghytuno?


5. Y Sacramentau

Dau Sacrament yn unig - Bedydd Babanod a’r Cymun Bendigaid - oedd yn ei ddiwinyddiaeth. Dyma ddwy ffordd i arwain pob un ohonom at Grist. Credai fod Iesu Grist yn bresennol yn ysbrydol yn y Cymun a bod yr Ysbryd Glân yn cael ei drosglwyddo i ni yn nhoriad y bara a thywalltiad y gwin. Coleddai Luther a Zwingli safbwyntiau gwahanol ac oherwydd hynny bu'r Diwygwyr a’i ganlynwyr yn methu uno gyda’i gilydd yn un Eglwys Brotestannaidd.


6. Yr Eglwys

Gofidiai yn fawr o wel yr Eglwys Babyddol wedi colli’r ffordd ar natur a phwrpas yr Eglwys, a bod yr Ail Fedyddwyr ar y llaw arall yn gweld yr eglwys fel dyfais dynion da, ac y medrwch fod yn ddisgybl hebddi. Nid oedd hyn yn bosib gan mai’r eglwys, yn ei dyb ef, ond y Fam a ninnau yn blant Duw sy’n Dad. Hoffai Calfin sôn am yr Eglwys ddaearol, weledig, yn eglwys filwriaethus, fel y gwnâi Gwenallt yn ei farddoniaeth (un arall a goleddodd Galfiniaeth ar ôl ymwadu â Marcsiaeth). Ond soniai hefyd am yr Eglwys nefol, anweledig a buddugoliaethus, yr eglwys lle mae llawer a fu’n llafurio dros Iesu Grist yng Nghymru ymysg y cwmwl tystion, gweinidogion, blaenoriaid ac aelodau a fu yn ffrindiau da.


7. Trefn yr Eglwys

Ysbrydoliaeth Calfin oedd yr Eglwys Fore. Dyna a’i arweiniodd i sefydlu patrwm Presbyteraidd. O dan y drefn Galfinaidd y Presbyter (gweinidog) oedd y person pwysicaf yn yr eglwys a’i waith oedd cynnal gwasanaethau, pregethu’r efengyl, gweinyddu’r Sacramentau a bod yn gyfrifol am ysbrydoli’r aelodau yn ysbrydol. Pam fod y gweinidog mor bwysig i Calfin? Am mai arno ef mae’r cyfrifoldeb am Ddehongli a Rhannu’r Gair fel y dywed un diwinydd Calfinaidd cyfoes, Timothy George, fel ‘tad yn rhannu’r bara yn ddarnau bychain i fwydo ei blant’. Pregethwyr oedd y bobl i’w hedmygu. Nid oedd amynedd ganddo gyda’r rhai a alwai ei hunain yn esgobion wedi ei gwisgo i fyny mewn dillad theatrig. Ond mewn gwirionedd ddim byd gwell na ‘dummies who never preach’. Mae angen dau lais ar weinidog, yn ôl Calfin, ‘A pastor needs two voices, one for gathering the sheep and the other for driving away wolves and thieves.’ Yna sonia am y Doctoriaid - eu gwaith oedd dysgu’r gwir athrawiaethau i’r bobl a chymryd peth o’r baich o ysgwyddau’r gweinidog. Daw’r diaconiaid wedyn a’u gwaith hwy yw bugeilio'r aelodau sy’n sâl ac yn anghenus ac i gadw’r tlodion rhag digalonni. Dyma wladwriaeth les ar raddfa leol mewn gweithrediad. Yna sonia am yr Henuriaid Lleyg (a alwn ni yn flaenoriaid) gyda chyfrifoldeb am yr eglwys, yr adeiladau, a hefyd i gadw golwg ar ymddygiad y saint a gweithredu disgyblaeth pan fo’r galw.


8. Safle’r Iesu yn ddiwinyddiaeth

Mae’n amhosibl deall safbwynt Calfin heb roddi lle i’r Iesu, ac mae’n amhosibl amgyffred ein Gwaredwr heb y pwyslais Protestannaidd arno fel Proffwyd, Brenin ac Offeiriad.


9. Gweddi

Y bennod hiraf yn argraffiad 1559 o’r Institutes ydyw’r bennod ar weddi. Rhoddodd bedair rheol i ni eu cofio.

a) Dewch at Dduw mewn parchedig ofn

b) Dylem ddod oherwydd ein hangen

c) Rhaid inni ildio bob hyder ynom ein hunain a phledio am bardwn Duw

ch) Gweddïwn gerbron Gorsedd Gras gyda gobaith hyderus.

I Calfin y rhan bwysicaf o’r oedfa yw gweddi’r gynulleidfa. Dywed yn y Bannau, ‘that the chief part of worship is in the office of prayer. Dylai’r weddi gyhoeddus fod yn iaith y wlad, Cymraeg ymhlith y Cymry, nid Lladin ymysg y Saeson na’r Ffrancwyr, ond Saesneg a Ffrangeg.

10. Pwysigrwydd Addysg

Pe bae Calfin yn cael ei ffordd byddai pob capel ac eglwys a’i ysgol ddyddiol. Gweithiodd yn galed ar ffrynt addysg a’i gyfraniad mawr yn ninas Genefa oedd iddo erbyn 1559 lwyddo i agor Academi yn y dref. Cyfunai’r Academi ysgol a phrifysgol, a daeth yn gyrchfan cannoedd ar gannoedd o fyfyrwyr o bob rhan o Ewrop. Mewn llawer ffordd edrychai'r Diwygiwr ar hyn fel ei gyfraniad pennaf. Pwysleisiai bob amser bwysigrwydd addysg. Dyna fraslun o’i ddiwinyddiaeth a’i athroniaeth.


Am ei fywyd fel alltud fe’i treuliwyd mewn dwy ddinas, Strasbwrg fel gweinidog i ffoaduriaid o Ffrainc ac yna yn Genefa o 1539 ymlaen er iddo dreulio dwy flynedd yn Genefa o 1536 i 1538. Gwelodd yr adeg honno angen i lunio polisi clir: angen mwy o bregethu o addysgu, disgyblu a gweithredu. Bu peth llwyddiant, ond gadael y ddinas a wnaeth ym mis Ebrill 1538. Bu’n alltud yn Strasbwrg am dair blynedd, 1538 a 1541. Priododd a gweddw a dau o blant ganddi a ganwyd iddynt fab ond bu farw yn ei blentyndod. Roedd y saga yn Genefa wedi peri loes iddo, a sylweddolodd bwysigrwydd addysg yn ei gyfnod fel athro yn Academi Jacob Strum yn Strasbwrg. Dyma fodel i Academi Genefa. Ac erbyn 1540 roedd cefnogwyr Calfin wedi ennill y dydd. Gwahoddwyd ef yn ôl a dychwelodd ar 13 Medi 1541. Treuliodd weddill ei fywyd yn Genefa. Wynebodd ar wrthwynebwyr - tri math ohonynt. Yn gyntaf gweinidogion diog ac ystyfnig ac aneffeithiol. Cymerodd dair blynedd i ddiarddel y gweinidogion hyn. Yn ail gwrthwynebiad diwinyddol. Bu hon yn bennod liwgar. Dadleuodd gyda Jerome Bolsec, cyn fynach, ar athrawiaeth o ragordeiniad. Enillodd y ddadl yn ôl Cyngor y Ddinas ac alltudiwyd Bolsec o Genefa. Yr ail ddadl oedd gyda Sebastian Castellio, prifathro’r coleg ar ddehongli’r Ysgrythur, yn arbennig Caniadau Solomon. Disgrifiodd Castellio y gyfrol yn ‘anweddus’ a chodi gwrychyn Calfin. Alltudiwyd ef i Lausanne. Yr helynt enwocaf oedd yr un a gysylltir gyda Michael Servetus. Gŵr anodd, dadleugar oedd hwn a phlediwr Undodiaeth. Mewn pennod ddiflas fe’i gosodwyd o flaen y llys am heresi, a phenderfynwyd ei ddedfrydi i’w losgi wrth y stranc. Roedd y mater allan o ddwylo Calfin ond fe amharwyd yn fawr arno fel person unigryw. Wedyn cafwyd gwrthwynebiad gwleidyddol am dros ddeg mlynedd, o 1541 hyd 1551. Un o’r rhai mwyaf trafferthus oedd Philibert Berthelier. Byddai ef a’i gyfeillion yn ymyrryd â phregethu Calfin trwy besychu. Ond erbyn 155 roedd Calfin wedi cael y llaw drechaf, a gallwn yn awr ddadansoddi ei ddylanwad.


a. Trefnydd o’r radd flaenaf. Deuai pobl i Genefa i dderbyn hyfforddiant ar y modd i drefnu’n dda, ac yna dychwelyd i’w hardaloedd i weithredu Calfiniaeth.

b. Cenhadwr. Gwelwyd ei ddylanwad yn treiddio i wledydd Ewrop, yn arbennig Ffrainc, yr Iseldiroedd, yr Alban, Gwlad Pwyl a Hwngari.

c. Pregethwr. Roedd yn bregethwr trefnus ac y mae budd mawr i bawb ohonom o ddarllen ei bregethau heddiw.

ch. Meddyliwr gwleidyddol. Gwelir newid yn ei agwedd yn niwedd ei oes ar ôl yr ymrafael yn Ffrainc a’r Iseldiroedd. Bu ef a’i ddisgybl pennaf, Theoldore Beza yn barod i ystyried cefnogi chwyldro. Daeth Calfiniaeth yn ddiwinyddiaeth oedd yn barod i goleddu chwyldroad gwleidyddol a dyna un rheswm inni weld yng Nghymru Calfiniaid a groesawodd y chwyldro yn Rwsia yn 1917 ac a ddaeth yn aelodau cynnar o’r Blaid Gomiwnyddol.

d. Llenor ac Esboniwr Beiblaidd. Lluniodd esboniadau ar y rhan fwyaf o gyfrolau’r Testament Cyntaf a’r Ail Destament.

dd. Diwinydd Etholedigaeth. Syniad pwysig, canolog yn hanes gwareiddiad y Gorllewin fel y dadleuodd Max Weber ac R H Tawney. Bu Calfiniaeth yn bwysig yn natblygiad cyfalafiaeth.

e. Ysgolhaig. Mae gan E Harris Harbison gyfrol fechan hyfryd, The Christian Scholar in the Age of Reformation (1956) lle mae’n cloriannu ysgolheictod fel galwad Gristnogol, fel yn hanes Jerome, Awstin Sant, Abelard, Tomos o Acwin, ac mewn tri yn benodol, Erasmus, Luther a Chalfin. Y mae Harbison yn cyfrif Calfin yn athrylith am ei fod ef yn medru rhoddi trefn ar ddysg. Meddai ar barch dwfn i ffeithiau am Dduw, am ddyn, ac am y greadigaeth. Ac i Calfin rhaid ysgolheictod fod yn ddefnyddiol ar gyfer bywyd y bobl gyffredin.


Ond er ei holl alluoedd meddyliol ac ysbrydol ni chafodd gorff yr un mor iach. Bu’n wantan ar hyd ei oes, fel myfyriwr ac fel oedolyn. Erbyn 1563 dioddefai o lu o anhwylderau: cerrig yn yr arennau, clwyf y marchogion, llosg cylla, poenai yn ei stumog, arthritis a cholli gwaed yn gyson. Ond daliodd ati i lunio llythyron, i gynghori, ac i bregethu. Traddododd ei bregeth olaf o’i wely. Cariwyd ef ar ei wely i Eglwys Sant Pierre. Daeth ei boen i ben ar 27 Mai 1564. Roedd Theodore Beza gydag ef i’r diwedd, a dywedodd: ‘On that day, with the seeting sun, the brightest light that was in the world for the guidance of God’s Church, was taken back to heaven.’ Nid oedd Calfin yn dymuno clod. Bu farw ar ôl dweud y geiriau: ‘Mae’r cyfan a wneuthum yn dda i ddim... Rwy’n greadur truenus.’ Claddwyd ef mewn bedd cyffredin, ac ni roddwyd, ar ei gais, ‘garreg fedd i nodi lle y ceir ei gorff. Ond fe gofir amdano led led y byd ac yn arbennig yn ein Cyfundeb sy’n arddel ei enw. Mewn amser prin sydd ar ôl, rwyf am grynhoi cyfraniad disgyblion Calfin i bedwar categori.

Yn gyntaf y Calfiniaid Dramatig. Dyma’r disgyblion oedd ar d dros Grist, gwir etifeddion y Diwygiwr Methodistaidd Calfinaidd fel Daniel Rowland, Howell Harris, William Williams, Peter Williams, Howell Davies a David Jones, Llangan. Pencampwyr y pulpud Cymraeg. Cytunwn mai’r mwyaf o bregethwyr dramatig o’r to cyntaf o bregethwyr a ordeiniwyd yn 1811 oedd John Elias o Fôn. Anorchfygol ydoedd. Go brin fod Calfin mor nerthol â’i ddisgyblion. Meddyliwch amdano yn rhoi taw ar y rasys ceffylau ym Manceinion trwy weddïo am i Dduw ymyrryd, a chenllif digymar o law fel ag y ceir yn gyson yn Capel Curig yn rhoi terfyn disyfyd ar y cyfan. Ond nid ef oedd yr unig un, fe’i dilynwyd gan ugeiniau o bregethwyr Calfinaidd oedd bron yn ogyfuwch ag ef, fel Michael Roberts, Pwllheli, Ebenezer Richards, Tregaron, John Jones, Tal-y-sarn, John Williams, Llecheiddior, Henry Rees, Lerpwl, Owen Thomas, Lerpwl, Hugh Jones, Lerpwl, Joseph Thomas, Carno, Edward Morgan, y Dyffryn, Edward Matthews, Ewenni, William Roberts, Amlwch. Ond cofiwn eiriau Mari Lewis o nofel Daniel Owen, Rhys Lewis:


Pwy fedr ddeud yn well – yn well yn wir, pwy fedr ddeud chwarter cystal â Mr Lias – am

Y Cariad sydd yn awr

Yn curo pob cariadau i lawr.

Ond be buase ti yn ei glywed o yn dweud am gyfiawnder Duw a’i ddicllonedd wrth yr annuwiol, mi fase dy wallt di yn sefyll yn syth bin ar dy ben di.d


Yn ail, y Calfiniaid Clasurol. Y Calfiniaid oedd yn dilyn ôl troed Calfin fel addysgwyr y werin ac addysgwyr yr enwad. Rhaid rhoddi lle arbennig iawn yn y fan hon i Thomas Charles a’i Hyfforddwr, best seller y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a Thomas Jones o Ddinbych a’i gyfrol orchestol Merthyrdraith (1,1165 o dudalennau) a gyhoeddwyd yn 1813 a’i bwyslais ar sofraniaeth Duw, ar ryddid cydwybod ar bwysigrwydd y genedl Gymraeg. Mewn gair, gwareiddiad Cristnogol ar ei orau.

Ac o’r traddodiad Calfinaidd y cawsom y cylchgronau fel Y Drysorfa, a’i Olygydd deallus, Dr Lewis Edwards, ac yn arbennig Y Traethodydd, a’r rhyfeddod mwyaf o’r cyfan, Y Gwyddoniadur Cymreig a’i olygydd cyntaf, o’r Bala, John Parry (1812-74), a’i gyhoeddwr, Thomas Gee. Beth oedd arbenigrwydd John Parry? Ei feistrolaeth lwyr ar ddiwinyddiaeth y Diwygiad Protestannaidd, yn arbennig ar waith John Calfin yn y Lladin gwreiddiol. Enwaf ond un arall sef, Dr John Harris Jones (1827-1885), gŵr o Llangeler, a fu’n Athro yng Ngholeg Trefeca o 1865, a hynny am ugain mlynedd. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Caerfyrddin, Prifysgol Glasgow a Phrifysgol Gottingen a lluniodd draethawd ymchwil nodedig, mor arbennig nes i’r Brifysgol ei gyhoeddi. Nid oedd neb yn y Cyfundeb yn oes Fictoria yn gwybod mwy am ysgolheictod y Cyfandir, yr Almaen, yr Iseldiroedd, y Swistir, nag ef, ond ni wyrodd gam o’r ffydd Galfinaidd.

Yn drydydd, Y Calfiniaid Efengylaidd. Dyma faes toreithiog sy’n haeddu llawer mwy o sylw na’r cyfeiriad byr hwn, ond gwn fod yr awch am achub enaid, y nwyd Methodistaidd, wedi dylanwadu ar lu o Galfiniaid cadarn. Pobl y de oedd llawer o’r rhain, a fagwyd yng nghymoedd Morgannwg, ac a ddefnyddiwyd yn helaeth fel efengylwyr. Cymerer er enghraifft William Evans (1795-1891) a gafodd oes hi, gŵr a elwir yn ‘Clocharian Tonyrefail’, a ledaenodd Fethodistiaeth Galfinaidd ym Morgannwg yn nyddiau’r cynnydd mawr, a chofier hefyd am fudiad pwysig, symudiad ymosodol a’r Calfiniaid efengylaidd a fu wrth y llyw, o ddyddiau Dr John Pugh i’r Parchedig Ieuan Phillips. Yn yr ugeinfed ganrif rhaid rhoi’r lle blaenaf i’r Dr D Martyn Lloyd-Jones, Aberafan a Llundain, a’i ddylanwad ar lu o wŷr a merched ifanc a fu’n gynheiliaid y traddodiad Calfinaidd i’n dyddiau ni. Mae hi’n rhestr hir - John Thomas Hugh Morgan, Eurfyl Jones, Gareth Davies, Jim Walters, Lew Jones, Gwyn Walters, Glyn Owen, Eifion Evans, Tudor Lloyd a megis dechrau ydwyf. Dywedodd Derek Swann y gwir:


When Dr Lloyd Jones spoke on the sovereignity of God, many of us, came to the doctrines of grace for the first time, myself included... I remember it was early in the morning in conversation with Gwyn Walters that the truth of election dawned on me. I was so overcome with the wonder of it all that I had to fight back the tears. For many of us since, election has been an affair of the heart as well as the head.


Yn bedwerydd, Y Calfiniaid Beirniadol. Dyma ddosbarth diddorol o fewn yr enwad, y rhai sy’n finiog, sydd yn gwyro weithiau oddi wrth galon Calfiniaeth, ac eto yn cadw’n gadarn i’r seiliau. Mae’n debyg mai’r un mwyaf nodedig ohonynt i gyd ydyw Emrys ap Iwan (Robert Ambrose Jones, 1851-1906) gŵr a dreuliodd ei oes yn Nyffryn Clwyd. Arloesydd yr ymdeimlad pwysig fod angen gwarchod yr iaith Gymraeg, tad yr erthyglau pigog, controversial, a ddilynodd lwybrau'r Calfiniaid gwleidyddol. Bu’r Cyfundeb yn nodedig am y Calfiniaid gwleidyddol ym mhob plaid, o leiaf ymhlith y Rhyddfrydwyr, y Sosialwyr a’r Cenedlaetholwyr, sy’n arddel safbwynt Emrys ap Iwan. Mae ei berorasiwn enwog yn rhan o’r gwneud.


Cofier mai’r Duw a wnaeth ddynion a ordeiniodd genhedloedd hefyd; ac y mae difodi cenedl y trychineb nesaf i ddifodi dynol-ryw, a difodi iaith cenedl y trychineb nesaf i ddifodi’r genedl, am fod cenedl yn peidio â bod yn genedl ymhen mwy neu lai o amser ar ôl colli ei hiaith.


Ymysg y Calfiniaid beirniadol yr ugeinfed ganrif cawn Dr Cynddylan Jones, Dr John Owen, Morfa Nefyn, a’r Parchedig S O Tudor a’i glasur o gyfrol Beth yw Calfiniaeth. Gweinidog gofalus a galluog oedd S O Tudor a chofiaf yn dda amdano yn gofalu amdanaf pan deithiais i fyny o Abercynon i Bwllheli i bregethu yn 1966 yng Nghymdeithasfa’r Gogledd. Ac y mae ei folawd ef i Galfiniaeth yn cloi'r ddarlith hon:


Calfiniaeth yw’r grefydd sy’n dysgu bod moesoldeb wedi ei pherffeithio gan sancteiddrwydd Duw; bod egwyddorion moesol yr Efengyl yn treiddio’n ddwfn ac yn eang i bob gwedd a phob congl o fywyd cymdeithas, bod Duw yn hollalluog nes peri bod gwrthwynebiad i’w ewyllys hyd yn oed yn cael ei droi’n gyfrwng i ddwyn ei ddibenion Ef ymlaen; bod pob teulu o gredinwyr sy’n byw dan ei deyrnas Ef, yn deulu Duw; bod ein bywyd tymhorol yn y byd hwn, gan ein bod o fewn y cyfamod, o’r un natur â’r bywyd a fwynheir gennym yn llawn ymhen y rhawg y tu hwnt i’r llen, bod y cwbl a wyddom ac a ddymunwn, ac a gawn yn feddiant inni, trwy ras a daioni ein Tad nefol, ac nid trwy ein teilyngodd na’n cyfiawnderau ni ein hunain.


Gellir crynhoi agwedd, cyfraniad a diwinyddiaeth John Calfin i frawddeg agoriadol o’r Catecism byr: ‘Diben pennaf Dyn yw gogoneddu Duw, a’i fwynhau yn dragwyddol.’