y gwron o genefa

Professor Rees was invited to deliver the Davies Lecture in the General Assembly of the Presbyterian Church of Wales. He chose the giant of the Protestant Reformation for no one had written in the Welsh Language a study of him in book form since 1909. This study was welcomed by ministers and elders of the denomination. It includes as biography of his life and work and it was printed in Caernarfon.

Reviews:

Ar ryw olwg, y mae'r Parch. Dr. D. Ben Rees yn belican yn yr anialwch. Nid yn unig o ran egni ac ymroddiad, ac nid yn unig oherwydd ei fod yn yr enwadau sefydledig modem yn cynrychioli safbwynt Calfinaidd. Ond yn syml am ei fod newydd gyhoeddi'r Astudiaeth lawnaf, mewn cyfrol, o fywyd a gwaith Calfin a gawsom ers can mlynedd, a'r orau a gafwyd yn y Gymraeg erioed.

Beth yw Calfiniaeth? Dyma mewn gwirionedd Eciwmeniaeth gredo'r Oesoedd. Dyma'r hyn a geir yng nghyfanswm y Beibl – ac yn asgwrn cefn o safbwynt cynnwys i'r pregethu yn yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, i'r Eglwys Rufeinig, i'r Eglwys Anglicanaidd, ac i'r Eglwys Efengylaidd. Mae'n wir fod yr ugeinfed ganrif wedi ffidlan fwyfwy mewn rhai ffrydiau a heresi – megis arwyddocâd y canhwyllau, a'r gwisgoedd, a'r agwedd at wragedd, a chlychau, ac yn ogystal ynghylch awdurdod y swyddogion, ac yn arbennig ysywaeth pwy ydyw pen yr Eglwys.

Ond os trown at Galfin, gan ystyried yn syml faterion fel realiti 'r Goruwchnaturiol, a Phenarglwyddiaeth Duw ar Fywyd i gyd, yr Ymgnawdoliad (y Duw-ddyn Iesu Grist), y Greadigaeth a'r Farn, y Croeshoeliad a'r Aberth Iawnol , yr Atgyfodiad Corfforol, Aileni'r Cristion drwy'r Ysbryd Glân, awdurdod a gwirionedd y Beibl, yr Argyhoeddiad o Bechod Gwreiddiol, Cyfiawnhad drwy Ffydd a amlygir mewn gweithredoedd gostyngedig: dyna'n gryno ruddin Bannau Ffydd, Calfin. Mae geiriau Calfin yn ymestyn yn ôl yn bennaf i bwyslais dysgedig Paul, ac ymlaen drwy Awstin, Acwin, Luther, hyd at Biwritaniaid Prydain (a'u cynghreiriaid ar y Cyfandir), ac wrth gwrs y Methodistiaid.

Collwyd hyn yn yr ugeinfed ganrif i raddau helaeth yng Nghymru, fel y gwyddom oll, a chaewyd capeli a Cholegau Diwinyddol o'r herwydd.

Ond yn awr, yng Nghymru, yn yr ugeinfed ganrif ar hugain – yn arbennig yn Saesneg – ond nid yn Saesneg yn unig, ac nid yn unig drwy weithgareddau'r Mudiad Efengylaidd, eithr drwy gyfrwng yr enwadau traddodiadol hefyd drwy drugaredd yma ac acw – er yn Gymraeg i raddau llai o lawer – ceir clywed sioc Efengyl y Ffydd Ddiffuant. Mae'r Beibl a Chalfin yn taranu heddiw o'r newydd. Ac enw Iesu Grist yn falm ac yn ddychryn, yn Iachâd ac yn Gondemniad, a gweision yn traethu'r Gwirionedd Tragwyddol o'r newydd. Ymhlith hyrwyddwyr y ffydd glasurol hanesyddol bu gwaith Calfin yn ddeinameg arbennig, yn Ewrop, a bellach yn Tsieina a Chorea. Ymhlith y lleisiau hyn y clywir D. Ben Rees.

Ganed John Calfin ym 1509 a bu farw ym 1564. Dyma gyfnod y Ddeddf Uno rhwng Cymru a Lloegr.

Erbyn y cyfnod hwnnw yr oedd Duw wedi caniatáu i ddynion ddyrchafu heresïau sylfaenol mwy amryfath o fewn Eglwys Rhufain. Ymhlith y cewri dewr, a ymatebodd â dealltwriaeth ddyfnach o'r Ysgrythur, ceid rhywrai o fewn Eglwys Rhufain ei hunan, ond yn bennaf Luther, Zwingli a Chalfin. Arweiniodd yr Ysbryd Glân bobl Dduw dros y canrifoedd ledled y byd hyd y dydd heddiw.

Mae'n wir mai'r Beibl yw'r unig ffynhonnell berffaith o ddysgeidiaeth. Ond y mae'n wir hefyd fod angen cyflwyno'i neges ym mhob cenhedlaeth o fewn anawsterau a pheryglon pob cefndir yn anhepgor.

Mae Dr. Rees yn fywiog ac yn gryno wedi cyflwyno inni amlinelliad eglur o fywyd cyffrous Calfin ac o'i gymeriad, 'yn swil ac yn caru'r encilion ac yn dosturiol wrth y caethiwus. Ysgolhaig gwangalon oedd y disgrifiad a roddodd Calfin ohono ef ei hun. Ni fyddai yn gysurus o gwbl o amgylch y bwrdd cinio ar aelwyd Luther. Mor denau â rhaca, cyfrifid Calfin un a oedd yn "llwgu" yn aml. Ar y gorau ni fyddai yn bwyta mwy nag un pryd bach o fwyd y dydd er mwyn cadw ei feddwl yn glir ac amddiffyn ei gorff egwan rhag yr holl ddoluriau a'i blinai. Tra byddai Luther yn chwerthin yn ddilywodraeth wrth yfed ei beint o gwrw, ciliai Calfin o'r fath awyrgylch er mwyn darllen ac ysgrifennu ar gyfer pregeth, darlith ac ysgrif.' Un o'i nodweddion y dyry Dr. Rees gryn sylw iddo oedd ei fedr i gymodi rhwng pobl – nid oherwydd unrhyw gyfaddawdu na dofi, ond oherwydd dyfnder ei drugaredd tuag at ei gydweithwyr a'i hiraeth am eu calonogi.

Un peth arbennig a bwysleisir gan Dr D. Ben Rees yw'r dimensiwn rhyngwladol i weithgarwch Calfin. Bu ef ar grwydr wrth ennill ei addysg, yn ystod teithiau a'i harweiniai i drigo mewn sawl lle am gyfnod hir, wedyn oherwydd fföedigaeth a sawl arhosiad estynedig yng Ngenefa. Bu'n fyfyriwr ym Mharis ac yn Bourges. Bu yn Basel yn gweithio ar ei gampwaith Bannau'r Ffydd. Cartrefodd gyda'r diwygiwr Martin Bacer am gyfnod. Gwelai'r math o neges yr oedd ei hangen ym mhob parth.

Heblaw hanes ei fywyd, amheuthun yw arolwg Dr. Rees o'i gyhoeddiadau, ac yn arbennig wrth gwrs o'i Fannau. Mae'n adeiladu Pennod 12 yn benodol i ddisgrifio fframwaith y fersiwn terfynol ar y gyfrol honno, gan fod yna fwy nag un argraffiad. Ond carwn ddyfynnu un dam arwyddocaol:

'Y gair pwysig i Calfin fel diwinydd oedd "gwybodaeth"; ceir y gair trwy gydol ei ddiwinyddiaeth. Iddo ef y mae gwybodaeth yn fwy na rheswm: y mae'n cwmpasu ei holl alluoedd. Ond y peth pwysig iddo oedd trafod sut y mae'r person dynol yn dod yn ymwybodol o Dduw, sut y mae ef yn dod i berthynas â Duw, a sut y mae Duw yn gweddnewid y berthynas, ac yn arwain a diogelu'r crediniwr yn ei daith ar y ddaear: Ymgais i adrodd y stori fawr honno yw diwinyddiaeth Calfin.

Rhannodd y gyfrol i bedair rhan. Yn gyntaf cawn ein cyflwyno i Dduw'r Creawdwr, yn yr ail gyfrol i Dduw'r Achubwr, yn y drydedd trafodir y modd y mae Gras Iesu yn cael ei dderbyn, ac yn y bedwaredd ymdrinir â'r canllawiau sydd gan Dduw i gynorthwyo Cristion i ymddiried yng Nghrist.

Cychwynna Calfin ei ymdriniaeth â ddiwinyddiaeth gyda’r cwestiynau mwyaf amlwg, sef Pwy yw Duw? Pwy ydwyf i? Sef yr hyn a eilw yn wybodaeth o Dduw a gwybodaeth ohonom ein hunain. Ond y mae'r ddau gwestiwn yn berthnasol i'w gilydd. Ni allwn gael golwg gywir arnom ein hunain cyn inni weld yn gliriach ein Creawdwr; ac yn hytrach na dewis un o flaen y llall, dywed Calfin fod yn rhaid i ni edrych ar y ddau, sef Duw a dyn.’

Bron yn ddieithriad, yr hyn sy'n tanseilio Efengyl Iesu Grist ym mhob cenhedlaeth yw hiwmanistiaeth o ryw fath – sef dyrchafu'r Ego ar draul y Duwdod. Medd Dr. Rees: Dywediad gwych o eiddo Calfin yw hwnnw pan ddywed fod y meddwl dynol yn aml fel 'ffatri creu eilunod'. Ers 70au'r ugeinfed ganrif tan yn ddiweddar, bu ôl-foderniaeth yn y ffasi wn. Ond daethpwyd i sylweddoli erbyn hyn fod banio'r Absoliwt yn golygu gwadu sefydlogrwydd ystyr, a bod relatifrwydd yn anymarferol yn y pen draw. Enghraifft amserol oedd hyn i ddangos ysfa pob cenhedlaeth i gwcian gwrth-Gristnogaeth ei hun, ac eto fod yn yr un twll.

Ceir pennod dreiddgar ar berthynas Calfiniaeth a'r Gymdeithas neu weinyddu dinesig. Cafodd Calfin gryn brofiad ymarferol yn y gwaith o gynghori trefniadaeth gymdeithasol ddatganoledig. Ac ymhelaetha Dr. Rees ar ei ddylanwad ar y Cymdeithasegydd enwog Max Weber ac ar hanesyddiaeth Sosialaidd gan R. H. Tawney.

Unwaith eto, yr ydym yn ddyledus i'r awdur hwn am ei ddyfal barhad wrth ddarparu deunydd i gyfoeswyr o Gymry feddwl yn y Gymraeg ac i beidio â bodloni ar ysgafnder y poblogaidd a'r rhwydd.

Bobi Jones (Aberystwyth)