Cyflwyniad i Yrfa Wleidyddol James Griffiths (1890-1975)

Gan D.Ben Rees

Cyflwyniad I Yrfa wleidyddol James Griffiths (1936-1975) this article was first published in the Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion. Dr David Rees has traced his political involvement since his early days as a miner in the Amman Valley in Carmarthenshire till his retirement to Teddington, Middlesex in 1970. He became an influential trade Union leader within the South wales Miners Union till 1936 and t he death of Dr J H Williams MP for Llanelli. Immediately in House of Commons he became a popular parliamentarian and brought the Beveridge Plan into the Labour Party manifesto for the 1945 Election. Then he was appointed Minister of Pensions and National Insurance, it was the beginning of a remarkable career which brought him into the international scene and the foremost devolutionist for Wales inside the Labour Movement.

Yn hanes y Blaid Lafur Gymreig a’r Blaid Lafur Prydeinig a gwleidyddiaeth Cymru a Phrydain, y mae lle pwysig i James Griffiths.. Yn Awst 2000 ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli , tref y bu ef yn ei gynrychiolu,dangosodd cwmni teledu HTV ar gyfer cynulleidfa S4C, ffilm gyda’r teitl, ‘Jim y Gwleidydd Coll’.1 Cafwyd sylwadau ar y deunydd gan Emyr Price yn Golwg o dan y teitl, ‘Y Gwleidydd ga’dd ei wrthod’. 2 Credaf fod Emyr Price yn agos iddi pan ddywed fod ‘Cymru wedi dewis anghofio gwleidydd pwysica’r ganrif ddiwethaf’. Gallwn ychwanegu eiriau Gwenallt ‘Er yr holl ganmol a fu arnat ti, werin Cymru, yr wyt tithau yn gallu bod mor oriog â’r gwynt, ac mor greulon â Nero wrth dy gymwynaswyr’. 3 Wrth gloriannu ei gyfraniad pwysig, rhyfeddol fel arweinydd rhaid cyfeirio at ei gefndir gwerinol ymneilltuol yn y Betws, ger Rhydaman ac yn arbennig at ddylanwad gapel Gellimanwydd a’r gweinidog, Isaac Cynwyd Evans arno a’r pregethwyr huawdl a ddeuai yn eu tro i gynnal Cyfarfodydd Pregethu yn y capel. O dan ddylanwad y pregethu hyn -a alwaf yn Bregethu Dathliadol- y datblygodd ddawn oedd ganddo fel areithydd ar lwyfannau y Mudiad Llafur. Yr oedd yn y Dosbarth cyntaf fel areithydd. Ar ddiwedd ei yrfa fel gwleidydd dywedodd Charles Pannell, Aelod Seneddol Llafur dros un o etholaethau dinas Leeds, y geiriau hyn amdano:

‘But you really did need to hear Jim at the highnoon of his powers to see a great conference of over a thousand delegates hanging on his every word, and what he liked to call my own immense sincerity’. 4

Bu’n bropagandydd huawdl ar lwyfannau y wlad, a gallai ymffrostio iddo yn ei gyfnod fel arweinydd y glowyr annerch cyfarfodydd ym mhob Neuadd y Gweithwyr a welid yn Ne Cymru. 5 O 1925 i 1936 treuliau pob penwythnos yn annerch cyfarfodydd y glowyr, ac ymhob Etholiad Cyffredinol o 1929 i 1970 bu yn crwydro Cymru a Phrydain yn annerch cyfarfodydd cyhoeddus. 6 Ac ar ôl ei ddewis yn Aelod Seneddol yn 1936 daeth yn un o brif siaradwyr y Blaid Lafur gan gadw miloedd o wahoddiadau o bob rhan o Brydain rhwng 1936 a 1970. Yn wir yn ei atgofion dywed iddo dreulio rhwng 1936 a 1959 dau benwythnos y mis ar deithiau annerch cyfarfodydd o un etholaeth i’r llall. Rhydd deyrnged haeddiannol i’w briod, Wini, oedd mor gefnogol iddo ar hyd y blynyddoedd.

‘The wife of a busy MP has to be half father and mother and my debt to my wife’s partner – in this as in all else – is immeasurable’. 7

Pan ofynnwyd iddo gan Syr Charles Trevelyan un pen wythnos, ag yntau yn aros ar ei aelwyd yn Northumberland, pwy oedd yr areithiwr grymusaf a glywodd erioed, atebodd James Griffiths yn ddiymdroi , David Lloyd George ac yna Winston Churchill. Ond dywedodd Charles Trevelyan:

‘Yes, perhaps for you and would be for me if I had the choice and the order of priority, but I heard Gladstone. To hear him speaking, it was like the organ in a great cathedral’. 8

Ac ar aelwyd yn y Betws , lle ganwyd ef yr olaf o ddeg o blant a hynny ar 19 Medi,1890, yr oedd ei dad,y gof, William Rees Griffiths a’i fam Margaret(nee Morris)yn hanner addoli Gladstone.Felly yn y Betws ger Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin y cafodd James Griffiths ei fagwraeth. Ac yno y penderfynodd ddilyn gwron tra gwahanol i William Ewart Gladstone a hynny yng ngwanwyn a haf 1908. Aeth ef a’i ffrindiau ar ddwy daith, y daith gyntaf i Capel Panteg, Ystalyfera i wrando ar R. J. Campbell a’i bwyslais ar y Bregeth ar y Mynydd o’r Efengylau fel addasiad ymarferol o Sosialaeth. Yno ym Mhanteg y derbyniodd James Griffiths ei dröedigaeth. Bu drwy Ddiwygiad Evan Roberts 1904-5 ond nid achubwyd ef, fel yr achubwyd ei frawd hynaf, Gwilym. Yn Ystalyfera clywodd ef yr alwad o’r Ddiwinyddiaeth Newydd.9

Am weddill ei fywyd, coleddodd Griffiths gred nid yn y ddiwinyddiaeth Galfinaidd y magwyd ef ynddi ond yn neges y Ddiwinyddiaeth Newydd Rhyddfrydol.. 10

Paratoi’r ffordd a wnaeth R. J. Campbell yn hanes y glowr ifanc i Keir Hardie a’i neges yn Neuadd y Glowyr, Gwaun-cae-gurwen. . 11 Atgyfnerthwyd ei dröedigaeth o fewn amser byr, ac ym mis Mehefin clywyd llais T. Rhondda Williams yn y Garnant a Rhydaman. 12 Yr oedd yntau yn enw pwysig arall i’r Ymneilltuwyr oedd yn coleddu Sosialaeth. Dychwelodd James Griffiths o’r cyfarfodydd hyn gyda chrefydd newydd i’w ysbrydoli, achos i ymgysegru ei fywyd iddo, a galwad i’r gad dros y Blaid Lafur Annibynnol.

O fewn wythnos i gyfarfod Gwaun-cae-gurwen ffurfiwyd cangen o’r Blaid Lafur Annibynnol gan James Griffiths yn Rhydaman. Fe gafodd y dröedigaeth ei chryfhau gan y danchwa dan y ddaear yng nglofa Pantffynnon a’r trashiedi a ddaeth i aelwyd yr Efail, i’w rieni, a’i frodyr, a’i chwiorydd ym marwolaeth ei frawd Gwilym a’r llosgi a fu ar gorff Amanwy.. Yr oedd James Griffiths yn rhan o fudiad oedd yn denu pobl ifainc i’r rhengoedd, a llawer ohonynt, fel Kate Roberts yn Rhosgadfan, W. J. Gruffydd ym Methel, T. Gwyn Jones yn Aberystwyth a James Griffiths yn y Betws yn awyddus i ffurfio adain Gymraeg o’r Blaid Lafur Prydeinig. Ni ddaeth dim o’r weledigaeth honno er y bu ymdrech daer yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911 i gadw’n ffyddlon i iaith ei aelwyd ac iaith y lofa, sef yr iaith Gymraeg, ond ni allai hyd yn oed arwr James Griffiths, Keir Hardie, ddygymod â’r bwriad o hunaniaeth Gymreig a fyddai gwneud gwahaniaeth aruthrol i wleidyddiaeth Gymraeg.Claddwyd y syniad da gan Hardie ei hun.

Yr oedd James Griffiths yng nghanol y bywyd gwleidyddol, yn torri llwybr annibynnol ar lawer o’i gyfoeswyr, yn cefnogi achosion amhoblogaidd fel pleidlais i ferched a chefnogi swffragetiaid , yn arddel heddychiaeth trwy flynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn aelod gweithgar o Undeb y Glowyr. Daeth i’w adnabod yn Nyffryn Aman fel gwrthryfelwr, yn un o bobl y chwith a daeth o dan ddrwgdybiaeth yr awdurdodau a gwasanaeth cudd Prydain. Fel y dywed Emyr Price:

‘Roedden nhw’n cael eu hystyried yn fradwyr gan y Wladwriaeth ac yntau, Jim Griffiths, yn ysbïwr’. 13

Daeth chwyldro yn Rwsia i roddi calondid i’r chwith a deuai siaradwyr yn wythnosol i’r Tŷ Gwyn yn Rhydaman i’w hysbrydoli. Un o’r rhai pwysicaf a ddaeth oedd George Lansbury, un a fu’n gefn i James Griffiths fel gwleidydd. Yr oedd consern Lansbury yn gonsern i Griffiths – cyflwr y tlawd, pleidleisiau i ferched, addysg, heddwch. Dyma’r materion y brwydrai y ddau drostynt. 14 Bu effeithiau y Rhyfel yn fawr ar y ddau fel y’i gilydd, a bu James Griffiths yn hynod o ffodus o gael profi adnabyddiaeth a chyfeillgarwch Lansbury ar gychwyn ei yrfa Seneddol.

Erbyn diwedd y Rhyfel yn 1918, yr oedd byd James Griffiths yn newid gan iddo fis cyn Etholiad Cyffredinol 1918 briodi gyda Winnie Rutley o Overton, Swydd Hampshire. Yr oedd hi ar yr un donfedd ym myd Sosialaeth a heddychiaeth ac yn uchelgeisiol iawn ar ei ran.

Erbyn 1918 yr oedd gwaith caled y lofa yn ei gaethiwo. Agorodd y Tŷ Gwyn ei lygaid i’r byd mawr, a thrwy y ddeg mlynedd o 1908 i 1918 lledwyd ei orwelion a bu yn derbyn addysg trwy gyfrwng Mudiad Addysg y Gweithwyr. Dechreuodd freuddwydio am gyfle i dreulio cyfnod mewn Coleg ail gyfle, fel Coleg Ruskin yn Rhydychen. 15 Ond yr oedd ei briodas yn cymhlethu ei sefyllfa, a bu yn hynod o ffodus fod ei briod mor frwdfrydig o’i blaid. Dyma a ddywed ef:

‘But my wife was determined that I should sit for the exam and, if I won a scholarship, she would come to London with me and find her own livelihood’. 16

Oherwydd ei chefnogaeth a’i allu cynhenid llwyddodd i gael addysg ar gyfer arweinydd yn y Mudiad Llafur yng Ngholeg Canolog Llafur Llundain, a chyfle i gymysgu gyda chenhedlaeth o lowyr a ysbrydolwyd gan y Chwyldro yn Rwsia a ddaeth fel yntau yn Aelodau Seneddol ac arweinwyr yn y Blaid Lafur. 17 Daeth i adnabod y mwyaf carismatig o’r myfyrwyr hyn, Aneurin Bevan. Gallai ddweud dros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach:

‘It had been my privilege to know Nye intimately since we both won Miners Union scholarship to the Labour College in 1919’. 18

Aneurin Bevan oedd yr ieuengaf o’r to disglair o gymoedd y De a geid yn Coleg, ac ni allai James Griffiths ond dotio at ei arabedd a dod o dan ei ddylanwad. 19 Daeth hi’n arferiad i’r Cymry gyfarfod bob nos yn Ystafell y Darlithoedd i sgwrsio a dadlau a chymdeithasu. 20 Er y cyfle a’r addysg a dderbyniodd yn y Coleg sylweddolodd , yn ôl un sylwebydd ‘eu bod nhw’n dysgu sut i anwybyddu iaith a chelfyddyd’. 21 Derbyniodd fel eraill gryn lawer o’r athroniaeth Farcsaidd, a mynegodd ei briod ei gwrthwynebiad amlwg o hyn.

‘Jim and I had spent nearly two years in the Marxian atmosphere of the Labour College. We had been taught Marxian Economics and the Materialist Conception of History, and heard these theories discussed ad nauseum! But still we saw it as too narrow a concept’. 22

Daeth yn ôl i Rydaman gyda syniadaeth dra gwahanol i’r hyn a oedd ganddo cyn hynny , a thristwch yn ei galon fod y Tŷ Gwyn a fu’n athrofa iddo trwy flynyddoedd y Rhyfel, wedi ei werthu, a bod addysg y gweithwyr bellach yn frwydr annifyr rhwng y WEA a’r Addysg a gyfrennid gan yr NCLC. Hwy oedd yn cael nawdd Cyngor Sir Gaerfyrddin. 23 Gosodwyd James Griffiths a J. Glyn Evans yn diwtoriaid a chynhelid dosbarthiadau yn Rhydaman, Tymbl, Llandybie, Garnant a Tŷ Croes. 24 Cyfrifid James Griffiths yn Ddarlithydd da yn y pwnc Economeg, ond teimlai ceidwad y ffydd, fel Glyn Evans nad oedd wedi drwytho ei hun fel ag y dylai yn ideoleg Karl Marx. 25 A chredai carfan fechan o lowyr fod angen dipyn mwy ar yr oedolion a ddeuai i’r dosbarthiadau na allai James Griffiths ei gyfrannu. Credai'r glowyr hyn y dylai Dosbarthiadau greu gelyniaeth ymhlith yr efrydwyr yn erbyn capeli Ymneilltuol y fro. Cynhelid rhai o’r Dosbarthiadau hyn ar y Sul er mwyn codi gwrychyn gweinidogion a swyddogion y Capeli. Yr oedd y Sosialwyr hyn yn ddrwgdybus iawn o arweinwyr y Tŷ Gwyn.,ac o James Griffiths. Beirniadodd ef rhai o gefnogwyr mwyaf brwdfrydig Dr J. H. Williams yn etholaeth Llanelli adeg Etholiad cyffredinol 1918.. Pobl y chwith caled oedd y rhain, tebyg i Glyn Evans, a’r darlithydd godidog ar Marcs, Nun Nicholas o Bontardawe.. 26

Yr oedd gan Marcsiaeth ei apêl fel y dywedodd y bardd Gwenallt a fagwyd yn Cwm Tawe, cwm cyfagos i Gwm Aman yn ei gyffes enwog .27

Ni i allodd James Griffiths ymddihatru o’r cefndir diwydiannol, y tlodi, y newyn, crafu byw, streiciau, argyfwng y Rhyfel Byd Cyntaf a’r damweiniau. Yn 1925 cafodd ei hun yn Streic Rhydaman, a’r flwyddyn ganlynol yn y Streic Fawr. Caled oedd hi arno ond ar ddiwedd y streic honno, er ei edmygedd o A. J. Cook, yr oedd ef yn ddiogel yng ngwersyll George Lansbury a hyrwyddwyr y Sosialaeth Gristnogol, yn credu nad oedd streiciau yn ffordd dda i oresgyn anghydfod yn y maes glo. Gwelodd James Griffiths y perygl mawr i Ymneilltuwyr adael y Cyfrinfeydd i ddwyl o eithafwyr. 28

Yr oedd hi’n amlwg fod yr ysbryd Marcsaidd yn colli ei apêl bron yn gyfangwbl i James Griffiths a gwrthwynebodd nifer o’r adain chwith ef yng ngholofnau’r papurau lleol. Ond bu’r streiciau hyn yn foddion cryfhau dylanwad y Blaid Lafur. 29 Ond ar ôl iddo gael ei ddewis yn Asiant y Glowyr, cafodd cyfle i weithio yn ymarferol ar ran y colier. Gwnaeth gyfraniad hynod o bwysig ym myd y glowyr o 1925 i 1936. Yr oedd yr Undeb mewn trafferthion mawr gan fod y rhifau yn gostwng a rhai glowyr yn cael ei denu i Undeb Spencer. Brwydrodd yn arbennig ar ôl iddo gael ei ethol yn Is-Lywydd ac yn Lywydd yr Undeb rhag i’r Undeb gael ei rhwygo, a chadwodd yr Undeb yn fyw ar adeg dyngedfennol, argyfyngus gan ennill dros Undeb y Cyflogwyr yn Gwent a Dwyrain Morgannwg ac ennill mwy o lowyr i ymaelodi yn aelodau o’r Undeb. Yn wir pan ddaeth cyfle i sefyll fel Ymgeisydd Llafur mewn Is-etholiad yn Llanelli yn 1936 yr oedd ef a’i briod yn amharod i adael y Fed. Fel y dywed ei briod:

‘We had become very involved with the SWMF and I had a feeling that Jim could exercise just the right kind of influence on the miners which would be needed in the future’. 30

Fel y disgwylid bu yn llwyddiannus yn yr Is-etholiad a daeth dau wleidydd oedd yn meddwl llawer ohono oherwydd ei egwyddorion a’i waith fel Arweinydd y Glowyr, George Lansbury a Stafford Gripps, i siarad drosto a’i groesawu i San Steffan. Teimlodd i’r byw dros Lansbury yng Nghynhadledd Flynyddol y Blaid Lafur Brydeinig yn 1935.31 O fewn tair blynedd daeth yn adnabyddus o fewn ei Blaid, anfonwyd ef ar deithiau i gyfandir Ewrop, a manteisiodd ar bob cyfle i ofyn cwestiynau yn y Senedd. Yn y flwyddyn gyntaf y bu yn Seneddwr gofynnodd dros gant o gwestiynau ar gyflogaeth, tai a diogelwch. Derbyniodd glod ei gyd-aelodau Seneddol am ei ddawn i lefaru’n huawdl yn y Tŷ Cyffredin. Dywedodd Tom Sexton, Aelod Seneddol Llafur o faes glo Durham amdano:

‘If I had been possessed of the oratory of a Demosthenes or the rhetoric of a golden-mouthed St Chrysostom, I would have been enabled to pay the tribute to the Hon. Member speech which it deserved’.32

Gwnaeth ymddygiad Hitler a Mussolini iddo ailystyried ei heddychiaeth a dod i gasgliad nad oedd ganddo ddewis ond ailystyried seiliau ei athroniaeth. Erbyn 1939 yr oedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith y Blaid Lafur, yn un o 25 oedd yn cael ei dewis yn gydwybod y Blaid Wleidyddol. Yr oedd ef yn un o saith i’w dewis i gynrychioli yn etholaethau. Un o’r rhai a greai densiwn yn aml oedd Harold Laski, ysgolhaig a ddaeth yn ffrind i James Griffiths. Dywedodd amdano:

‘I liked him from that first moment and we remained close friends to the end – his all too early end’.33

Pan fu farw yn 1950 gofynnwyd i James Griffiths dalu teyrnged iddo yn y Cyfarfod Coffa yn Neuadd Conwy yn Llundain.. Daeth hefyd yn bennaf ffrindiau gyda George Ridley, o Undeb Railway Clerks Association a gyda Jim Middleton, Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Lafur Brydeinig.34 Ond o’r mawrion hyn, y mwyaf ohonynt yn ei dyb ef oedd George Lansbury, oherwydd ei heddychiaeth. Yn misoedd cynnar 1939 daeth Lansbury i Lanelli i annerch cyfarfod o Lafurwyr, a’r pnawn hwnnw treuliodd yr Aelod Seneddol oriau ym Mhendine yng nghwmni Lansbury, ac yna yn sgwrsio. Ei ddedfryd yn syml:

‘George Lansbury was one of the greatest men I was privileged to know’.35

Rhoddwyd cyfrifoldeb ar ei ysgwyddau yn ystod blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd fel Ysgrifennydd y Blaid Seneddol Gymreig. Daeth y swydd newydd â chyfle i adnabod pob un o Aelodau Seneddol Cymru o’r tair plaid a gwneud ffrindiau gydag arweinwyr bywyd cyhoeddus Cymru, ac i wrando ar y lleisiau oedd yn galw am fwy o ddatganoli i Gymru. Yr wyf yn barod i ystyried James Griffiths fel un o benseiri Datganoli Cymreig, er mai yn yn y cyfnod rhwng marw ei frawd llengar Amanwy yn 1953 a brwydr Tryweryn yn 1956/7 y daeth i weld datganoli fel blaenoriaeth ei yrfa. Y gwir plaen ydyw hwn fod Cymru wedi bod yn ddigon difater ar gwestiwn datganoli, a chynrychiolwyr Cymru yn y Senedd, yn rhan gyntaf o’r ganrif gyda rhelyw ohonynt yn Aelodau Seneddol a wnaeth mor ychydig dros achos datganoli a hunanlywodraeth.36 Er i Lloyd George ddangos diddordeb ni ellir dweud ei fod wedi cyflawni yr hyn a fedrai o bell ffordd. Daeth Datganoli ar yr agenda yn niwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ond ni ddaeth dim allan o’r Gynhadledd a’r Adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor o 33 o unigolion a fu’n ystyried y pwnc.37 Bu E. T. John yn lladmerydd datganoli er mai Cymro alltud oedd ef am ran helaethaf o’i fywyd .Bu Clement Davies a’i Fesur yn 1937 yn gofyn am i Gymru gael yr un trefniadau ag oedd yn bodoli yn yr Alban, sef Swyddfa ac Ysgrifenyddiaeth,ond methiant fu’r ymdrech honno.. Trefnwyd dirprwyaethau i weld Herbert Morrison, Winston Churchill a Clement Attlee.38 Ond teimlai aml un y gallai Lloyd George fod wedi cyflawni llawer mwy dros ddatganoli.39 Cynhaliwyd Cynhadledd yn yr Amwythig ar 31 Mehefin 1943, pryd y cafwyd unfrydedd o blaid Ysgrifennydd Gwladol i Gymry.40

Ond daeth James Griffiths yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn arweinydd arbennig iawn o fewn Senedd Prydain Fawr, agwedd ohono sydd yn haeddu sylw arbennig. Gellir galw sylw at sylwadau gwerthfawr yr Athro Stephen Brooke a’i ddadl mai James Griffiths oedd yr Arweinydd yr haeddai y Blaid Lafur ac nid H. B. Lees-Smith a Frederick Pethick-Lawrence.41 Rhoddodd gyfeiriad i Lafur ar dri ffrynt. Yn gyntaf ar gwestiwn gwladoli y Diwydiant Glo 42.

.

Addysg oedd blaenoriaeth arall iddo, ac yr oedd ei lais yn amlwg yn y dadleuon a gymerodd le ym Mhwyllgor Canolog y Blaid Lafur. Dadleuodd y dylai anghenion addysg gael eu barnu nid gan wleidyddiaeth ond gan ddyfodol y plentyn.43 Credai fod Ysgolion y Wladwriaeth yn haeddu cefnogaeth, a bod ganddynt fanteision na cheid yn ysgolion a berthynai i’r enwadau crefyddol. .44

Ond ni allai y Pwyllgor Canolog dderbyn ei arweiniad gan fod ei sylwadau ar ysgolion enwadol, Catholig, Anglicanaidd, Methodistaidd, Crynwyr heb dystiolaeth i atgyfnerthu ei ddatganiadau. Ond ar y mater pwysig o Addysg y plentyn, heuodd yr hedyn a ddaeth yn rhan o bolisïau Llafur yn ddiweddarach yn arbennig ar fater yr Ysgolion Cyfun. Claddwyd ei ddadl am y tro ond heuodd yr hâd.45

Ond ar fater Adroddiad Syr William Beveridge y daeth James Griffiths yn gatalyst hynod o effeithiol. James Griffiths oedd Cadeirydd Is-bwyllgor Ail Drefnu Gwasanaethau Cymdeithasol y Blaid Lafur. Yr oedd y Blaid Lafur yn teimlo cyfrifoldeb am Adroddiad Beveridge. Wedi’r cyfan fel ymateb i ddirprwyaeth Cyngres yr Undebau Llafur yn 1941 y sefydlwyd ymchwiliad Beveridge i insiwrans gwladol a gwasanaethau eraill yn y lle cyntaf.46 Gosododd James Griffiths y canllawiau gerbron Cynhadledd Flynyddol y Blaid Lafur Prydeinig yn 1942. Yr oedd Adroddiad Beveridge yn rhan o raglen uchelgeisiol am ddiwygio holl drefniant Prydain wedi’r Rhyfel. Dyma ran bwysig o’i ddatganiad 47

Siarter Diogelwch yr unigolyn y galwai ef y ddarpariaeth yr oedd ei angen ar unigolion Prydain. Deuai Adroddiad Beveridge i fyny i ddisgwyliadau James Griffiths. Ond ar fater lwfans teuluol, prif fater Eleanor Rathbone ers y ddau ddegau, gwyddai James Griffiths, fel Undebwr, am wrthwynebiad yr Undebau Llafur i’r syniad o lwfans teuluol. Gofidiai Leo Amery, Ceidwadwr a gefnogai gynllun Lwfans Teuluol, am wrthwynebiad pendant yr Undebau Llafur a thrwy hynny wrthwynebiad nifer o arweinwyr dylanwadol y Blaid Lafur. Dyma ofid Amery a James Griffiths:

‘... a curious feature about the whole movement was the determined hostility of the Socialist Party generally, and of the Trade Union movement in particular’.48

Un o’r rhai blaenaf i wrthwynebu oedd Ernest Bevin. Dywedodd ef wrth Leo Amery ‘nad oedd yn barod i wastraffu ei amser’, ar y mater o lwfans teuluol.49 Dau arall o’r un farn â Bevin oedd Arthur Deakin a Walter Citrine. Wedi’r cyfan penderfynodd Cyngres Undebau Llafur yn eu Cynhadledd Flynyddol yn Nottingham yn 1930 wrthod y syniad o lwfans teuluol. Ofnent y byddai cyflogau’r gweithwyr yn dioddef fel canlyniad.50

Yr oedd gan James Griffiths frwydr anodd o’i flaen. Dadleuodd o fewn Is-bwyllgor Insiwrans Cymdeithasol y Blaid Lafur o dan gadeiryddiaeth Barbara Ayrton Gould. Yr oedd ef yn un o chwe aelod o’r Is-bwyllgor yn y cyfarfod cyntaf o’r Is-bwyllgor.51 Rhoddodd arweiniad gan ddweud mai ei bwrpas oedd gosod allan fraslun cyffredinol o’i pholisi, ac integreiddio y gwaith gyda phwyllgorau eraill ar faterion cymdeithasol, fel y gellid rhoddi arweiniad i’w gadarnhau yn y Cynhadledd Flynyddol ym mis Mai 1942. Ef a gafodd y cyfle i gyflwyno y penderfyniad terfynol i’r Gynhadledd o dan y teitl, Cynllun am Insiwrans Cymdeithasol, ar ran y Pwyllgor Gwaith. Yr oedd pedwar pennawd i’r Cynllun:

i) Un Cynllun Cyfun o Ddiogelwch Cymdeithasol

ii) Argymell budd-daliadau digonol i roddi diogelwch yn wyneb yr anghenion

iii) Gofalu am daliadau mewn arian o Gronfeydd Cenedlaethol ar gyfer y plant trwy gynllun Lwfans Teuluol

iv) Yr hawl i bob dull o feddygaeth trwy wasanaeth Iechyd Cenedlaethol.52

Gwahoddwyd James Griffiths i gynrychioli’r Blaid Lafur yn yr ymchwiliad swyddogol ar gyfer Adroddiad Beveridge. Ef a gyflwynodd raglen yr Insiwrans Cymdeithasol y Blaid Lafur i’r Ymchwiliad. Gwnaed cyflwyniad ar ran Undebau Llafur a Chymdeithas y Ffabiaid yr oedd ef yn chwarae rhan amlwg ynddi.53

James Griffiths a gymerodd yr awenau yn y crwsâd o fewn y Blaid Lafur Seneddol am weithredu buan ar Gynllun Beveridge. Ymosododd ar Lywodraeth y Coalisiwn, ac fel y dywed Brooke, ‘Before Morrison spoke, however, James Griffiths delivered an eloquent attack on the government’.54 Credai yn gydwybodol fod y Llywodraeth wedi colli ‘cyfle euraid’. Fel Laski, Bevan ac Attlee, dadleuodd James Griffiths fod gan y Coalisiwn gyfrifoldeb i frwydro er mwyn ennill y Rhyfel, ond y peth mawr yn awr oedd gofalu ein bod fel gwlad yn cynllunio byd newydd gwell ar ddiwedd y gyflafan.55

Yr oedd Herbert Morrison yn gwneud ei orau i dawelu James Griffiths ond ni lwyddodd o gwbl. Yr oedd James Griffiths wedi creu storm oedd yn bygwth uniad y Llywodraeth. Gorfododd y Tŷ i bleidleisio, a phleidleisiodd 97 o Aelodau Seneddol Llafur allan o gyfanswm o 150 yn erbyn y Llywodraeth ar ddiwedd y ddadl. Dedfryd yr hanesydd Stephen Brooke yw:

‘The most telling points were made by the unionists and James Griffiths’.56

Yr oedd Arweinwyr y Blaid Lafur o fewn y coalisiwn wedi ei cythruddo yn fawr ac felly hefyd nifer o Aelodau Seneddol Llafur.57 Yr oedd gweithred rebelaidd James Griffiths yn tarfu’r dyfroedd. Cwynodd y Dirprwy Prif Weinidog Attlee yn y Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror am y pleidleisio. Yr oedd Ernest Bevin yn gandryll, gan fygwth ymddiswyddo o’r Cabinet.58 Ond ni ddigwyddodd hynny. Llwyddodd James Griffith gyda’i bersonoliaeth ddengar i dawelu’r storm. A chafodd gyfle yng Nghynhadledd Flynyddol y Blaid Lafur Prydeinig yn Rhagfyr 1944 i bwysleisio unwaith yn rhagor eu cyfrifoldeb i warantu diwygiad cymdeithasol ac i fowldio polisi y Llywodraeth Goalisiwn i raglen uchelgeisiol.59 Gwrandawyd arno, gan i’r Llywodraeth o dan Churchill ac Attlee weithredu Deddf Lwfans Teuluol ym mis Mai 1945..60

Ac yn y Llywodraeth Llafur 1945-50 cafodd ei ddymuniad i fod yn Weinidog Yswiriant arloesol a haedda y disgrifiad ohono fel ‘prif bensaer y Wladwriaeth Les’. Mewn geiriau eraill bu ei welliannau ef fel Gweinidog cyn bwysiced â dewisiadau arloesol Gwasanaeth Iechyd Aneurin Bevan. Yr oedd James Griffiths yn medru adnabod arwyddion yr amserau. Ymafalchiai fod yr Undebau Llafur wedi cynyddu adeg y Rhyfel i dros filiwn a hanner o ran aelodaeth a bod dylanwad Ernest Bevin, yn fawr, y gŵr y bu’n rhaid iddo ei wrthwynebu ar gynllun Lwfans Teuluol. Pwysleisiodd James Griffiths drwy’r cyfan fod Llafur o blaid y dosbarth gweithiol yr oedd ef yn enghraifft dda ohono tra yr oedd y Ceidwadwyr at ei gilydd, ar wahân i eithriadau fel Leo Amery, yn ddi-hidians, ac yn wir ar brydiau yn wrthwynebus i’r cynlluniau oedd yn sylfaen y Wladwriaeth Les. Dywed un hanesydd craff:

‘This was the fact that the social class system had by 1945 created a working class in Britain, united enough to vote together and sufficiently self-confident to vote Labour rather than to abstain or support the Conservatives’.61

Camp James Griffiths oedd cyflwyno manteision oedd yn llawer mwy haelionus nag oedd Beveridge wedi ei awgrymu, yn arbennig yn Neddf Insiwrans Genedlaethol 1946. Gosododd ysgolhaig o’r Unol Daleithiau y gamp ar Ddeddf Insiwrans Genedlaethol 1946 yn y gosodiad canlynol.

‘The Labour Government all its critics and detractors to the contrary, has a justifiable right to look upon this legislation as a great and significant step in the directory of the social security objectives for which it feels that it has fought so long and against each bitter and unrelenting odds’.62

Pennod bwysig arall ym mhererindod James Griffiths fel arweinydd a gwleidydd oedd fel Gweinidog y Trefedigaethau. Gwnaeth cyfrif da ohono ei hun fel Gweinidog y Trefedigaethau mewn amser byr o ddeunaw mis. Yn wir cariodd gyfrifoldeb am y Trefedigaethau ar ôl terfyn Llywodraeth Lafur 1950-1951. Dywedodd mewn ysgol haf yn Medi 1950 fod Prydain ym medi yn y pum degau yr hyn a heuwyd cyn hynny. Gwelodd â’i lygaid ei hun yn Malaya canlyniadau gweinyddiaeth wan.

‘When I was in Malaya I saw the results of under-administration – large areas where effective rule has been usurped by forces inimical to decent, kindly living’.63

Llawenydd iddo oedd cael bod yn gyfrwng cyflwyno Cyfansoddiad newydd neu un a gafodd ei ddiwygio i naw o drefedigaethau rhwng Mawrth 1950 a Hydref 1951.64 Gwelodd yn eglur fod y gwrthdaro rhwng mudiadau rhyddid a Llywodraeth Prydain yn golygu tri pheth, sialens, cyfle a dewis yn dda. Yng ngrym efengyl tangnefedd, y gwelai ef obaith y gwledydd hyn ar lwybr hunan lywodraeth. Dywedodd:

‘But all our efforts will be in vain, unless these people feel that we think of them, as brothers, whose fate is always our concern’.65

Ychwanegodd:

‘There is no security for any of them in domination. Neither white domination or black domination. That way is bitterness and strife. The only way forward is in partnership’.66

Daeth yn ffigwr bwysig i arweinydd y gwledydd oedd yn ymladd am ryddid. Gohebent ag ef, ag ymweld ag ef a’i wahodd i’w gwledydd ar achlysuron arbennig. Gadawodd enw da yn eu plith. . Bu’n rhan o’r broses o droi gwledydd a wybu Imperialaeth Prydain yn wledydd a berthynai i’r Gymanwlad. Perchid ef yn y Cynadleddau Rhyngwladol y bu yn eu mynychu, a safodd yn gadarn yn erbyn apartheid De Affrig. Ei agwedd ef oedd hyn:

‘There is no place in Labour’s Colonial policy for any doctrine of racial superiority. Socialism and Apartheid are utterly incompatible’.67

Safai yn nhraddodiad Cristnogol David Livingstone ac y mae ei gyfrol ar Affrica yn haeddu ei darllen o hyd. Yr oedd mor ddedwydd yn y swydd hon fel iddo, yn ol rhai, wrthod y cyfle i ddilyn Ernest Bevin fel Gweinidog Tramor. Gesyd ei briod y dewis y bu’n rhaid iddo ddod i benderfyniad.

‘It came as a complete surprise to be offered one of the highest posts in the Government. It appeared that Ernest Bevin had expressed the wish that Jim should follow him. Gratifying as such an offer my husband’s immediate reaction was to refuse. We talked it over and we decided it would not be right to accept’.68

Y rheswm gyntaf oedd ei fod yn gwbl fodlon gyda’i gyfrifoldebau dros y Trefedigaethau. Dywed ei briod:

‘Moreover he had grown keenly interested and deeply involved in the affairs of the Colonies and would hate to break the connection’.69

Herbert Morrison oedd y rheswm arall gan ei fod ef mor awyddus am y swydd. Derbyniodd y rhesymeg o eiddo ei briod:

‘He was a senior colleague, and one to whom the Labour Movement, and indeed the country, owed much, and Jim could not bring himself to stand between Herbert and what he most desired’.70

Gresyn hynny gan na fu Morrison yn llwyddiannus o gwbl yn ei swydd fel Gweinidog Tramor.Byddai James Griffiths wedi bod yn llawer mwy atebol yn ôl ei record yn Swyddfa’r Trefedigaethau.

Ond cafodd gyfle arbennig yn y pum degau i chwarae rhan bwysig, mewn adegau argyfyngus, fel Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur. Canolbwyntiodd yn helaeth ar ei swydd gan fod angen cadw y Blaid yn Unedig yn arbennig yn wyneb ymddygiad Aneurin Bevan a’i gefnogwyr, plaid o fewn plaid, a bu’r sefyllfa yn anodd iawn i Attlee ac yn waeth fyth i Hugh Gaitskell. . Griffiths oedd prif ysgogydd y Pwyllgor ar Faterion Gwledig Cymru o dan nawdd y Blaid Lafur. Pwrpas y Pwyllgor hwnnw oedd cynllunio l i ddiogelu diwylliant a thraddodiadau Cymreig’.71

Ni fedrodd uniaethu ei hun â’r Ymgyrch Senedd i Gymru o 1950 i 1955. Gwnaeth ei safbwynt yn glir i’w ffrind, D. Caradog Jones yng ngwanwyn 1954:

‘I favour a Secretary of State with limited Department on lines of the recommendation of the Council for Wales. The decision however went in favour of a Minister for Wales without any other portfolio and with a seat in Cabinet’.72

Erbyn diwedd 1954 daeth Elwyn Roberts, Ysgrifennydd Pwyllgor Ymgyrch am Senedd i Gymru i gysylltiad ag ef gan ofyn am gyfle i drafod gydag ef oblygiadau y llenyddiaeth a gyhoeddwyd ganddynt. Yr oedd dirprwyaeth wedi ei dewis i ymweld ag ef. Enwyd pump, ac o’r pump, un yn unig oedd yn aelod o Blaid Cymru, un yn aelod o’r Blaid Ryddfrydol, a’r tri arall yn aelodau o’r Blaid Lafur.73 Atebodd James Griffiths fod dyletswydd arno’i ymgynghori a’i gyfeillion yn y Blaid Lafur cyn rhoddi atebiad terfynol.74 Atebodd James Griffiths ar 17 Rhagfyr 1954 yn hysbysu Elwyn Roberts fod y Blaid Lafur wedi trafod y mater, ‘a bod dim diben i drafodaeth rhyngom’.75

Yr oedd hi’n amlwg fod Elwyn Roberts wedi ei ryfeddu, ac eglurodd ymhellach ar drothwy’r Nadolig mai pwrpas y cyfan oedd ei weld ef fel medrid trafod ei safbwynt arbennig ef.

‘Atebodd James Griffiths ef yn ddiymdroi gan anghytuno gyda’r llythyr. Dywed:

‘Teimlaf mae nid mater personol i mi ydyw bellach gan fy mod wedi cymryd rhan yn nhrafodaeth fy Mhlaid ar y mater o’r cychwyn hyd at fabwysiadu polisi i Gymru gennym. Rwy’n siŵr y bydd eich Pwyllgor yn cydnabod fod derbyn braint aelodaeth unrhyw Blaid yn haeddu teyrngarwch i’w penderfyniad gwerinol’.76

Yn y llythyr hwn rhoddodd reswm am ei hwyrfrydigrwydd i arwain yr ymgyrch. Yr oedd ef yn gorfod parchu braint aelodaeth, rhywbeth nad oedd yn digwydd fel y dylai ymhlith Aelodau seneddol Llafur yn y pum degau. Yr oedd dilynwyr Bevan yn medru bod yn haerllug a Bevan ei hun yn strancio mor gyson. Nid oedd James Griffiths yn teimlo fod yr adeg yn aeddfed i weithredu felly. Fe ddeuai dyddiau gwahanol a gweithiodd yn ddygn yn arbennig ar Hugh Gaitskell nes ennill ei gefnogaeth i ddatganoli Gymraeg. Ei ddyletswydd ef yn y cyfamser oedd sicrhau unoliaeth o fewn y Blaid Lafur, a gellir dweud iddo lwyddo yn rhyfeddol erbyn i Harold Wilson gymryd drosodd ac arwain hwy i fuddugoliaeth yn 1964 a thrwy hynny wireddu ei ddelfrydau. Llwyddodd oherwydd y fuddugoliaeth etholiadol i osod sylfeini i’r Swyddfa Gymreig a chael ei adnabod yn bensaer datganoli i Gymru.77 Ef oedd y gwleidydd â siapodd y Gymru fodern. Sylweddolodd James Griffiths fod argyfwng iaith, argyfwng Anghydffurfiaeth, argyfwng o fewn y Blaid Lafur, yn annatod â’i gilydd. Y oedd cyfan yn gysylltiedig â’i gilydd. Crynhodd Emyr Price ei gyfraniad fel hyn:

‘Does dim amheuaeth mai Jim Griffiths oedd un o gewri’r Blaid Lafur yn yr ugeinfed ganrif - y gwleidydd a greodd gonsern bod yn rhaid i brif blaid Cymru gerdded law yn llaw â dyheadau cenedlaethol Cymreig, a rhoi i Gymru reolaeth dros ei bywyd economaidd a diwylliannol’.78

Gellid disgwyl iddo orffwys ar ei rwyfau ar ôl ei gyfnod fel Gweinidog Gwladol dros Gymru, ond ni ddigwyddodd hynny. Ysgrifennodd bennod odidog cyn gorffen fel Aelod Seneddol pan dderbyniodd y gwahoddiad i geisio dod â heddwch i wlad fawr Nigeria ac i amddiffyn buddiannau trigolion Biafra. Gwnaeth ef a’i gyfaill o ddyddiau y Blaid Lafur Annibynnol, Fenner Brockway, ymdrech deg ym mis Rhagfyr 1968 i hedfan ddwywaith i gyfandir Affrig ac i Biafra a Lagos. Ond nid dyna’r cwbl. Cawsom fel dinasyddion weld ar ei orau wleidydd o argyhoeddiadau dwfn oedd yn barod i wrthryfela yn gyhoeddus yn erbyn y Blaid Lafur, y bu ef mor deyrngar iddi, ac yn gymodwr o’r cymodwyr. Ond nid oedd James Griffiths yn barod i gefnogi er mwyn cefnogi,ac anwybyddu cri y gorthrymedig o dalaith Biafra. Yn y cyfnod hwn ar ddiwedd ei yrfa seneddol daeth yn ‘halen y ddaear’.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwelwyd ynddo ysbryd gwleidydd o gryn fawredd. Y mae’n ofynnol i bob gwleidydd rywdro neu’i gilydd herio ei blaid. . Ac enillodd edmygedd di-ben-draw am ei fod yn ŵr o ddyfnder argyhoeddiad, o blaid yr iaith, dros y glowyr a’u cymunedau, yn amlwg ym mrwydr dirwest a moes, a datganoli a pharch i’r cenhedloedd ar gyfandiroedd y byd, a’i frwydr wedyn i wireddu Adroddiad Beveridge ac Adroddiad Syr David Hughes-Parry a’i ymgyrch o blaid Biafra. Mewn erthygl yn Alliance News (papur y Mudiad Dirwest ym Mai-Mehefin 1969) pwysleisiwyd mai dyn o argyhoeddiadau ac egwyddorion cadarn ydoedd hwn a adroddodd hanes ei fywyd yn Pages From Memory.

‘Jim Griffiths is shown to be a man of principles, and there is no doubt where he acquired his principles. They came to him from the early influences of the Welsh Nonconformist tradition in which he was brought up. Among those principles was one which this journal encourages, namely, total abstinence’.79

Gesyd y paragraff hwn berspectif arall iddo, sef ei gefndir a’i argyhoeddiadau fel Ymneilltuwyr Cymraeg, ac yn sicr saif fel un o wleidyddion mwyaf grymus a gynhyrchodd Ymneilltuaeth Gymraeg o ddyddiau Henry Richard. Treuliodd y bum mlynedd olaf o’i oes yn ddigon prysur yn maesdref Teddington,Llundain yn darllen,ysgrifennu,llythyru,croesawu ymchwilwyr a Aelodau seneddol, a mwynhau ei blant,pedwar ohonynt a’u teuluoedd. Daeth i ben deithio’r byd ar 7 Awst 1975 a gosodwyd ef ym mynwent Gellimanwyd, ger y Capel lle dechreuodd y daith. Ceir cofgolofnau yn y Brifddinas yng Nghaerdydd i ddau o’r gwleidyddion Cymreig pwysig yr ugeinfed ganrif , sef David Lloyd George ac Aneurin Bevan. A gwir y dywedodd Emyr Price yn y flwyddyn 2000 am absenoldeb cofgolofn i James Griffiths :

‘A’r sgandal fwya’ un yw nad oes cofgolofn deilwng iddo yn ei brifddinas, er bod un yno i Aneurin Bevan. Y mae gwir angen y fath gydnabyddiaeth, a hynny ar fyrder’.80

Aeth tair ar ddeg heibio ers ysgrifennu y frawddeg ac nid oes neb yn sôn am hyn, hyd y gwn i, yn y Gymru gyfoes. Gobeithio y bydd y cofiant y bwriadaf ei gyhoeddi, dau ohonynt ,un y n Gymraeg a’r llall yn Saesneg yn 2014, yn gyfrwng i ddeffro ein hymwybyddiaeth o’i gyfraniad a byddwn yn meddwl o ddifrif am ffordd weledol i’w gofio ar dir Cymru. Y mae’r ysgrif hon yn rhan o’r ymgyrch honno.